Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Rwy'n cytuno ag egwyddor y polisi a rhan olaf eich datganiad—fod angen y llochesi brys dros dro hyn arnom o hyd. A gaf fi dynnu eich sylw at y bygythiad i loches nos y Wallich yng Nglan yr Afon? Fel y gwyddom, mae cysgu allan wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf—yn ôl mesurau'r arolwg, beth bynnag, ymddengys bod hynny'n wir. Ac mae angen inni sicrhau bod arferion gorau, fel y rheini a ddatblygwyd gan y Wallich, sydd wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned hon ers dros 20 mlynedd, yn cael eu cynnal cyhyd ag y bo'u hangen.