Hunanladdiad

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad yn ein cyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr, gyda buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau atal hunanladdiad, dyblu ein buddsoddiad yn y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac estyniad i raglen arbrofol Mewngymorth i Ysgolion y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed.