Cyllid Teg i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:23, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe byddai'r Llywodraeth Geidwadol wedi cynyddu gwariant y Cynulliad hwn yn unol â thwf yr economi er 2010, byddem ni £4 biliwn yn well ein byd nag yr ydym ni nawr. I bob pwrpas, mae rhaglen cyni cyllidol y Torïaid wedi dwyn £4 biliwn oddi ar y wlad hon ac oddi ar pobl Cymru. Prif Weinidog—[Torri ar draws.]—Prif Weinidog, pe byddem ni wedi cael y £4 biliwn hynny a ddylai fod wedi eu rhoi i ni, pa wahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i fywydau pobl Cymru ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus?