Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Ionawr 2020.
Wel, nid yw'n wir, wrth gwrs, nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o gyllid. Rwy'n edrych ar y ffigurau ar wariant cyfalaf sydd gennyf o'm blaen, ac maent yn dangos bod cyfanswm y gost ragamcanol ar wariant cyfalaf, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, yn £2.5 miliwn, sef yr uchaf ond un o'r holl ranbarthau mewn gwirionedd. A dim ond y ffigur cyntaf sydd gennyf o'm blaen yw hwnnw. Felly, ni chredaf fod y ffigurau'n cefnogi hynny, ac er mawr siom i'r Aelod efallai, nid yw'r dadleuon hynny'n ddilys.