Rheoli Adnoddau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:04, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn Llywodraeth ryngwladol, fyd-eang sy'n cymryd ei chyfrifoldebau i'r blaned ac i eraill o ddifrif. Rydym yn gwbl falch o'r gwaith a wnawn drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Credaf y gallai apelio'n well at werthoedd yr Aelod pe byddwn yn gwneud y pwynt ei bod, mewn gwirionedd, yn fuddiol i ni os yw gwledydd tramor sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn gallu ymdopi'n well mewn cymaint o ffyrdd. Mae heddwch dramor yn fuddiol i ni. Mae sicrhau bod gwledydd tramor yn gallu gwneud cyfraniad gwell at yr argyfwng hinsawdd yn fuddiol i ni. Felly, credaf efallai y gallai'r syniadau cul hynny helpu'r Aelod i ddeall pa mor bwysig yw ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica.