Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Efallai fod llawer o fy nghyfraniad wedi cael ei ddweud neu ei grybwyll eisoes, ond mae hwn yn fater mor bwysig fel ei fod yn werth ei ddweud sawl gwaith, neu hyd yn oed mwy na hynny. Ledled Cymru, gwelsom ddiwedd ar y gallu i gyflawni trafodion ariannol yn y modd traddodiadol—hynny yw, drwy'r banc ar y stryd fawr. Mae cau banciau, ynghyd â swyddfeydd post, wedi achosi anhawster mawr i bobl yn gyffredinol, ond yn enwedig—fel y crybwyllodd Russell George—i fusnesau mewn ardaloedd gwledig, sydd bellach yn gweld bod yn rhaid iddynt deithio milltiroedd lawer ar gyfer eu hanghenion bancio; ac wrth gwrs, yr henoed, gyda llawer ohonynt yn gyfyngedig o ran eu symudedd ac felly mae prinder canghennau banc yn effeithio'n fawr arnynt.
Mae'r ffaith bod gennym beiriannau ATM am ddim yn ffactor sy'n bwysig iawn. Gwn, yn anecdotaidd, fod gan Dredegar Newydd—tref fechan yn y Cymoedd gogleddol—beiriant ATM yn awr lle mae'n rhaid i'r cwsmeriaid dalu. Mae'n rhaid iddynt dalu swm penodol am bob trafodyn. Rydym yn sôn am bobl sydd ar incwm isel iawn o bosibl, felly mae'r ganran y mae'n rhaid iddynt ei thalu am godi arian yn llyffethair mawr.
Mae argymhelliad 8 yn yr adroddiad yn nodi nad ydym yn gallu gweld lle mae bylchau yn y gwasanaethau ariannol sydd ar gael. Byddem i gyd yn cytuno ei bod yn gwneud synnwyr y dylid cael map sy'n nodi'n fanwl lle ceir ardaloedd heb gyfleusterau o'r fath, ac un sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Heb hynny, ni allwn ddechrau ymchwilio i atebion posibl. Mae ymateb y Llywodraeth yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i Swyddfa'r Post gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei rwydwaith. Mae hefyd yn wir bod y rhwydwaith ATM mwyaf, LINK, yn cyhoeddi cyfeirlyfr o ble mae ei gyfleusterau arian parod ar gael. Mae'n debyg bod y pedwar banc mawr hefyd yn cyhoeddi data o'r math hwn, ynghyd â nifer o fanciau llai o faint y stryd fawr o bosibl, a gallai hyn oll helpu i hwyluso'r broses o greu map cynhwysfawr ar gyfer bancio a chyfleusterau arian parod.
Mae argymhellion 9 a 10 yn cyfeirio at gysylltedd a'r angen i wella dealltwriaeth a defnydd o fancio ar-lein. Fodd bynnag, ceir problem gynhenid mewn bancio ar-lein, o ran yr henoed yn arbennig unwaith eto. Ceir cynnydd amlwg o hyd mewn gweithgarwch bancio ar-lein twyllodrus yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan Financial Fraud Action UK. Cafwyd cyfanswm o £63 biliwn o golledion ar drafodion ar-lein neu dros y ffôn lle nad oedd deiliad y cerdyn yn bresennol hyd at, a chan gynnwys, y llynedd.
Mae argymhelliad 11 yn ymwneud ag effaith cau banciau a pheiriannau ATM am ddim i bawb ar ganol trefi a chymunedau. Rhaid inni dderbyn, fodd bynnag, fod banciau'n cau oherwydd y gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio canghennau banc, gyda mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis defnyddio bancio ar-lein. Wrth gwrs, mae'r duedd hon yn rhywbeth y mae banciau wedi bod yn awyddus i'w chefnogi, gan ei bod yn galw am lai a llai o safleoedd a llai o staff, heb ostyngiad cyfatebol yn eu ffrydiau refeniw. Mae'n ffaith ddiymwad fod colli banciau o drefi wedi gwaethygu dirywiad canol trefi gan ei fod yn cael effaith ddramatig ar nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Ond mae hefyd yn wir dweud bod ardrethi masnachol, a osodir fel arfer ar 48 y cant o'r gwerth ardrethol, hefyd yn cael effaith negyddol ar allu masnachwyr y stryd fawr i gadw presenoldeb yng nghanol trefi.
Nodaf yma ymwneud posibl Llywodraeth Cymru â Banc Cambria er mwyn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu seilwaith bancio dielw, a'u dymuniad i hyrwyddo presenoldeb undebau credyd yng nghanol ein trefi yn lle hen fanciau'r stryd fawr lle bo'n bosibl. Credaf efallai mai seilwaith bancio masnachol dielw, cryf yw'r unig ffordd o wrthsefyll y dirywiad yn hygyrchedd gwasanaethau ariannol, ac felly hygyrchedd canol y dref, ond er mwyn cymryd lle banciau'r stryd fawr yn llwyr, rhaid iddynt gynnig yr un cyfleusterau ag yr arferai banciau masnachol eu cynnig i'r gymuned fusnes—a benthyciadau busnes a chyfleusterau trafod arian parod yn enwedig.
Rwy'n credu y dylai pob un ohonom atgoffa hen fanciau'r stryd fawr fod yna atebolrwydd cymdeithasol, fel y crybwyllwyd yn gynt, yn yr ystyr eu bod wedi gwneud elw enfawr ar gefn y cymunedau, ac mae ganddynt ddyletswydd gymdeithasol tuag atynt i gadw banciau lle bynnag y bo modd. Diolch.