Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll y TGAU newydd mewn Cymraeg ail iaith ar ôl dileu opsiwn y cwrs byr. Mae'n fwy heriol, ond mae'r cynnydd yn niferoedd y cofrestriadau wedi arwain at gynnydd o 12.5 y cant yn y dysgwyr a gafodd A* i C yn y cymhwyster cwrs llawn. Eleni, fe wnaeth 1,500 o ddysgwyr ychwanegol sefyll arholiadau TGAU mewn gwyddoniaeth, gan adeiladu ar y nifer sylweddol o gofrestriadau a gafwyd y llynedd hefyd. Ac mae'r newid diwylliant parhaus hwn yn ganlyniad i'r symud oddi wrth gofrestru pawb yn ddiwahân i gymwysterau gwyddoniaeth galwedigaethol yn 16 oed. Mae arferion cofrestru wedi sefydlogi eleni, cafwyd ymateb cadarnhaol gan ysgolion i'r polisi mynediad cynnar diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2018. Mae'n golygu bod llai o'n dysgwyr dan bwysau i sefyll arholiadau cyn eu bod yn barod, ac mae'n golygu llai o straen.
Ac os caf droi’n fyr at ganlyniadau Safon Uwch 2019, mae'r canlyniadau Safon Uwch eleni yng Nghymru yn uwch nag erioed. Llwyddodd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr i ennill graddau A* ac A, gyda Chymru’n perfformio'n well na holl ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y niferoedd sy'n cyflawni'r radd uchaf un. Canlyniadau sy’n uwch nag erioed a gyflawnwyd drwy waith caled myfyrwyr ac athrawon. Ac mewn cyferbyniad, gyda llaw, mae cyfran y cofrestriadau Safon Uwch a gafodd radd A ac uwch wedi gostwng i'r lefel isaf ers dros ddegawd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon—er mwyn dangos y cyferbyniad.
Ond gadewch inni droi at godi safonau ysgolion yn fy sylwadau i gloi. Mae cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn anelu at godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol. Mae diwygiadau a gyflwynwyd eisoes, megis y fframwaith llythrennedd a rhifedd, y safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, y ddarpariaeth hyfforddiant cychwynnol i athrawon a gryfhawyd, y trefniadau asesu ffurfiannol ac yn allweddol, sefydlu academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol, mae'r rhain oll yn pwyntio i’r cyfeiriad cywir. Ni allwn fyth fod yn hunanfodlon, ond rwyf am ddweud, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, fy mod am ddymuno’r gorau o dymor y Nadolig i'n holl fyfyrwyr a'n hathrawon a'n llywodraethwyr. Boed i chi gael seibiant haeddiannol a'r gorau ar gyfer 2020 hapus a llwyddiannus, gan adeiladu ar y cynnydd cyson rydym yn ei wneud, mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru sy'n uchelgeisiol o ran canlyniadau addysgol ac yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc yng Nghymru.