Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymchwiliad yn ogystal â'r Cadeirydd a'r tîm clercio am eu gwaith rhagorol ar y pwnc hynod bwysig hwn. Mae'r rhestr o randdeiliaid a gyfrannodd yn faith ac yn amrywiol dros ben ac nid yw hynny'n syndod i mi mewn gwirionedd, oherwydd fe wyddom oll pa mor bwysig yw mynediad at fancio, a pha mor gryf y mae pobl yn teimlo ynglŷn â chau banciau mawr ar ein stryd fawr ar hyd a lled Cymru.
Fel aelod o'r meinciau cefn, mae llawer o'ch amser yn mynd ar waith pwyllgor ac yn aml iawn gallwch gael eich llesteirio gan ymchwiliadau sy'n bwysig ac yn deilwng iawn, yn craffu ar bolisi presennol neu'n edrych tua'r dyfodol, a meddwl, 'Er mor bwysig y credaf yw hyn, nid wyf yn siŵr iawn y byddai gan fy etholwyr gymaint â hynny o ddiddordeb yn yr hyn rwy'n ei wneud yma.' Ond ni fu hynny erioed yn wir gyda'r ymchwiliad hwn i fynediad at fancio. Roeddwn yn gwybod pe bawn yn egluro i bobl yng Nghwm Cynon beth roeddem yn edrych arno a pham, byddent yn cyfrannu, yn barod i leisio barn, ac yn awyddus i wybod beth yw'r canlyniad a lle gallai'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth.
Er enghraifft, fel llawer o Aelodau eraill y Senedd hon, mae gennyf dudalen Facebook y byddaf yn cyfathrebu â fy etholwyr drwyddi, ac o'r holl negeseuon rwyf wedi'u postio ers i mi gael fy ethol yn 2016, yr un a gafodd fwy o sylw na'r un o'r lleill o bell ffordd, gwaetha'r modd, oedd neges a ysgrifennais i hysbysu etholwyr ynglŷn â chau'r Co-operative Bank yn Aberdâr. Nid hwn oedd y banc cyntaf yn y dref i gau ac yn wir, rhaid imi ddweud, yn anghyffredin iawn, mae gan y dref gynrychiolaeth dda o fanciau a chymdeithasau adeiladu, ond yr hyn a wnaeth y neges honno oedd adlewyrchu'r meddylfryd cyhoeddus a'r teimlad cyffredinol sydd gan bobl fod gan ein banciau ddyletswydd gymdeithasol i gynnal presenoldeb ar y stryd fawr, ac ni ddylent gael eu gyrru gan elw gormodol a'r symudiad at fancio ar-lein yn unig. Un o'r prif gwynion sydd gan bobl ynghylch cau banciau yw'r diffyg ymgynghori cymunedol cyn i'r canghennau gau, a'r amddiffyniad mynych a dall gan y sector bancio, sydd bob amser yn dweud mai penderfyniad masnachol yn unig ydoedd.
Felly roedd y broses o gau banciau yn un maes roeddem yn awyddus i ymchwilio iddo fel pwyllgor. Archwiliwyd y safon mynediad at fancio, y gall banciau a chymdeithasau adeiladu ymrwymo iddi, er nad oes rhaid iddynt wneud hynny, safon sy'n nodi sut y dylid hysbysu a chynorthwyo cwsmeriaid yn well ac yn amserol ar ôl gwneud penderfyniad i gau cangen o fanc. Mae'r adroddiadau diweddaraf yn awgrymu bod y diwydiant bancio wedi cydymffurfio'n dda â'r safon, sy'n fy arwain, yng ngoleuni'r problemau rydym yn ymwybodol iawn ohonynt, i gwestiynu a yw'r safon ei hun yn ddigon cryf ai peidio. Adlewyrchwyd hyn yn argymhelliad 6 ein hadroddiad, lle galwyd ar Lywodraeth y DU a Grŵp Strategaeth Arian Parod yr Awdurdodau ar y Cyd (JACS) i adolygu a yw'r safon mynediad at fancio yn ddigon cadarn i fynd i'r afael ag effaith cau banciau, neu a oes angen camau rheoleiddio neu gamau eraill. Yn ddealladwy, ni allodd Llywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad gan nad oes ganddi unrhyw bwerau datganoledig yn y maes hwn, ac mae hyn yn dangos y cymhlethdodau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru wrth geisio dwyn banciau i gyfrif am eu hymddygiad yng Nghymru. A oes ffordd o amgylch hyn? A oes yna ateb sydd wedi'i wneud yng Nghymru? Wel, banc cymunedol i Gymru, o bosibl, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato'n ddiweddarach.
Wrth amddiffyn eu penderfyniad i gau banc, mae banciau bob amser yn awyddus i nodi'r rôl y gall swyddfeydd post ei chwarae yn darparu gwasanaethau bancio a chyfeirio'u cwsmeriaid presennol i'w cangen leol o Swyddfa'r Post. Ond a yw Swyddfa'r Post yn ateb amgen ymarferol mewn gwirionedd? Wel, fe edrychwyd ar hyn a gwelsom nad yw banciau'n gallu cynnig yr ystod lawn o wasanaethau mewn gwirionedd fel y nododd Aelodau eraill, a gwaethygir hyn gan y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o wasanaethau bancio Swyddfa'r Post hefyd, gyda 55 y cant o oedolion heb fod yn ymwybodol, mae'n debyg, y gallant ddefnyddio Swyddfa'r Post ar gyfer bancio. Felly, arweiniodd hynny at argymhelliad 7 lle gofynasom i Lywodraeth Cymru adolygu ei chefnogaeth i rwydwaith Swyddfa'r Post a chodi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hyn ar draws Cymru. Ac unwaith eto, daeth cymhlethdodau datganoli i'r amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru yma, wrth iddynt dderbyn ein hargymhelliad yn rhannol yn unig, gan mai mater i Lywodraeth y DU yw cyllid ar gyfer swyddfeydd post. Felly, unwaith eto, roedd hyn yn gwneud i mi feddwl a oes angen ateb wedi'i wneud yng Nghymru i osgoi'r cyfyngiadau hyn.
Ac mae hynny'n fy arwain at fanc cymunedol i Gymru, gyda'i fwriad i gynnig cyfrifon cyfredol, bancio wyneb yn wyneb a darparu benthyciadau gan staff profiadol. A allai hwn fod yn ateb y mae pawb ohonom yn ei geisio? Wel, mae llawer iawn yn y fantol gan fod disgwyliad y cyhoedd wedi'i adeiladu ar y polisi hynod boblogaidd hwn gan y Llywodraeth. Pan holasom Mark Hooper o Banc Cambria, sydd wedi cael y cyllid sbarduno i ddatblygu banc cymunedol i Gymru, dywedodd wrthym y gallai'r banc yn ymarferol greu mwy na 50 o ganghennau yng Nghymru o fewn pump i saith mlynedd, ac amcangyfrifodd y byddai tua 12 o'r rheini wedi'u staffio'n llawn a'r gweddill yn cynnig darpariaeth awtomataidd. Nawr, er y gallai hwn fod yn gam i'w groesawu i gefnogi ein cymunedau sy'n dioddef yn sgil cau banciau, rwy'n credu bod angen rheoli disgwyliadau i ryw raddau yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir gyda phobl os mai dim ond tua un rhan o bump o ganghennau a fyddai wedi'u staffio'n llawn. Gwn y byddai cymunedau yn fy etholaeth sydd heb fanc yn falch iawn o feddwl y gallai Banc Cambria sefydlu cangen yno, ond a fyddent mor awyddus pe gwyddent mai darpariaeth awtomataidd yn unig y byddai'n ei chynnig? Felly, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn, rwy'n dal i deimlo ei fod yn faes a allai alw am fwy o graffu wrth i gynlluniau ddatblygu.
Ac i gloi, mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hynod bwysig, ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.