Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch. Weinidog, fe fyddwch yn gwbl ymwybodol fod yna alw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd ac uwchradd, ac yng ngoleuni'r duedd gynyddol honno, tybed pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i sicrhau cynnydd pellach yn nwyieithrwydd cymunedau Saesneg uniaith trwy sicrhau y byddai'r cynnig gofal plant estynedig, a oedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, yn rhoi'r gallu i blant tair a phedair oed amsugno dwyieithrwydd yn y ffordd y mae cath yn llarpio soseraid o laeth. Mae'n ymddangos i mi fod hwn yn gyfle a gollwyd yn y cynnig gofal plant i deuluoedd sydd i'w groesawu'n fawr a chost gofalu am blant ifanc, yn ogystal ag i'r plant hynny. Felly, o ystyried bod yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn lle fel Caerdydd yn dod o gymunedau Saesneg eu hiaith yn bennaf, tybed pa strategaeth y gellid ei defnyddio i sicrhau cynnydd cyflym yn nifer y bobl sy'n ymarferwyr blynyddoedd cynnar rhagorol yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.