Safonau Diogelwch Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:51, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a basiwyd gan y Senedd hon yn ôl bryd hynny, pan fydd ar waith, yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sicrhau bod eu hannedd yn addas i bobl fyw ynddi. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod rheoliadau ar gyfer pennu a yw adeilad yn addas i bobl fyw ynddo, ac mae hynny'n cynnwys gofyniad i gael larymau carbon monocsid a larymau mwg sy'n gweithio a phrofion diogelwch trydanol mewn unrhyw dŷ yn y sector rhentu preifat. Felly, mae'r Bil eisoes yn cynnwys hynny. Rydym wrthi'n rhoi'r Bil hwnnw ar waith. Pan ddaw'n weithredol, bydd y drefn honno'n weithredol hefyd.