Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r grant cymorth tai yn un o'r amddiffyniadau gorau sydd gennym yn erbyn yr anhrefn parhaus a achosir gan gyni Torïaidd. Gellir gweld canlyniad blynyddoedd o ddihidrwydd Llywodraeth y DU ynghylch effaith eu polisïau lles ar ein strydoedd: lefelau cywilyddus o gysgu allan ledled y DU, nid yn unig yn ein dinasoedd, ond ym mhob un o'n cymunedau.
Weinidog, mae cynghorau yng Nghymru yn defnyddio'r grant cymorth tai i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Os yw cyllideb mis Mawrth yn darparu unrhyw arian ychwanegol i Gymru, a wnewch chi ystyried rhyddhau mwy o arian i'r grant cymorth tai?