Denu Digwyddiadau i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:46, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Un o fanteision y ganolfan gynadledda ryngwladol a chynnig rhagorol Jayne yw ei lleoliad ar ochr ddwyreiniol Casnewydd yn y Celtic Manor, fel nad oes angen i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau yno o Loegr ar hyd y ffordd deithio drwy dwneli Bryn-glas. Oni fyddai adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn strategaeth ehangach ar gyfer denu digwyddiadau i Gymru, er enghraifft i Gaerdydd, gan ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl eu cyrraedd heb fod mewn tagfeydd hir iawn, sef yr hyn a ddigwyddodd unwaith eto dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, a heddiw yn wir?