6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Lefelau Staff Nyrsio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:22, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Weinidog, ac rwy'n meddwl ein bod wedi cydnabod, fel y dywedodd Angela Burns, y bu rhywfaint o gynnydd gwirioneddol, ond a ydych yn cytuno â'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen strategaeth gadw staff genedlaethol arnom, oherwydd, er bod rhai enghreifftiau o arferion da, rwy'n credu mai'r hyn y maent yn galw amdano yw i'r arferion hynny ddod yn norm? Fel y dywedais, rydym wedi bod yn siarad am faterion cadw staff am amser hir iawn yn awr, ac a ydych yn teimlo ei bod yn bryd i ni ddod â'r holl arferion da sydd ar gael at ei gilydd a sicrhau eu bod yn dod yn norm?