Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl heddiw a'r cyfle i drafod gweithrediad deddfwriaeth lefelau staff nyrsio arloesol Cymru. Mae'n dda gweld cymrawd o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a oedd yn Aelod cyfrifol ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, yn y Siambr heddiw hefyd.
Ynghyd â chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, rwy'n cydnabod y rôl allweddol y mae nyrsys yn ei chwarae yn ein timau amlddisgyblaethol, yn darparu gofal iechyd ledled Cymru. Mae darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy yn dibynnu ar ein gallu i hyfforddi, recriwtio a chadw nyrsys, ynghyd â staff eraill y GIG, yn ein system gofal iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae sicrhau bod gennym y nyrsys rydym eu hangen yn her yma yng Nghymru ac yn llawer mwy eang ar draws y DU a thu hwnt. Yn Lloegr, er enghraifft, mae cyfradd y swyddi gwag yn y gweithlu nyrsio bron ddwywaith cymaint â'r gyfradd yng Nghymru. Ond yng Nghymru, rydym wedi dewis peidio â gwanhau'r gweithlu nyrsio drwy gyflwyno nyrsys cyswllt, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Mae'r camau gweithredu sydd eu hangen i ateb yr heriau a wynebwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Ddeddf lefelau staff nyrsio. Fodd bynnag, mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol a nodwyd yn cydnabod nifer o effeithiau cadarnhaol y Ddeddf hyd yma. Er enghraifft, wedi i'r Ddeddf ddod i rym, gwyddom fod mwy na £17 miliwn o arian ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi i gynyddu ein gweithlu nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Mae hwnnw'n fudd uniongyrchol a gweladwy i'n nyrsys rheng flaen, i'r staff y maent yn gweithio gyda hwy ac yn anad dim, i'r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.
Clywn yn rheolaidd gan nyrsys, hyd at y lefelau uchaf, fod y Ddeddf wedi gwneud gwahaniaeth clir i'r pwys a roddir ar eu barn broffesiynol pan fyddant yn cael yr hyn sy'n gallu bod yn sgyrsiau anodd am lefelau staff nyrsio gyda'u cydweithwyr. Roedd hwn yn un o'r rhesymau allweddol dros basio'r ddeddfwriaeth fel ag yr oedd, ac mae wedi bod yn galonogol iawn clywed ei bod eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Ar y cyfan, rwy'n gadarnhaol ynglŷn â pha mor gyflym y mae ein byrddau iechyd wedi addasu i'w dyletswyddau newydd, a dylai'r Cynulliad hwn fod yn wirioneddol falch o'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn unfrydol gennym dair blynedd yn ôl. Ac roeddwn yn sicr yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y Llywodraeth hon yn ymestyn ail ddyletswydd y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda staff o bob bwrdd iechyd drwy'r rhaglen staffio nyrsio Cymru. Yn y modd hwn, rydym wedi nodi a dechrau mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n cael eu cynnwys fel argymhellion yn adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yn ddiweddar, dyrennais gyllid ar gyfer dwy swydd gwybodeg yng Ngwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru i weithio gyda rhaglen staff nyrsio Cymru i fwrw ymlaen ag ateb TG cenedlaethol. A bydd hynny'n helpu byrddau iechyd i gyflawni eu dyletswyddau adrodd o dan y Ddeddf.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i allu mesur effaith y ddeddfwriaeth arloesol hon yn gywir. A chan mai dynwared yw'r ganmoliaeth eithaf, mae'n dda gweld bod yr Alban wedi dilyn ein harweiniad, ac mae sgyrsiau difrifol ar y gweill yn Lloegr hefyd. Ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth yn y dyfodol yn dilyn ein harweiniad yn Lloegr.
O ran gwerthuso, byddaf yn comisiynu gwerthusiad annibynnol trylwyr a drefnwyd i gyd-fynd â diwedd y cyfnod adrodd tair blynedd cyntaf ym mis Ebrill 2021.
Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd, ac rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch niferoedd, yn ogystal â chadw staff. Mae'n demtasiwn nodi, dyweder, ein bod wedi cadw 1,900 o nyrsys ychwanegol dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd ein hymdrechion ac felly, pan feddyliwch am y peth, yn hytrach na chael gostyngiad bach yn y niferoedd hyn y llynedd, mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu nifer y nyrsys dros bum mlynedd. Ond rwy'n credu y dylem adael y siarad dwbl i bobl eraill, oherwydd y gwir amdani yw ein bod, o fewn y tymor Cynulliad hwn, wedi cynyddu nifer y nyrsys cofrestredig ac aelodau o'r teulu nyrsio sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth iechyd gwladol. Ond y llynedd, am y tro cyntaf, gwelsom 65 yn fwy o nyrsys yn gadael GIG Cymru nag a ymunodd ag ef.
Er hynny, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, a arweiniodd at gynnydd mewn lleoedd hyfforddi nyrsys o 1,053 yn 2014 i 1,987, yn dilyn fy nghyhoeddiad diweddar ar fuddsoddi mwy fyth mewn hyfforddiant i nyrsys. Mae'r buddsoddiad hwnnw hefyd yn cynnwys 140 o leoedd ar raglenni dychwelyd i weithio ar gyfer nyrsys. Ac eleni, graddiodd 970 o nyrsys yng Nghymru, o gymharu â 778 yn 2018. Felly rydym yn gwneud cynnydd bwriadol a phendant wrth hyfforddi mwy o'n nyrsys ein hunain. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.