Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cyfeirio at swyddfeydd post. Wrth gwrs, rwy'n cofio'r gronfa y cyfeirioch chi ati'n cael ei chyflwyno, ond nid oedd gennym gytundeb fframwaith bancio swyddfa'r post rhwng swyddfa'r post a 28 o fanciau bryd hynny i ddarparu mynediad at wasanaethau ar y stryd fawr lle mae ganddynt gangen. A ydych yn cytuno y dylem hefyd fod yn annog Llywodraeth Cymru, lle bo'n ymarferol, i weithio gyda'r fframwaith hwnnw er mwyn iddynt allu cefnogi canghennau lleol o'n swyddfeydd post?