Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Un maes lle gallem roi mwy o gamau ar waith, yn fy marn i, yw mewn perthynas ag ansawdd llety rhent. Yn amlwg, mae gennym safon ansawdd tai Cymru, sy'n beth calonogol iawn yma yng Nghymru, ond un o'r llofruddion distaw, llofrudd anweledig, sy'n amlwg yn lladd pobl yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU, yw carbon monocsid. Yn anffodus, nid oes gan lawer o gartrefi synwyryddion carbon monocsid cymharol rad lle mae offer sy'n defnyddio nwy yn bresennol. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r llofrudd distaw ac anweledig hwn fel y gallwn fod yn sicr fod pobl, yn enwedig y rheini mewn llety rhent, yn cael eu diogelu rhagddo?