Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Nid yn unig fod Cymru wedi tangyflawni, mae ei pherfformiad yn dirywio.
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain. Dyma eiriau pennaeth addysg a sgiliau y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn siarad cyn cyhoeddi'r set ddiweddaraf o ganlyniadau PISA. Ni waeth faint o gysur y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio o'r gwelliant bach yn y sgoriau PISA, mae'n ffaith bod Cymru yn dal i fod ar waelod cynghrair PISA y DU.
Ers 2006, pan gymerodd Cymru ran yn y prawf PISA am y tro cyntaf, ni fu unrhyw welliant ystadegol arwyddocaol mewn darllen a mathemateg, ac mae sgoriau Cymru mewn gwyddoniaeth yn waeth o lawer. Mae'r perfformiad truenus hwn yn ganlyniad uniongyrchol i dangyllido ysgolion yn barhaus ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae arweinwyr ysgolion a rhanddeiliaid wedi honni'n gyson bod tangyllido cronig ac ariannu annigonol wedi rhoi ysgolion o dan bwysau ariannol difrifol. Mae ffigurau diweddaraf NASUWT yn amcangyfrif bod y bwlch cyllido rhwng disgyblion Cymru a Lloegr yn £645—ffigur syfrdanol. Ond mae'r bwlch gwario hwn yn cael ei ailadrodd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i fformiwla ariannu ddiffygiol Llafur. Mae'r arwyddion rhybudd wedi bod yno ers peth amser. Y llynedd, lluniodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad lle roeddent yn dadlau bod y gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn peri pryder ynghylch triniaeth anghyfartal ysgolion mewn amgylchiadau tebyg. Aethant ati i alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adolygu ei modelau cyllido ysgolion os yw'n dymuno gwireddu ei huchelgais ar gyfer tegwch o ran addysg a lles myfyrwyr.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddiogelu cyllid ysgolion ym mhedwerydd a phumed tymor y Cynulliad, ond nid yw cyllid ysgol hyd yn oed wedi cadw'n wastad â chwyddiant. Ers 2010, mae'r gwariant ar ysgolion wedi gostwng bron 8 y cant mewn termau real. Yn y gyllideb ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Addysg ei bod yn buddsoddi £100 miliwn er mwyn codi safonau ysgolion yn ystod pumed tymor y Cynulliad, ond ni ddyrannwyd yr arian tuag at gyllid craidd ysgolion, penderfyniad a feirniadwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n bryd cael dadl onest, agored ac aeddfed am gyllidebau ysgolion yng Nghymru. Rhaid inni gydnabod y rhwystredigaeth a'r digalondid a grëir gan yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru, a'r effaith andwyol y mae'n ei chael ar ein pobl ifanc. Gellir gweld canlyniadau hyn yn y cynnydd ym maint dosbarthiadau, nifer gostyngol o staff chwaraeon a'r cwtogi ar nifer o weithgareddau y tu allan i'r cwricwlwm gorfodol. Mae arnom angen system sy'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol, un sy'n rhoi mwy o reolaeth ar wariant i athrawon, rhieni a llywodraethwyr, gan gyfeirio mwy o arian i'r ystafell ddosbarth.
Ddirprwy Lywydd, mae'r canlyniadau PISA hyn wedi amlygu'r tlodi uchelgais wrth wraidd strategaeth addysg Llafur. Ni fydd safonau'n gwella oni bai fod y Gweinidog yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â thanariannu dybryd ysgolion yng Nghymru. Mae arnom angen rhaniad adnoddau tecach a mwy cyfartal. Mae arnom angen fformiwla ariannu newydd. Ar draws y sector addysg, derbynnir bod y system bresennol yn annigonol a bod angen newid yn ddybryd. Mae addysg dda yn hanfodol i roi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd i ddisgyblion Cymru. Gofynnaf i'r Gweinidog gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg o'r safon uchaf yng Nghymru, fel y maent yn ei haeddu. Diolch.