Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Rydym yn siarad â phob un o’r 11 cyngor sydd â chyfrif refeniw tai, gan gynnwys sir Gaerfyrddin, am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i roi hwb i'r gwaith o adeiladu tai cyngor lleol ar raddfa fawr ac yn gyflym. Cyfarfodydd un i un yw'r rhain i helpu i ddarparu cefnogaeth bwrpasol i bob awdurdod unigol, ac mae'r trafodaethau gyda sir Gaerfyrddin wedi bod yn gadarnhaol iawn.