– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Felly, yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar lefelau staff nyrsio. Dwi'n galw ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7215 Helen Mary Jones, Dai Lloyd, David Rees
Cefnogwyd gan Delyth Jewell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2. Yn nodi bod mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig hwn ar ran Dai Lloyd, David Rees a minnau. Mae Delyth Jewell yn ei gefnogi, ond rwy'n siŵr y byddai wedi cael cefnogaeth gan fwy o Aelodau ar draws y Siambr pe baem wedi cael mwy o amser i'w gyflwyno.
Hoffwn ganmol adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol i'r Siambr hon. Mae'n cynnwys ymchwil gadarn. Mae'n tynnu sylw at y cynnydd ar weithredu'r Ddeddf, lle mae hynny wedi'i gyflawni, ond mae hefyd yn galw, yn cwestiynu, lle nad yw pethau'n mynd cystal ag y dylent. Mae'n nodi cyfres o gwestiynau ar gyfer pob bwrdd iechyd mewn perthynas â gweithredu’r Ddeddf, a naw argymhelliad manwl ar gyfer Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â nifer o faterion, gan gynnwys yr angen i fonitro'r gweithredu yn fwy cadarn, mwy o gefnogaeth i nyrsys rheng flaen sy'n codi pryderon ynghylch gweithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol, a datblygu llwybr TG cenedlaethol i gefnogi'r gweithredu.
Mae argymhellion yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar gadw staff, ac mae hyn, wrth gwrs, wedi'i adlewyrchu yn ein cynnig. Nawr, rydym wedi, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gydnabod bod y Gweinidog wedi gwneud rhywfaint o gynnydd mewn perthynas â recriwtio nyrsys a chyda'r gweithlu nyrsio—mwy o leoliadau hyfforddi, er enghraifft. Ond mae cadw staff yn parhau i fod yn broblem ddifrifol iawn, ac mae'r adroddiad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lunio strategaeth gadw staff fel rhan o strategaeth gadw staff genedlaethol. Mae'n rhaid i'r strategaeth gadw staff genedlaethol honno, dywedant, gynnwys ymagwedd genedlaethol tuag at weithio hyblyg.
Mae'n rhaid inni gael dull hirdymor ar gyfer cadw ein staff nyrsio. Rydym wedi bod yn sôn ers 20 mlynedd, hyd y gwn i, am yr angen am weithio hyblyg. Wrth gwrs, mae heriau i'w cael, ac mae'n bwysig iawn sicrhau bod lleoliadau nyrsio wedi'u staffio'n effeithiol. Ond gweithio hyblyg yw'r norm yn y rhan fwyaf o broffesiynau bellach, ac nid yw byrddau iechyd lleol wedi gweithredu ac mae angen arweinyddiaeth genedlaethol arnom. Mae arferion da i'w cael, wrth gwrs. Ond unwaith eto, rydym yn wynebu'r broblem nad yw arferion da yn cael eu rhannu'n effeithiol.
Nid wyf am gymryd gormod o amser yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, gan fod yr achos wedi'i nodi'n glir yn yr adroddiad, a gwn ei fod ar gael i'r holl Aelodau. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei ymateb, yn derbyn, er bod gennym, fel y dywed y cynnig, fwy o nyrsys yn gadael ein GIG nag sy'n ymuno ag ef, yn aml yn mynd i weithio mewn asiantaethau ac yn dychwelyd mewn gwirionedd i'r un lleoliadau ag y maent wedi'u gadael, er bod hynny'n digwydd—ac mae'r nyrsys yn gwneud hynny am eu bod yn cael gwell telerau ac amodau, ac yn bwysig iawn, hyblygrwydd—a thra bod gennym 1,600 amcangyfrifedig o swyddi nyrsio heb eu llenwi, mae'n argyfwng ar hyn o bryd yn ein gweithlu nyrsio. Rwy'n gobeithio'n arbennig y bydd y Gweinidog yn derbyn yr angen am strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys fel y gellir cyflwyno'r dulliau da, lle maent yn gweithio, ar raddfa ehangach, a gallwn sicrhau nad ydym yn hyfforddi'r aelodau staff gwerthfawr hyn ac yna'n eu colli.
Bydd yr Aelodau wedi derbyn gohebiaeth gan nyrsys yn eu hetholaethau. Credaf fod pob un ohonom wedi cael nifer o gardiau post yn ein hannog i gefnogi'r cynnig hwn a chefnogi'r galwadau am weithredu yn yr adroddiad. Maent yn gofyn i ni gefnogi, ymhlith pethau eraill, strategaeth gadw staff genedlaethol, ac mae angen hyn, oherwydd fel y dywedodd un nyrs o Lanelli mewn cerdyn post ataf, mae angen inni gadw staff, lleihau gorweithio ymhlith staff, ac yn anad dim, cadw cleifion yn ddiogel.
Cymeradwyaf y cynnig hwn i'r Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl, at ymateb y Gweinidog i'r cynnig ac at ymateb David Rees i'r ddadl. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd rwy'n credu ei bod yn amserol dros ben. Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd un neu ddwy o'r ffeithiau: fod nyrsys yng Nghymru, bob wythnos, yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG sy’n cyfateb i 976 o nyrsys amser llawn. Os ydych yn ei ddweud yn gyflym, nid yw'n golygu cymaint â hynny, ond mewn gwirionedd, os ydych yn arafu ac yn meddwl am y peth mewn gwirionedd, rydych yn siarad am 976 o gyrff ychwanegol y mae ein nyrsys yn eu rhoi o'u gwirfodd eu hunain, oherwydd bod ganddynt ymrwymiad i'r ddyletswydd y maent yn credu bod yn rhaid iddynt ei chyflawni. Felly hoffwn ddiolch i'r holl nyrsys hynny am bopeth y maent yn ei wneud.
Rydym yn gwybod bod GIG Cymru yn dibynnu’n fawr ar barodrwydd nyrsys i weithio goramser, ond wrth gwrs mae gwaith diddiwedd a goramser diddiwedd yn creu straen diddiwedd, ac yn lle cymell ein nyrsys i aros, yn lle edrych ar sut y gallem liniaru hyn, un o'r pethau rwy’n eu gweld yn arbennig o od yw bod GIG Cymru yn ceisio annog nyrsys i beidio â gadael drwy fesurau fel gwrthod llogi nyrsys asiantaeth sydd hefyd yn gweithio i fyrddau iechyd neu ymddiriedolaethau, neu ganiatáu i nyrsys symud o gwmpas. Felly rydych yn gweld y cymhelliant gwrthnysig hwn lle gallai fod gennych nyrs, er enghraifft yn Hywel Dda, sydd angen ennill ychydig o oriau ychwanegol ond nid yw’n gallu gweithio’r oriau ychwanegol hynny yn Hywel Dda. Mae'n rhaid iddo ef neu hi fynd dros ffin i fwrdd iechyd arall lle maent wedi'u cofrestru i weithio’r oriau ychwanegol hynny. I mi, mae hynny'n ymddangos yn hollol afresymegol, yn enwedig pan fo’r bwrdd iechyd y maent yn ei adael fel arfer yn talu hyd yn oed mwy o arian i nyrsys asiantaeth. Mae’n gymaint gwell talu goramser i bobl i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud, er mwyn caniatáu iddynt barhau i weithio yn y man lle maent yn teimlo fwyaf cyfforddus.
Mae pryder ynghylch hyfforddi, ond rwyf am adael eraill i siarad am hynny. Roeddwn eisiau cyffwrdd â'r ffaith mai ychydig iawn o nyrsys cofrestredig sydd gennym yn y gweithlu cartrefi gofal yng Nghymru, a chredaf fod hwn yn faes sy'n gwbl hanfodol. Nid yn unig nad oes gennym lawer iawn o nyrsys mewn cartrefi gofal—ac wrth i fwy a mwy o gartrefi gofal ymdrin â phobl â chyflyrau mwy a mwy cymhleth, mae mwy o angen nyrsys, mwy o angen y gweithwyr meddygol proffesiynol hynny—nid yn unig nad oes gennym ddigon ohonynt, nid ydynt hyd yn oed yn cael yr un faint o arian ag y byddai nyrs mewn ysbyty yn cael ei thalu, neu’r un faint o arian ag y byddai nyrs yn y gymuned yn cael ei thalu, nad yw mewn cartref gofal. Unwaith eto, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddweud, os ydych wedi cyrraedd y lefel hon yn eich gyrfa nyrsio, os oes gennych gymaint o hyfforddiant a hyn i’ch enw, os ydych yn y band hwn, ym mha bynnag sefyllfa y byddwch ynddi, dylai fod llawer mwy o degwch o ran y cyflog a delir i chi.
Felly, Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed a allech roi unrhyw wybodaeth inni am yr hyn a allai gael ei ystyried o ran y ddau brif gwestiwn—cwestiwn 1: sut rydym yn cadw nyrsys ac yn talu goramser iddynt i wneud y goramser yn y bwrdd iechyd y maent yn perthyn iddo yn hytrach na'u gorfodi i deithio ac ychwanegu at eu straen, gydag oriau teithio i gyrraedd bwrdd iechyd arall fel y gallent ennill yr arian ychwanegol hwnnw? A chwestiwn 2: sut rydym yn sicrhau nad yw nyrsys mewn cartrefi gofal dan anfantais annheg?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau siarad am weithio hyblyg, oherwydd mae adroddiad diddorol iawn wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Llundain o'r enw 'Timewise' ac mae'n sôn am gynnwys hyblygrwydd mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar sifftiau, a sut yr effeithir arno gan amrywioldeb neu ragweladwyedd yr amserlen, faint o fewnbwn neu reolaeth sydd gan unigolyn dros yr amserlen honno, a faint o rybudd ymlaen llaw. Ac mae gweithio hyblyg yn wirioneddol allweddol. Mae angen i GIG Cymru ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â'r tair elfen os ydym am ddenu a chadw'r staff rydym eu hangen i weithio ein sifftiau.
Roedd y pum prif achos o anfodlonrwydd swydd i feddygon a nyrsys ysbytai yn y DU yn dweud yn glir iawn mai cydbwysedd gwaith a bywyd a ddaeth yn gyntaf i nyrsys o dan 35 oed—yn llawer pwysicach na chyflog—ac yn ail i nyrsys 36 oed a hŷn. Roedd yn ail ar ôl cyflog. Gallai gweithio hyblyg fod yn ffordd ymarferol o ymlithro tuag at ymddeoliad, a gallai helpu i gadw staff profiadol yn eu gwaith yn hwy.
Roedd y prosiect a gynhaliwyd mewn dau ysbyty yn Lloegr yn 2017 yn edrych ar greu proses amserlennu sy’n seiliedig ar dimau, ac edrychai nid yn unig ar ofal plant, ond ar yr holl anghenion cydbwysedd gwaith a bywyd, a chydweithiodd eu tîm arweiniol, nid yn unig ar gynhyrchu rota, ond hefyd ar gyfathrebu a thrafod gyda grwpiau. Felly, Weinidog, credaf y gallai gwella cydbwysedd gwaith a bywyd a mynediad at weithio hyblyg gael effaith uniongyrchol ar gadw gweithwyr, yn enwedig gweithwyr proffesiynol clinigol iau y mae eu disgwyliadau yn wahanol iawn i ddisgwyliadau’r genhedlaeth hŷn. Felly, hoffwn ddeall pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cydbwysedd gwaith a bywyd, a hoffwn eich annog i edrych ar y treial hwn, y cynllun peilot hwn, a gynhaliwyd yn Llundain, oherwydd mae wedi bod yn llwyddiannus, ac efallai y bydd yna wersi cadarnhaol y gallwn eu dysgu i helpu i gadw'r bobl hynod werthfawr a gweithgar hyn yn ein GIG.
A allaf i longyfarch Helen Mary Jones am ddod â'r ddadl yma ynghyd ac am ei hagoriad bendigedig sy'n olrhain yr holl benderfyniadau sydd angen eu gwneud? Gaf i hefyd longyfarch y Coleg Nyrsio Brenhinol ar yr adroddiad bendigedig yma 'Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: Cynnydd A Her'? Mae yna gynnydd wedi bod, fel y dywedodd Helen, ond erys sawl her. Cawsom ni'r ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad y pwyllgor iechyd ar nyrsio a nyrsio cymunedol, ac mae nifer o ffactorau sy'n cyd-dorri, wrth gwrs. A allaf i hefyd dalu teyrnged i waith y grŵp amlbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth o dan gadeiryddiaeth David Rees yn hyn o beth, sydd wedi arwain y ffordd ac a wnaeth arwain y ffordd yn wir at yr adroddiad a wnaeth y pwyllgor iechyd ei gyhoeddi a chawsom ni drafodaeth yr wythnos diwethaf?
Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod am yr heriau yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig o ochr y nyrsio. Does yna ddim digon o nyrsys, yn y bôn yn y lle cyntaf. Mae yna swyddi gwag. Mae angen dyblu, gallwch chi ddweud, nifer y nyrsys sydd dan hyfforddiant. Mae yna system o dan straen, ac mae ein staff ni o dan straen. Mae ein nyrsys ni o dan straen ac yn gorweithio ac yn mynd i ffwrdd ac yn colli gwaith achos mae yna ormod o straen yn eu bywydau nhw. Wrth gwrs, mae yna ofynion newydd hefyd, mae yna ddatblygiadau meddygol newydd, ac mae yna ofyn mwy o'n nyrsys ni, yn enwedig yn y gymuned, sydd nawr yn trin a thrafod pobl yn ein cymuned a oedd yn arfer bod ar ein wardiau ni yn yr ysbyty, ond nawr sy'n aros adref.
Mae hefyd angen gwarchod y sawl sy'n chwythu'r chwiban am bryderon yn y system. Dydyn ni dal ddim yn gwneud hynny'n dda iawn, ac fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae angen bod yn llawer mwy hyblyg efo rotas ac oriau sifft ac ati i wneud yn siŵr bod nyrsys yn aros yn ein gwasanaeth iechyd ni. Ac ie, mae angen gweithredu'r ddeddfwriaeth yma, y ddeddfwriaeth lefelau staff nyrsio. Allaf i'ch atgoffa chi pam oedd angen y ddeddfwriaeth yma yn y lle cyntaf? Wel, achos bod y gyfraith yma yn gwarchod cleifion. Mae'r ymchwil wedi dangos, fel mae'r adroddiad yma'n dweud, bod lefelau staffio nyrsio gwael wedi arwain at gynnydd o hyd at 26 y cant i farwoldeb o'i gymharu â wardiau lle mae lefelau staff gwell. Hynny yw, dim digon o nyrsys yn arwain at bobl yn marw. Mae pob cynnydd o 10 y cant i nifer y nyrsys efo gradd mewn ysbyty yn gysylltiedig efo gostyngiad o 7 y cant mewn marwolaethau cleifion. A hefyd, wrth gwrs, yn naturiol, nid oes angen lefelau diogel o staff mewn rhai wardiau ysbyty yn unig, mae eu hangen ym mhob sefydliad iechyd, yn y gymuned, yn nyrsio plant, ac ati, ddim jest yn y wardiau arbenigol sydd gyda ni rŵan.
Ond yn benodol mae'r gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol, fel mae'r adroddiad yma yn ei gwneud hi'n glir. Mae yna niferoedd uchel o swyddi gwag, fel dwi wedi cyfeirio eisoes—o leiaf rhyw 1,600 yn ôl amcangyfrif yr RCN o swyddi gwag nyrsio yng Nghymru—wedi'i ategu gan brinder mawr yn y sector cartrefi gofal, fel mae Angela Burns wedi olrhain eisoes.
Felly, mae yna her sylweddol, ac fel mae pwynt y ddadl a'r cynnig yma'n ei ddweud, mae angen hyblygrwydd yn y tymor byr er mwyn inni allu cadw'r staff. Allwn ni sôn bod angen hyfforddi rhagor o staff nawr ac yn y dyfodol, ond mae angen cadw'r rheina sydd gyda ni ar ein wardiau ac yn y gymuned ar hyn o bryd. Mae angen i Lywodraeth Cymru, felly, nodi sut y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn rhan o'r strategaeth genedlaethol i gadw'r nyrsys, fel mae Helen ac Angela eisoes wedi'i ddweud. Achos mae yna lawer o nyrsys yng Nghymru yn gyfrifol am bethau eraill yn eu bywydau. Maen nhw angen yr hyblygrwydd yna, yn ogystal ag y maen nhw angen y swydd a'r arian. Maen nhw'n gyfrifol am blant ifanc, am rieni hŷn, ac yn dewis gweithio i gyflogwr lle maent yn gallu rheoli eu horiau gwaith. Dyna pam maen nhw'n mynd i weithio i asiantaethau preifat ac ati. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd fod yn gallu cyfleu'r un un math o ddarpariaeth, fel ein bod ni'n gallu cadw nyrsys yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Diolch yn fawr.
Diolch i Helen, Dai a David am gyflwyno'r ddadl hon. Fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu recriwtio a chadw digon o nyrsys, ac mae gan Gymru hanes gwael o gynllunio'r gweithlu, ac rydym yn gweld y canlyniadau, oherwydd mae mwy o nyrsys yn gadael y proffesiwn na sy'n ymuno.
Mae'r ffaith bod angen inni gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod digon o nyrsys ar wardiau ysbytai i ganiatáu amser i ofalu yn ddigon damniol, ond mae'r ffaith nad yw'r gyfraith yn berthnasol i bob ward a phob lleoliad iechyd yn warth. Cyflwynwyd y Ddeddf lefelau staff nyrsio i wella diogelwch cleifion. Gallai niferoedd isel o nyrsys arwain at hyd at chwarter yn fwy o farwolaethau cleifion.
Yma yng Nghymru, rydym yn gwario bron i 12 y cant o'n gwerth ychwanegol gros ar iechyd, ein gwariant iechyd—yn ail i'r Alban sydd ar £2,310 y pen—bron £200 yn fwy y pen na Lloegr. Ac eto, rydym yn aros yn hwy, ac rydym wedi gorfod pasio deddfwriaeth i sicrhau bod gennym lefelau staffio diogel, nid oherwydd nad ydym yn buddsoddi digon yn ein GIG—gwerir hanner cyllideb Cymru ar iechyd. A chyflwynwyd y ddeddfwriaeth lefelau staffio diogel gan AC yr wrthblaid oherwydd bod camreoli wedi arwain at arferion anniogel mewn ysbytai ledled Cymru. Mae diffyg cynllunio'r gweithlu yn genedlaethol a methiannau ad-drefnu wedi gadael GIG Cymru mewn anhrefn. Mae sefydliadau iechyd a chlinigwyr wedi cwyno am y gwahanol ddulliau sy'n cael eu mabwysiadu gan fyrddau iechyd lleol. Mae polisïau cenedlaethol yn cael eu gweithredu mewn saith ffordd wahanol, gyda chleifion yn wynebu loteri cod post cynyddol mewn perthynas â gofal iechyd.
Gallwn weld hyn yn glir yn y ffordd y mae'r Ddeddf lefelau staff nyrsio yn cael ei gweithredu, oherwydd mae'r byrddau iechyd lleol i gyd ar lefelau gwahanol o ran cydymffurfio â'r Ddeddf. Dywed Betsi Cadwaladr fod risg uchel ynghlwm wrth gydymffurfio â'r Ddeddf ac nad yw'n gosteffeithiol o fewn y model presennol. Yn fy rhanbarth i, nid oes gan Gwm Taf unrhyw gynllun cadw staff ac er y dyfarnwyd ei fod yn cydymffurfio, mae prinder staff ar wardiau Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bydd hynny'n effeithio ar ddiogelwch cleifion. Mae Bae Abertawe wedi cael 11 o gwympiadau yn arwain at anaf difrifol neu farwolaeth, lle barnwyd bod methu cynnal lefelau staffio yn ffactor. Nid yw hyn yn ddigon da.
Mae ein hetholwyr yn haeddu ac yn galw am lefelau staffio diogel yn ein hysbytai. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn bod y cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau hwy. Mae'n rhaid gweithredu'r Ddeddf lefelau staff nyrsio yn llawn ym mhob lleoliad iechyd. Rydym angen strategaeth recriwtio a chadw staff sydd wedi'i chynllunio'n dda ac sy'n gwneud nyrsio'n ddeniadol i bob unigolyn sydd eisiau hyfforddi fel nyrs, er mwyn mynd i'r afael â'r ffaith bod nyrsys yn gadael y proffesiwn yn heidiau.
Mae gennym Ddeddf lefelau staffio diogel ar waith am reswm. Mae angen lefelau staffio diogel ar draws yr holl leoliadau gofal iechyd ac nid ar wardiau penodol yn unig. Faint yn rhagor o gleifion a gaiff eu hanafu'n ddifrifol neu a fydd yn colli eu bywydau oherwydd rheolaeth wael a chynllunio gwael? Felly, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl heddiw a'r cyfle i drafod gweithrediad deddfwriaeth lefelau staff nyrsio arloesol Cymru. Mae'n dda gweld cymrawd o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a oedd yn Aelod cyfrifol ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, yn y Siambr heddiw hefyd.
Ynghyd â chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, rwy'n cydnabod y rôl allweddol y mae nyrsys yn ei chwarae yn ein timau amlddisgyblaethol, yn darparu gofal iechyd ledled Cymru. Mae darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy yn dibynnu ar ein gallu i hyfforddi, recriwtio a chadw nyrsys, ynghyd â staff eraill y GIG, yn ein system gofal iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae sicrhau bod gennym y nyrsys rydym eu hangen yn her yma yng Nghymru ac yn llawer mwy eang ar draws y DU a thu hwnt. Yn Lloegr, er enghraifft, mae cyfradd y swyddi gwag yn y gweithlu nyrsio bron ddwywaith cymaint â'r gyfradd yng Nghymru. Ond yng Nghymru, rydym wedi dewis peidio â gwanhau'r gweithlu nyrsio drwy gyflwyno nyrsys cyswllt, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Mae'r camau gweithredu sydd eu hangen i ateb yr heriau a wynebwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Ddeddf lefelau staff nyrsio. Fodd bynnag, mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol a nodwyd yn cydnabod nifer o effeithiau cadarnhaol y Ddeddf hyd yma. Er enghraifft, wedi i'r Ddeddf ddod i rym, gwyddom fod mwy na £17 miliwn o arian ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi i gynyddu ein gweithlu nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Mae hwnnw'n fudd uniongyrchol a gweladwy i'n nyrsys rheng flaen, i'r staff y maent yn gweithio gyda hwy ac yn anad dim, i'r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.
Clywn yn rheolaidd gan nyrsys, hyd at y lefelau uchaf, fod y Ddeddf wedi gwneud gwahaniaeth clir i'r pwys a roddir ar eu barn broffesiynol pan fyddant yn cael yr hyn sy'n gallu bod yn sgyrsiau anodd am lefelau staff nyrsio gyda'u cydweithwyr. Roedd hwn yn un o'r rhesymau allweddol dros basio'r ddeddfwriaeth fel ag yr oedd, ac mae wedi bod yn galonogol iawn clywed ei bod eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Ar y cyfan, rwy'n gadarnhaol ynglŷn â pha mor gyflym y mae ein byrddau iechyd wedi addasu i'w dyletswyddau newydd, a dylai'r Cynulliad hwn fod yn wirioneddol falch o'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn unfrydol gennym dair blynedd yn ôl. Ac roeddwn yn sicr yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y Llywodraeth hon yn ymestyn ail ddyletswydd y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda staff o bob bwrdd iechyd drwy'r rhaglen staffio nyrsio Cymru. Yn y modd hwn, rydym wedi nodi a dechrau mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n cael eu cynnwys fel argymhellion yn adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yn ddiweddar, dyrennais gyllid ar gyfer dwy swydd gwybodeg yng Ngwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru i weithio gyda rhaglen staff nyrsio Cymru i fwrw ymlaen ag ateb TG cenedlaethol. A bydd hynny'n helpu byrddau iechyd i gyflawni eu dyletswyddau adrodd o dan y Ddeddf.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i allu mesur effaith y ddeddfwriaeth arloesol hon yn gywir. A chan mai dynwared yw'r ganmoliaeth eithaf, mae'n dda gweld bod yr Alban wedi dilyn ein harweiniad, ac mae sgyrsiau difrifol ar y gweill yn Lloegr hefyd. Ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth yn y dyfodol yn dilyn ein harweiniad yn Lloegr.
O ran gwerthuso, byddaf yn comisiynu gwerthusiad annibynnol trylwyr a drefnwyd i gyd-fynd â diwedd y cyfnod adrodd tair blynedd cyntaf ym mis Ebrill 2021.
Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd, ac rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch niferoedd, yn ogystal â chadw staff. Mae'n demtasiwn nodi, dyweder, ein bod wedi cadw 1,900 o nyrsys ychwanegol dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd ein hymdrechion ac felly, pan feddyliwch am y peth, yn hytrach na chael gostyngiad bach yn y niferoedd hyn y llynedd, mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu nifer y nyrsys dros bum mlynedd. Ond rwy'n credu y dylem adael y siarad dwbl i bobl eraill, oherwydd y gwir amdani yw ein bod, o fewn y tymor Cynulliad hwn, wedi cynyddu nifer y nyrsys cofrestredig ac aelodau o'r teulu nyrsio sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth iechyd gwladol. Ond y llynedd, am y tro cyntaf, gwelsom 65 yn fwy o nyrsys yn gadael GIG Cymru nag a ymunodd ag ef.
Er hynny, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, a arweiniodd at gynnydd mewn lleoedd hyfforddi nyrsys o 1,053 yn 2014 i 1,987, yn dilyn fy nghyhoeddiad diweddar ar fuddsoddi mwy fyth mewn hyfforddiant i nyrsys. Mae'r buddsoddiad hwnnw hefyd yn cynnwys 140 o leoedd ar raglenni dychwelyd i weithio ar gyfer nyrsys. Ac eleni, graddiodd 970 o nyrsys yng Nghymru, o gymharu â 778 yn 2018. Felly rydym yn gwneud cynnydd bwriadol a phendant wrth hyfforddi mwy o'n nyrsys ein hunain. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch.
Rwy'n teimlo efallai eich bod ychydig yn sensitif ar y mater hwn, oherwydd nid wyf yn cofio cyfraniad neb yn dweud yn benodol nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud cynlluniau i wella cyfraddau cadw staff. Rwy'n credu mai'r hyn rydym yn ceisio'i ddweud yw bod cymaint o brinder nyrsys, beth arall y gallwn ei wneud, sut arall y gallwn wella hyn a chadw'r nyrsys sydd gennym, yn ogystal â recriwtio mwy, a dyna pam y cyflwynais y cynllun peilot sy'n cael ei gynnal yn ysbytai Llundain ar hyn o bryd i chi, a'r gwaith y maent wedi'i wneud ar weithio hyblyg.
A byddaf yn symud ymlaen at gadw nyrsys yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad.
Ond y GIG yw'r unig ran o'r sector cyhoeddus sydd wedi parhau i gynyddu niferoedd staff er gwaethaf degawd o gyni, ac mae hwnnw'n bwynt y mae aelodau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus yn cael trafferth ei gydnabod. Mae ein cydweithwyr yn y byd addysg, ein cydweithwyr ym mhob rhan o lywodraeth leol yn cydnabod mai iechyd yw'r sector mawr y buddsoddwyd ynddo. Ond mae'r ddadl heddiw yn dangos bod yr awydd i gynyddu'r niferoedd ymhellach yr un mor fawr. Er mwyn cyrraedd y lefelau y mae pawb ohonom eisiau eu gweld ledled y DU, bydd angen buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan bob gwlad yn y DU, dull gweithredu gwahanol, mewn perthynas â buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan bwy bynnag yw Llywodraeth newydd y DU, ac yn arbennig, dull gwahanol o recriwtio o Ewrop a chael gwared ar y cap arfaethedig hurt a niweidiol ar gyflogau, i gael effaith go iawn ar ein gallu i recriwtio mwy o staff.
Yr wythnos diwethaf, yn fy natganiad i'r Siambr, tynnais sylw at y diddordeb cadarnhaol a gynhyrchwyd gan ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'; bydd mwy i ddod yn 2020, sef Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig. Ond wrth gwrs, mae angen i ni wneud mwy i gadw ein gweithlu nyrsio medrus. Mae hynny'n golygu darparu modelau gwasanaeth sy'n bodloni disgwyliadau ein gweithlu presennol a'n gweithlu yn y dyfodol, cynnig iechyd a lles effeithiol, a dewisiadau gweithio hyblyg i ddarparu cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith, fel y mae nifer o siaradwyr wedi nodi. Ac mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru a ledled y DU i wneud yn union hynny. Rwyf eisiau gweld cyfleoedd gyrfaol ac addysgol, a sicrhau bod GIG Cymru yn lle gwych i weithio.
Felly, bydd strategaeth genedlaethol y gweithlu sy'n cael ei datblygu gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd y gweithlu iechyd a'r gweithlu gofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn enwedig y modd y cynlluniwn ein modelau gweithlu ar gyfer y dyfodol, sut y nodwn y staff sydd eu hangen gyda gwahanol grwpiau proffesiynol ac yn bwysig, sut y cefnogwn ac y datblygwn ein staff. Felly, byddaf yn gofyn i fforwm partneriaeth GIG Cymru ystyried, gyda'i gilydd, pa gamau pellach y gallem ac y dylem eu cymryd yn lleol ac yn genedlaethol i gefnogi camau i gadw staff, gan gynnwys ein nyrsys. Bydd hwnnw'n ystyried arferion cyfredol, gan gynnwys yr arferion gorau i'w lledaenu sydd eisoes yn bodoli mewn byrddau iechyd ac wrth gwrs, bydd yn nodi arferion gorau ar gyfer cyflwyno gweithio hyblyg ymhellach.
Byddaf yn derbyn yr ymyriad cyn i mi orffen.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Weinidog, ac rwy'n meddwl ein bod wedi cydnabod, fel y dywedodd Angela Burns, y bu rhywfaint o gynnydd gwirioneddol, ond a ydych yn cytuno â'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen strategaeth gadw staff genedlaethol arnom, oherwydd, er bod rhai enghreifftiau o arferion da, rwy'n credu mai'r hyn y maent yn galw amdano yw i'r arferion hynny ddod yn norm? Fel y dywedais, rydym wedi bod yn siarad am faterion cadw staff am amser hir iawn yn awr, ac a ydych yn teimlo ei bod yn bryd i ni ddod â'r holl arferion da sydd ar gael at ei gilydd a sicrhau eu bod yn dod yn norm?
Wel, cefais y sgwrs hon heddiw gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac fel rwyf newydd ei ddweud, rwy'n gofyn i fforwm partneriaeth GIG Cymru, sy'n dod ag ochr undebau llafur staff, y Llywodraeth a chyflogwyr GIG at ei gilydd i wneud yn union hynny, fel rwyf newydd ei ddweud, i edrych yn lleol ac yn genedlaethol ar yr hyn sy'n bodoli a'r hyn a ddylai fodoli ar gyfer y dyfodol hefyd.
Bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw, fel y gwnawn fel arfer ar ddadleuon Aelodau. Fodd bynnag, ni waeth beth fo canlyniad y bleidlais, mae llawer y gellir ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, a llawer mwy i'w wneud. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n teulu nyrsio i ddarparu'r gofal a'r amgylchedd gwaith y byddem i gyd eisiau eu gweld, gyda'r niferoedd cywir o staff wrth gwrs i ddarparu'r gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir.
Diolch. A gaf fi alw ar David Rees yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Cyn imi fynd ymlaen i edrych ar y drafodaeth a chyfraniadau'r Aelodau, a gaf fi hefyd ymuno i ddiolch i'r aelod Cabinet, y Gweinidog Addysg, oherwydd hi a lywiodd y Bil hwn drwy'r Cynulliad diwethaf, a'i yrru ymlaen, a byddwch yn cofio'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ar sawl achlysur? Rwy'n credu y dylai fod yn falch o'r Ddeddf fel y mae yn awr, a'r cynnydd y mae'n ei wneud. Rwy'n credu y dylem gofnodi ein diolch iddi, oherwydd mae'n hanfodol fod y Ddeddf honno bellach yn darparu ar gyfer cleifion.
A gaf fi ddechrau gyda chyfraniad Helen Mary Jones, a agorodd y drafodaeth ac amlinellu'r materion pwysig y mae'r adroddiad yn eu hamlygu, yn benodol er mwyn asesu goblygiadau'r Ddeddf a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad ei wneud yn ein byrddau iechyd ein hunain i ofyn cwestiynau i'r byrddau iechyd hynny ynglŷn â sut y maent yn gweithredu'r Ddeddf, i ble maent yn mynd? Os edrychwch ar y gwahanol gwestiynau, fe welwch rai themâu cyffredin yn amlygu eu hunain drwy'r cwestiynau hynny hefyd.
Tynnodd Helen sylw at y strategaeth cadw a recriwtio hefyd, sy'n un o'r themâu cyffredin mawr, ac fe leisiodd y pryderon yn ei chylch. Yn arbennig, rwy'n credu, soniodd am un peth. Rydym yn siarad yn aml iawn am gadw staff a straen, ond rydym hefyd yn anghofio weithiau fod llawer o'n staff yn cael eu llethu oherwydd eu bod, fel y dywedodd Angela, wedi gweithio oriau ychwanegol i'r hyn y maent yn ei wneud fel arfer a'r hyn y cawsant eu contractio i wneud. Ac mae hynny'n helpu—wel, mae'n helpu i'w llethu, oherwydd mae'n ychwanegu mwy at eu hymrwymiad. Maent yn cyrraedd adref yn flinedig, maent yn treulio oriau hwy yno, oherwydd eu hawydd i ddiogelu a helpu cleifion. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef.
Tynnodd Angela sylw, unwaith eto, at fater gweithio hyblyg. A gawn ni edrych ar ffyrdd y gallwn edrych ar nyrsys? A gawn ni annog byrddau iechyd i edrych ar ymagwedd hyblyg tuag at gyflogaeth? Maent yn dda, asiantaethau, oherwydd mae asiantaethau'n cynnig gweithio hyblyg. A gawn ni, fel GIG, gynnig y gweithio hyblyg y mae asiantaethau'n ei gynnig a cheisio sicrhau y gallwn eu cadw o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, oherwydd mae cadw staff yn un o'r elfennau allweddol yn yr adroddiad hwn? Soniwn yn aml am—. Mae gennym etholiad cyffredinol ar y gweill ac rydym wedi clywed y niferoedd gan Boris Johnson a ddywedodd 50,000—gyda 20,000 ohonynt yn staff a gedwir. Felly, maent hwy hyd yn oed yn cydnabod bod cadw staff yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gennym weithlu priodol ar gael i ddarparu gofal yn ein hysbytai, yn yr achos hwn, ac mewn lleoliadau eraill hefyd. Rydych chi'n iawn: ai nyrsys cronfa, ai nyrsys asiantaeth? Pam na allwn ni roi goramser iddynt? Pam na allant weithio yn y man lle maent yn arfer gweithio—eu man gwaith arferol? Rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hyn.
Atgoffodd Dai Lloyd ni am yr heriau sy'n parhau. Mae cynnydd wedi'i wneud ond mae yna heriau o hyd. A chredaf, unwaith eto, fod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at hynny. Mae'n dweud ein bod yn edrych ar y ffaith bod byrddau iechyd yn trafod y Ddeddf hon, ac maent yn trafod ei gweithrediad a lle maent yn cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Ddeddf hon. Ond mae llawer o heriau i'w hwynebu o hyd gan fod strategaeth y gweithlu yn hollbwysig yn yr holl drafodaethau hyn. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith mai diben y Ddeddf hon yw gwella gofal a chanlyniadau i gleifion, nid gwella, o anghenraid, bywydau nyrsys, sef yr hyn y bydd yn ei wneud, ond, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r claf. Oherwydd os ydych yn cael y lefelau nyrsio'n iawn, rydych yn cael y canlyniadau i gleifion yn iawn, ac mae hynny'n hollbwysig.
Atgoffodd Caroline ni eto am gynllunio'r gweithlu a byddaf yn gofyn iddi rywbryd, o ran rhai o'r sylwadau a wnaeth, i edrych ar y trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil. Gallant ateb rhai o'r pwyntiau a gododd, oherwydd codwyd llawer o'r materion hynny a chredaf fod yr Aelod a arweiniodd y Bil wedi gwneud hynny am resymau eraill nag a amlygwyd yn briodol. Ac mae lefelau gwahanol o gydymffurfiaeth ar draws y byrddau iechyd. Mae honno'n broblem. Mae'n rhaid inni roi sylw i hynny. Oherwydd roedd cydymffurfio'n un o'r materion a godwyd gennym fel rhywbeth y gellid ei archwilio, er mwyn sicrhau bod cysondeb ledled Cymru.
Mae'n sôn ei bod eisiau Deddf ym mhob lleoliad iechyd, ond un o'r dadleuon a gyflwynwyd gennym ynglŷn â hynny oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi pa feysydd o leoliadau iechyd y canolbwyntid arnynt mewn gwirionedd. Os ydym am wneud hyn, mae'n bwysig ei fod yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Roedd y wardiau meddygol acíwt i oedolion yn cael eu harwain gan dystiolaeth, ac mae'r wardiau pediatreg yn cael eu harwain gan dystiolaeth, felly rwyf eisiau edrych i weld ble rydych chi'n mynd nesaf—ble mae'r dystiolaeth yn ein harwain nesaf? Mamolaeth, iechyd meddwl, nyrsio cymunedol? Mae angen i ni ddeall y meysydd rydych yn edrych arnynt, beth yw eu blaenoriaethau ac o ble y daw'r dystiolaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio hyn fel sylfaen sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth er mwyn sicrhau bod y lleoliadau yn iawn. Felly, dyna sy'n rhaid i ni ei wneud. Nid yw'n ddigon dweud 'y cyfan', oherwydd mae'n swnio'n dda i ddweud 'y cyfan', ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn a'i fod yn mynd i'r lleoedd iawn.
Mae'r Gweinidog wedi nodi'n glir ei fod yn falch iawn i gynnwys pediatreg. Rydym hefyd yn falch iawn o weld pediatreg yn cael ei gynnwys ers y Bil, oherwydd un o'r pethau a ddywedasom oedd ein bod eisiau gweld mwy o feysydd yn cael eu cynnwys, a dyna pam y cyflwynwyd y rheoliadau, er mwyn caniatáu i chi wneud hynny heb orfod cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth ychwanegol. Felly, mae hynny'n bwysig. Yn amlwg, rydym eisiau mynd ymhellach ac ymhellach. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn bwriadu cynnal gwerthusiad annibynnol trylwyr ar gyfer Ebrill 2021 i gyd-fynd â hynny, fel y gallwn edrych yn ofalus iawn ar y gwerthusiad hwnnw, yn ogystal â'r gwerthusiad tair blynedd a fydd yn cael ei gynnal.
Ac rydych yn iawn, Weinidog, mae'n dda gweld eich bod wedi cynyddu'r niferoedd o 1,053 i 1,987 ers 2014—mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen mwy, oherwydd un o'r pryderon a oedd gennym pan aeth y Bil drwyddo oedd a oes gennym ddigon o nyrsys i'w gyflawni ym mhob lleoliad, neu'r lleoliadau roeddem eu hangen. Mae angen inni hyfforddi mwy. Ac rwyf am roi enghraifft o pam fod angen mwy o nyrsys arnom. Roedd ŵyr cyfaill i'r teulu yn cael llawdriniaeth ar daflod hollt, ac roedd angen dau lawfeddyg yn ogystal â staff theatr. Bum munud cyn y llawdriniaeth honno, cafodd ei chanslo, oherwydd cafodd y nyrs arbenigol roedd gofyn iddi fod gyda'r plentyn hwnnw ar ôl y llawdriniaeth ei throsglwyddo i ran arall oherwydd y sgiliau a oedd ganddi. Nawr, gallwch ddeall bod hynny'n angenrheidiol, oherwydd bod achos brys wedi dod i mewn, ond mae angen mwy o nyrsys arbenigol arnom felly i sicrhau'r pethau hynny. Ond mae hynny'n gost i'r GIG, oherwydd roedd gennych dîm cyfan wedi'i ddyrannu eisoes, yn aros yno, y bu'n rhaid ei ganslo wedyn. Felly, mae angen inni edrych ar nifer y nyrsys. Rydym angen mwy o nyrsys arbenigol.
Felly, rwy'n falch iawn o weld 1,987, ond rwyf eisiau mwy; mae mor syml â hynny. Mae angen mwy, ac mae angen inni gadw mwy. Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Ac rwy'n cytuno â chi, gyda llaw, am oblygiadau posibl polisi mewnfudo a allai effeithio ar recriwtio o wledydd tramor. Mae'n warthus y gallai unrhyw beth o'r fath effeithio ar ein GIG, a dylem fod yn ei ymladd bob cam o'r ffordd, ac rwy'n disgwyl i bob Aelod o bob plaid herio polisïau mewnfudo o'r fath, sy'n effeithio ar y gofal a gaiff ein cleifion yn y GIG.
Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'n GIG. Ac rydym yn falch o'r staff yn ein GIG; nid ydych ar eich pen eich hun yn hynny o beth.
Nawr, rwy'n falch iawn hefyd fod y fwrsariaeth nyrsio yn dal yma yng Nghymru. Mae hynny'n hollbwysig, oherwydd mae'n annog mwy i ddod. Diolch, a daliwch ati i wneud hynny—peidiwch byth â'i golli, oherwydd credaf ei bod o fudd i annog mwy o nyrsys i'r proffesiwn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau, pan fyddant yn y proffesiwn, eu bod yn cael amgylchedd iach i weithio ynddo, amgylchedd diogel ar gyfer eu cleifion, ac amgylchedd mor ddi-straen ag sy'n bosibl, fel nad ydynt yn cael eu llethu. Ac mae hynny'n hollbwysig. A dyna y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ceisio'i gyflawni a byddant yn parhau i lobïo ar hynny. Ac a gaf fi gofnodi fy niolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol am y gwaith y maent yn ei wneud yn y maes hwn, oherwydd maent wedi cynhyrchu nid yn unig yr adroddiad hwn ar weithredu'r Bil staffio diogel ond hefyd yr adroddiad ar niferoedd y gweithlu a nyrsys cymunedol? Maent yn llywio agenda i edrych ar y proffesiwn nyrsio ac i sicrhau ei fod yn tyfu a'i fod yno, mewn gwirionedd, i gefnogi cleifion.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wrando arnynt ac yn parhau i weithio gyda hwy. Ddirprwy Lywydd, nid wyf erioed wedi cael cymaint o amser ar y diwedd i gloi sesiwn—
Nid oes raid i chi ddefnyddio'r amser i gyd.
Nid wyf am greu geiriau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon, ein bod yn atgoffa ein hunain am y bobl go iawn rydym yn gofalu amdanynt, sef y cleifion. Ac os gallwn wneud popeth yn ein gallu i wneud gofal y claf yn well, dylem allu gwneud hynny. Ac os yw'r Bil lefelau staff nyrsio, y Ddeddf—mae'n rhaid i mi gofio ei gael yn iawn—am gyflawni hynny mewn gwirionedd, mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu llunio strategaeth ddigonol ar gyfer y gweithlu sy'n cadw ac yn recriwtio nifer briodol o nyrsys, gweithwyr cymorth iechyd a phroffesiynau perthynol eraill a fydd yn helpu i gyflawni hynny, oherwydd fe wnaethom siarad, ar un adeg, nid yn unig am nyrsys, ond am staff eraill ar y ward sy'n gweithio gyda nyrsys fel rhan o'r tîm sy'n darparu'r gofal hwnnw. Ac os gellir datblygu hynny hefyd, mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflawni hynny.
Felly, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau y prynhawn yma? A gaf fi annog y Llywodraeth, felly, i barhau â'i chynnydd, i sicrhau ei bod yn cael ei harwain gan dystiolaeth, ac i sicrhau bod nyrsys yn gallu dod i'r proffesiwn a gwneud yr hyn y maent eisiau ei wneud, sef darparu gofal i gleifion?
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.