Mawrth, 7 Ionawr 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Fe fyddwn ni'n cychwyn y flwyddyn yma gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ54892
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad neu achos honedig o hunanladdiad? OAQ54862
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54889
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru sy'n deillio o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)? OAQ54890
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ54864
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staff nyrsio yng Nghymru? OAQ54861
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch sicrhau cyllid teg i Gymru? OAQ54876
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54880
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon? OAQ54884
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf Cymru 2017? OAQ54877
3. Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael hefo'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â chydraddoldeb yn y gyfraith, yn sgil adroddiad Comisiwn Thomas? OAQ54863
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch rôl Goruchaf Lys y DU yn y dyfodol? OAQ54885
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lesddeiliadaeth ar dai? OAQ54883
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54872
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r ddadl ar ddatganiad am gyllideb ddrafft 2020 i 2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi masnach. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned...
Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y...
Mae eitem 7 yn ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia