Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:10, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y soniais yn y datganiad ddoe, bydd y byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn cyflwyno eu cynlluniau a’u cynigion ar gyfer 2020-21 erbyn diwedd y mis, a bydd y Gweinidog iechyd a’i swyddogion yn eu herio ac yn craffu arnynt yn ofalus, ac yna bydd y Gweinidog iechyd naill ai'n derbyn y cynlluniau neu fel arall wrth iddynt gael eu cyflwyno. Yn amlwg, bydd ffocws ar wella a ffocws ar werth am arian yn ganolog i'r ystyriaethau hynny.