Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Rydym hefyd wedi estyn ein grant datblygu disgyblion i addysg heblaw yn yr ysgol, a'r plant nad ydynt mewn sefyllfa ysgol reolaidd. Wrth gwrs, fel y nododd David Melding yn gywir, mae gennym lawer iawn mwy i'w wneud ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr sy’n arbennig o agored i niwed y mae eu cyflawniadau addysgol, naill ai o fewn PISA neu y tu allan i PISA, yn parhau i fod yn llai nag y dylent fod. Rwy’n gobeithio, yn y flwyddyn newydd, y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi dulliau newydd, gan ddysgu o arferion gorau mewn mannau eraill, ynglŷn â sut y gallwn wella nid yn unig y grant datblygu disgyblion i blant sy’n derbyn gofal ond darpariaeth newydd hefyd i geisio gwneud gwahaniaeth i’r plant penodol hynny.
Nawr, y peth pwysig i mi yw bod y bwlch anfantais yng Nghymru gryn dipyn yn llai na gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Adroddir bod disgyblion yng Nghymru hefyd yn fwy abl mewn cymhariaeth i oresgyn anfantais eu cefndir na'r cyfartaledd ymysg gwledydd y Sefydliad. Ond gadewch i ni fod yn hollol glir: sgoriodd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 34 pwynt yn is na disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar gyfartaledd. Nawr, mae hynny'n cau'r bwlch o ryw saith pwynt o fewn y gwelliant cyffredinol mewn perfformiad, felly mae’n gynnydd. Ond bydd angen i ni wneud hyd yn oed yn well, a dyna pam rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu’r grant datblygu disgyblion, gan ddarparu mwy fyth o gefnogaeth, fel y dywedais, i blant sy’n derbyn gofal, i’n plant mwyaf agored i niwed, yn ein hymgais i godi safonau i bawb. Rydym hefyd yn cyflawni cynllun gweithredu cyntaf erioed Cymru ar gyfer disgyblion mwy galluog a thalentog, ac rydym yn ehangu ein rhaglen Seren hynod lwyddiannus. Ac yn olaf, rydym yn blaenoriaethu arweinyddiaeth o fewn ein hysgolion a'n system addysg.
Fel rwyf wedi’i ddweud erioed, ac fel yr eglurir yng nghynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl, mae PISA yn arwydd pwysig i rieni, i gyflogwyr a buddsoddwyr. Ond mae hefyd yn llawer mwy nag ymarfer meincnodi i Lywodraeth Cymru. Mae'n darparu ffynhonnell werthfawr o ddata a dadansoddiadau sydd, ynghyd â ffynonellau data ac ymchwil eraill, yn darparu'r sylfaen dystiolaeth i ni allu gwneud gwelliannau allweddol a fydd yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi gweld hynny gyda'r gwelliannau mewn mathemateg dros ddau gylch PISA.
Rydym hefyd wedi cydnabod ein bod wedi gweld perfformiad gwell ar lefel uwch yn y rownd hon: cynnydd mewn darllen, lle mae gennym bellach 7 y cant yn perfformio ar lefel uchel yn hytrach na 3 y cant yn y rownd ddiwethaf. Rydym hefyd wedi cynyddu'r gyfran yn ein dau faes arall—cynnydd tebyg ar gyfer mathemateg, ac mae ychydig yn llai ar gyfer gwyddoniaeth. Nawr, gosodais yr her i gynyddu'r canrannau hyn dair blynedd yn ôl, ac rwy'n falch ein bod wedi gweld cynnydd. Ond rwyf hefyd yn hollol glir nad ydym eto ar gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer perfformwyr uchel. Felly, unwaith eto, dyma grŵp arall o fyfyrwyr lle mae mwy o gynnydd i'w wneud o hyd. A byddwn yn ymchwilio i'r ffynhonnell ddata gyfoethog hon y mae'r rownd gyfredol wedi'i darparu, a byddwn yn edrych eto ar ba welliannau y gellir eu gwneud o'r hyn y mae'r data yn ei ddweud wrthym ac o gydweithio parhaus â gwledydd eraill. Felly, er enghraifft, ar ddarllen, sydd wedi bod ar flaen meddyliau pobl heddiw, ac yn briodol felly, byddwn yn edrych yn benodol ar ba gamau y gallwn eu cymryd mewn perthynas â darllen. Mae gennym berthynas waith gref gyda'r adran addysg yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn eu sgoriau darllen, a byddwn am allu parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Ond ni allaf ddweud yn ddigon cryf: byddwn yn cadw at y llwybr rydym wedi'i osod ar gyfer addysg yng Nghymru, ac rydym yn glynu wrth egwyddorion cenhadaeth ein cenedl i godi safonau, i fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad, ac i sicrhau bod gennym system sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Nawr, dangosodd canlyniadau’r wythnos diwethaf lwyddiant yn erbyn yr amcanion hynny, ac rydym wedi profi bod gwelliant yn bosibl, y gallwn ei gael o fewn ein system er mwyn gwneud cynnydd. Mae mwy i'w wneud, ond rwy'n hyderus, oherwydd bod ein hathrawon wedi cofleidio cenhadaeth ein cenedl, ein bod gyda'n gilydd, yn anelu i'r cyfeiriad cywir. Y bore yma, roeddwn yn siarad â'n cenhedlaeth nesaf o athrawon yn y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn falch, yn falch iawn, o fod yn ymuno â'r proffesiwn ar yr adeg gyffrous hon sy’n amser hollbwysig i addysg yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn talu mwy o sylw i'w brwdfrydedd, eu huchelgais a'u hysbryd cadarnhaol nag i beth o'r sinigiaeth sydd wedi’i ddangos yn y Senedd y prynhawn yma.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am achub ar y cyfle hwn, unwaith eto, i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i'w gwaith caled, eu hymdrech a'u hymrwymiad. Rwy'n gwybod eu bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau y bydd y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA yn dangos cynnydd pellach, ac maent yn ymroddedig ac yn ymrwymedig i wneud i hynny ddigwydd. Ac rwyf am iddynt fod yn sicr fy mod i fel Gweinidog, a’r Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, eu profiad a'u harbenigedd, ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio gyda hwy, oherwydd pan gawn bethau’n iawn ar gyfer addysg ein plant, byddwn yn eu cael yn iawn ar gyfer dyfodol ein cenedl.