Hunanladdiad

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:41, 7 Ionawr 2020

Fel rhan o ymchwiliad y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr diweddar, pan ofynnodd yr Organisation for Economic Co-operation and Development i ddisgyblion am eu teimladau am eu profiadau bywyd, fe ddarganfuwyd fod 54 y cant o ddisgyblion yng Nghymru weithiau neu o hyd yn teimlo'n ddiflas—39 y cant ydy'r cyfartaledd rhyngwladol. Mae 63 y cant o ddisgyblion weithiau neu o hyd yn teimlo yn bryderus. Mae'r rhain yn ganlyniadau sydd yn codi braw ar rywun, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno hefo fi. Rydych chi wedi ymrwymo i wneud llesiant ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol, ond lle mae'r arwydd o symud i'r cyfeiriad hwnnw—symud arwyddocaol i'r cyfeiriad hwnnw—yn eich cyllideb ddrafft chi?