Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Ionawr 2020.
Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweinidog Addysg. Cawsom gyfarfod arall yr wythnos hon i drafod agweddau ar Cymraeg 2050 mewn perthynas â’i phortffolio, ac yn dilyn yr ymgynghoriad ar Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r canllawiau drafft cysylltiedig a fu'n destun ymgynghoriad, byddwn yn cynnal cynhadledd ym mis Mawrth i drafod cynllunio a hyrwyddo'r Gymraeg mewn addysg.