Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Tynnodd Helen sylw at y strategaeth cadw a recriwtio hefyd, sy'n un o'r themâu cyffredin mawr, ac fe leisiodd y pryderon yn ei chylch. Yn arbennig, rwy'n credu, soniodd am un peth. Rydym yn siarad yn aml iawn am gadw staff a straen, ond rydym hefyd yn anghofio weithiau fod llawer o'n staff yn cael eu llethu oherwydd eu bod, fel y dywedodd Angela, wedi gweithio oriau ychwanegol i'r hyn y maent yn ei wneud fel arfer a'r hyn y cawsant eu contractio i wneud. Ac mae hynny'n helpu—wel, mae'n helpu i'w llethu, oherwydd mae'n ychwanegu mwy at eu hymrwymiad. Maent yn cyrraedd adref yn flinedig, maent yn treulio oriau hwy yno, oherwydd eu hawydd i ddiogelu a helpu cleifion. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef.
Tynnodd Angela sylw, unwaith eto, at fater gweithio hyblyg. A gawn ni edrych ar ffyrdd y gallwn edrych ar nyrsys? A gawn ni annog byrddau iechyd i edrych ar ymagwedd hyblyg tuag at gyflogaeth? Maent yn dda, asiantaethau, oherwydd mae asiantaethau'n cynnig gweithio hyblyg. A gawn ni, fel GIG, gynnig y gweithio hyblyg y mae asiantaethau'n ei gynnig a cheisio sicrhau y gallwn eu cadw o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, oherwydd mae cadw staff yn un o'r elfennau allweddol yn yr adroddiad hwn? Soniwn yn aml am—. Mae gennym etholiad cyffredinol ar y gweill ac rydym wedi clywed y niferoedd gan Boris Johnson a ddywedodd 50,000—gyda 20,000 ohonynt yn staff a gedwir. Felly, maent hwy hyd yn oed yn cydnabod bod cadw staff yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gennym weithlu priodol ar gael i ddarparu gofal yn ein hysbytai, yn yr achos hwn, ac mewn lleoliadau eraill hefyd. Rydych chi'n iawn: ai nyrsys cronfa, ai nyrsys asiantaeth? Pam na allwn ni roi goramser iddynt? Pam na allant weithio yn y man lle maent yn arfer gweithio—eu man gwaith arferol? Rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hyn.
Atgoffodd Dai Lloyd ni am yr heriau sy'n parhau. Mae cynnydd wedi'i wneud ond mae yna heriau o hyd. A chredaf, unwaith eto, fod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at hynny. Mae'n dweud ein bod yn edrych ar y ffaith bod byrddau iechyd yn trafod y Ddeddf hon, ac maent yn trafod ei gweithrediad a lle maent yn cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Ddeddf hon. Ond mae llawer o heriau i'w hwynebu o hyd gan fod strategaeth y gweithlu yn hollbwysig yn yr holl drafodaethau hyn. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith mai diben y Ddeddf hon yw gwella gofal a chanlyniadau i gleifion, nid gwella, o anghenraid, bywydau nyrsys, sef yr hyn y bydd yn ei wneud, ond, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r claf. Oherwydd os ydych yn cael y lefelau nyrsio'n iawn, rydych yn cael y canlyniadau i gleifion yn iawn, ac mae hynny'n hollbwysig.
Atgoffodd Caroline ni eto am gynllunio'r gweithlu a byddaf yn gofyn iddi rywbryd, o ran rhai o'r sylwadau a wnaeth, i edrych ar y trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil. Gallant ateb rhai o'r pwyntiau a gododd, oherwydd codwyd llawer o'r materion hynny a chredaf fod yr Aelod a arweiniodd y Bil wedi gwneud hynny am resymau eraill nag a amlygwyd yn briodol. Ac mae lefelau gwahanol o gydymffurfiaeth ar draws y byrddau iechyd. Mae honno'n broblem. Mae'n rhaid inni roi sylw i hynny. Oherwydd roedd cydymffurfio'n un o'r materion a godwyd gennym fel rhywbeth y gellid ei archwilio, er mwyn sicrhau bod cysondeb ledled Cymru.
Mae'n sôn ei bod eisiau Deddf ym mhob lleoliad iechyd, ond un o'r dadleuon a gyflwynwyd gennym ynglŷn â hynny oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi pa feysydd o leoliadau iechyd y canolbwyntid arnynt mewn gwirionedd. Os ydym am wneud hyn, mae'n bwysig ei fod yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Roedd y wardiau meddygol acíwt i oedolion yn cael eu harwain gan dystiolaeth, ac mae'r wardiau pediatreg yn cael eu harwain gan dystiolaeth, felly rwyf eisiau edrych i weld ble rydych chi'n mynd nesaf—ble mae'r dystiolaeth yn ein harwain nesaf? Mamolaeth, iechyd meddwl, nyrsio cymunedol? Mae angen i ni ddeall y meysydd rydych yn edrych arnynt, beth yw eu blaenoriaethau ac o ble y daw'r dystiolaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio hyn fel sylfaen sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth er mwyn sicrhau bod y lleoliadau yn iawn. Felly, dyna sy'n rhaid i ni ei wneud. Nid yw'n ddigon dweud 'y cyfan', oherwydd mae'n swnio'n dda i ddweud 'y cyfan', ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn a'i fod yn mynd i'r lleoedd iawn.
Mae'r Gweinidog wedi nodi'n glir ei fod yn falch iawn i gynnwys pediatreg. Rydym hefyd yn falch iawn o weld pediatreg yn cael ei gynnwys ers y Bil, oherwydd un o'r pethau a ddywedasom oedd ein bod eisiau gweld mwy o feysydd yn cael eu cynnwys, a dyna pam y cyflwynwyd y rheoliadau, er mwyn caniatáu i chi wneud hynny heb orfod cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth ychwanegol. Felly, mae hynny'n bwysig. Yn amlwg, rydym eisiau mynd ymhellach ac ymhellach. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn bwriadu cynnal gwerthusiad annibynnol trylwyr ar gyfer Ebrill 2021 i gyd-fynd â hynny, fel y gallwn edrych yn ofalus iawn ar y gwerthusiad hwnnw, yn ogystal â'r gwerthusiad tair blynedd a fydd yn cael ei gynnal.
Ac rydych yn iawn, Weinidog, mae'n dda gweld eich bod wedi cynyddu'r niferoedd o 1,053 i 1,987 ers 2014—mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen mwy, oherwydd un o'r pryderon a oedd gennym pan aeth y Bil drwyddo oedd a oes gennym ddigon o nyrsys i'w gyflawni ym mhob lleoliad, neu'r lleoliadau roeddem eu hangen. Mae angen inni hyfforddi mwy. Ac rwyf am roi enghraifft o pam fod angen mwy o nyrsys arnom. Roedd ŵyr cyfaill i'r teulu yn cael llawdriniaeth ar daflod hollt, ac roedd angen dau lawfeddyg yn ogystal â staff theatr. Bum munud cyn y llawdriniaeth honno, cafodd ei chanslo, oherwydd cafodd y nyrs arbenigol roedd gofyn iddi fod gyda'r plentyn hwnnw ar ôl y llawdriniaeth ei throsglwyddo i ran arall oherwydd y sgiliau a oedd ganddi. Nawr, gallwch ddeall bod hynny'n angenrheidiol, oherwydd bod achos brys wedi dod i mewn, ond mae angen mwy o nyrsys arbenigol arnom felly i sicrhau'r pethau hynny. Ond mae hynny'n gost i'r GIG, oherwydd roedd gennych dîm cyfan wedi'i ddyrannu eisoes, yn aros yno, y bu'n rhaid ei ganslo wedyn. Felly, mae angen inni edrych ar nifer y nyrsys. Rydym angen mwy o nyrsys arbenigol.
Felly, rwy'n falch iawn o weld 1,987, ond rwyf eisiau mwy; mae mor syml â hynny. Mae angen mwy, ac mae angen inni gadw mwy. Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Ac rwy'n cytuno â chi, gyda llaw, am oblygiadau posibl polisi mewnfudo a allai effeithio ar recriwtio o wledydd tramor. Mae'n warthus y gallai unrhyw beth o'r fath effeithio ar ein GIG, a dylem fod yn ei ymladd bob cam o'r ffordd, ac rwy'n disgwyl i bob Aelod o bob plaid herio polisïau mewnfudo o'r fath, sy'n effeithio ar y gofal a gaiff ein cleifion yn y GIG.
Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'n GIG. Ac rydym yn falch o'r staff yn ein GIG; nid ydych ar eich pen eich hun yn hynny o beth.
Nawr, rwy'n falch iawn hefyd fod y fwrsariaeth nyrsio yn dal yma yng Nghymru. Mae hynny'n hollbwysig, oherwydd mae'n annog mwy i ddod. Diolch, a daliwch ati i wneud hynny—peidiwch byth â'i golli, oherwydd credaf ei bod o fudd i annog mwy o nyrsys i'r proffesiwn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau, pan fyddant yn y proffesiwn, eu bod yn cael amgylchedd iach i weithio ynddo, amgylchedd diogel ar gyfer eu cleifion, ac amgylchedd mor ddi-straen ag sy'n bosibl, fel nad ydynt yn cael eu llethu. Ac mae hynny'n hollbwysig. A dyna y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ceisio'i gyflawni a byddant yn parhau i lobïo ar hynny. Ac a gaf fi gofnodi fy niolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol am y gwaith y maent yn ei wneud yn y maes hwn, oherwydd maent wedi cynhyrchu nid yn unig yr adroddiad hwn ar weithredu'r Bil staffio diogel ond hefyd yr adroddiad ar niferoedd y gweithlu a nyrsys cymunedol? Maent yn llywio agenda i edrych ar y proffesiwn nyrsio ac i sicrhau ei fod yn tyfu a'i fod yno, mewn gwirionedd, i gefnogi cleifion.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wrando arnynt ac yn parhau i weithio gyda hwy. Ddirprwy Lywydd, nid wyf erioed wedi cael cymaint o amser ar y diwedd i gloi sesiwn—