Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 8 Ionawr 2020.
Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwch arno—yn ddiwylliannol, yn economaidd neu'n syml o ran gwell cyd-ddealltwriaeth rhyngom â’n cyd-ddyn—rydym o dan anfantais. Rydym yn llai nag y gallem fod, ac yng Nghymru ni allwn fforddio bod yn llai nag y gallem fod. Ac mewn gwirionedd, mae gennym fantais nad ydym yn ei hyrwyddo nac yn ei gwerthfawrogi ddigon. Yn ddamcaniaethol o leiaf, ni yw'r genedl hyblyg yn ieithyddol yn y Deyrnas Unedig hon. Mae nifer gynyddol ohonom yn bwrw ymaith y flanced gysur Saesneg yn unig ac yn dod yn llai poenus ynglŷn â chael dwy iaith genedlaethol at ein defnydd. Mae'n siŵr bod gweddill y byd yn pendroni pam fod cael dwy iaith genedlaethol yn peri pryder inni beth bynnag, ond rwy'n credu fy mod i'n mynd o flaen fy hun braidd.
Y rheswm y deuthum â hyn i'r Siambr heddiw yw oherwydd fy mod yn credu ein bod, am nifer o resymau’n rhannu pryder gwirioneddol am y dirywiad yn ein gallu ar lefel y boblogaeth i gyfathrebu mewn ieithoedd heblaw ein rhai ni. Ymddengys hefyd fod cryn gonsensws rhyngom ni fel Ceidwadwyr Cymreig, a’r Llywodraeth yn wir, ac yn hynny, rwy’n cynnwys Gweinidogion addysg blaenorol, ynghylch cyflwyno trydedd iaith i mewn i fywydau plant yn yr ysgol gynradd. Wrth gwrs, i rai o'n plant lwcus, nid eu trydedd iaith fydd hi, gallai fod yn bedwaredd neu hyd yn oed yn bumed iaith iddynt.
A bydd, fe fydd yna bobl o hyd sy'n beio'r dirywiad mewn sgiliau ieithoedd tramor modern ar gynnwys Cymraeg gorfodol yn ein cwricwlwm, ond mae hynny'n anwybyddu’r ffaith bod rhannau eraill o'r DU hefyd wedi ymrwymo i roi tair iaith i blant a'u bod yn wynebu problemau heb fod yn annhebyg o ran y nifer sy’n astudio tair iaith.
Prin fod y canllawiau ar ddysgu ieithoedd tramor modern wedi newid ers 2008. Ni wnaeth adolygiadau thematig Estyn ar y pryd, ac eto yn 2016, baentio'r darlun gorau, gan ddweud i bob pwrpas fod y brwdfrydedd a'r bwriadau da ym mlwyddyn 7, efallai blwyddyn 8, yn diflannu’n eithaf cyflym yn sgil nifer o ffactorau o restr o resymau a roddir: ansawdd addysgu amrywiol; rhy ychydig o wersi; rhy ychydig o athrawon sydd â'r iaith yn brif ddisgyblaeth; y safonau mewn ysgol yn fwy cyffredinol efallai; problemau gyda'r amserlen opsiynau yng nghyfnod allweddol 4—rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd â hynny; bagloriaeth Cymru; cydweithredu annigonol ag ysgolion eraill; proffil economaidd-gymdeithasol disgyblion; p'un a yw'r ysgol yn gyfrwng Saesneg neu Gymraeg; cefnogaeth anghyson gan awdurdodau lleol; agwedd arweinwyr ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd tuag at astudio ieithoedd tramor modern—dim ond 17 y cant sy'n rhoi negeseuon cadarnhaol ar werth ieithoedd tramor modern; ac wrth gwrs y canfyddiad, a chanfyddiad yn unig ydyw, fod ieithoedd yn rhy anodd.
Nawr, i'r disgyblion sy'n penderfynu parhau i astudio iaith yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 ac ymlaen, mae eu safonau cyflawniad yn eithaf uchel. Efallai y bydd athrawon y carfannau hynny’n teimlo eu bod yn lwcus, gan eu bod yn cael y plant â'r ddawn fwyaf i astudio’r pwnc a'r awydd mwyaf i'w astudio, ac felly dylem ddisgwyl i’r cyflawniad fod yn uchel. Ond mae'r agwedd, 'Iaith elitaidd yw hon'—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw yn ei ystyr fwyaf cadarnhaol—yn creu ei ganlyniadau negyddol ei hun. Os bydd y galw’n gostwng am na chaiff ieithoedd modern eu hystyried yn hygyrch i bawb yn y ffordd y mae Llywodraethau olynol wedi ceisio gwneud y gwyddorau’n hygyrch i bawb, bydd nifer y bobl ddisglair sydd eisiau dysgu ieithoedd tramor modern yn gostwng hefyd.
Weinidog, rydym wedi trafod y targedau rydych chi wedi'u rhoi i Gyngor y Gweithlu Addysg i geisio dod â myfyrwyr newydd i mewn i hyfforddi fel athrawon ieithoedd tramor modern. Nid ydynt yn hynod o uchelgeisiol, ond ni chânt eu cyrraedd chwaith. Nid yw'n fath o gylch dirinwedd, mae'n fwy o droell ddirinwedd tuag i lawr, ac mae'n rhywbeth y mae pawb eisiau ei weld yn dod i ben. Felly, yn eich ymateb, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cyfeirio at hon fel problem y tu allan i Gymru, ac rwy’n derbyn hynny’n llwyr, fod Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni rhywbeth, ond gobeithio nad oes ots gennych os cymerwn hynny fel ffaith, oherwydd dadl fer yw hon lle nad wyf yn ymosod ond yn hytrach, rwy'n gobeithio rhannu sylwadau a dysgu beth a ddysgwyd gennych yn eich profiad hyd yma o geisio gwyrdroi'r gostyngiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern a sut y mae wedi llywio'r cwricwlwm newydd, lle rydych chi'n gobeithio a lle rydym ni’n gobeithio y bydd maes dysgu a phrofiad newydd ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn creu rhywfaint o newid go iawn.
Nawr, cyfathrebu. Rwy'n credu mai’r hyn sydd wedi fy nharo o'r holl ymchwil ac adroddiadau a ddarllenais, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog a'i swyddogion wedi cael cyfle i ddarllen llawer mwy, naill ai gan Estyn, Sefydliad Gertner, y British Council, Gorwel, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, llwyth o'r UE, erthyglau meddygol, blogiau, beth bynnag y bo, y neges sy'n dod drwodd yn uchel ac yn eglur yw mai dulliau cyfathrebu yw ieithoedd yn anad dim arall. Ond nid dyna sut mae'n teimlo pan fyddwch yn eu hastudio yn yr ysgol. Ac eto, eu diben fel dull o gyfathrebu, sy'n gwneud eu haddysgu mor werthfawr ac yn arbennig o werthfawr i Gymru, yw bod angen i ni gyfathrebu â'r byd.
Ac rwy'n cydnabod yn y maes dysgu a phrofiad hwnnw fod llawer o'r hyn a ddarllenais am y pwnc wedi’i seilio ar gryfder amlieithrwydd ar gyfer cyfathrebu. Heb y gallu i gyfathrebu a deall beth mae eraill yn ceisio'i gyfleu inni, sut y gallwn ni ddysgu dod yn gyfranogwyr mentrus yn ein bywydau ein hunain, dod yn ddinasyddion moesegol yn y byd neu ddatblygu perthynas gadarnhaol ag eraill?