Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 8 Ionawr 2020.
Mae Russell George yn llygad ei le fod cyllid penodol yn mynd i Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Wrecsam, gan eu bod yn ardaloedd go iawn lle mae llawer o gysgu allan, ac mae pwysau sylweddol ar yr awdurdodau lleol hynny. Ond rydym yn llwyr gydnabod nad mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol yn unig y mae digartrefedd yn digwydd, mae'n digwydd ledled Cymru, a dyna un o'r rhesymau pam fod y Gweinidog tai a llywodraeth leol newydd lansio ymgyrch sy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ledled Cymru, ac yn aml y gall fod yn fath cudd o ddigartrefedd. Felly, mae'n arbennig o bryderus am y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall, er enghraifft.
Felly, ceir cymorth ledled Cymru ar gyfer digartrefedd—mae'r cyllidebau digartrefedd hynny wedi'u cynnal ar £17.9 miliwn yn 2021. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth yn eich ardal benodol chi.