Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:12, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, trafodwyd y mater hwn gennym yn drylwyr yn y pwyllgor ddoe pan wnaethoch chi haeru, drwy argymell i'r Cynulliad na roddir ei gydsyniad deddfwriaethol, nad ydych chi'n disgwyl argyfwng cyfansoddiadol. Os bydd y Cynulliad yn gwrthod ei gydsyniad, fel y dymunwch, beth fydd y canlyniadau yn eich barn chi?