Mercher, 8 Ionawr 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54853] wedi cael ei dynnu yn ôl, ac felly cwestiwn 2 gan Darren Millar.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54865
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei chyllideb? OAQ54852
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol? OAQ54875
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd? OAQ54857
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn ei chael ar Ogledd Cymru? OAQ54887
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar bobl Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54881
9. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael i'r portffolio Tai a Llywodraeth Leol yn ystod y cylch cyllideb cyfredol i gefnogi Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru? OAQ54868
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau dynol drwy ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol? OAQ54866
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg? OAQ54854
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu digwyddiadau i Gymru? OAQ54870
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthoedd sy'n sail i strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54873
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gwariant ar hybu'r Gymraeg yn y gyllideb ddrafft? OAQ54886
6. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gynyddu nifer yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n siarad Cymraeg? OAQ54879
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthiad arian y loteri yng Nghymru? OAQ54871
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar waddol digwyddiadau chwaraeon mawr a gynhelir yng Nghymru? OAQ54882
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo atyniadau twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54874
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn adnoddau pêl-droed 3G cymunedol? OAQ54851
Mae'r cwestiynau nesaf i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant, ac i'w ateb gan Joyce Watson. Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad yn y cynllun achredu Rhuban Gwyn? OAQ54867
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn i'w ofyn gan David Rees.
1. Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? 374
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais,...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad sydd heddiw, ac mae'r datganiad hynny gan Russell George.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor hynny. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r...
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Suzy Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Suzy.
Pa ystyriaeth wnaiff y Gweinidog ei rhoi i ariannu gwasanaethau ymyrraeth gynnar wrth ddyrannu cyllideb 2020-21?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia