Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 8 Ionawr 2020.
Wel, fe hoffwn ei longyfarch. Rwy'n credu ei bod yn rhyfeddol y gall unrhyw un gyrraedd unrhyw le yn agos at hyn. Mae'n rhyfeddol o ystyried yr hyn sy'n rhaid iddynt ei gyflawni. Fe gyflawnodd fy nghefnder y ras eleni ac roedd y stamina sydd ei angen arnoch i’w wneud yn anhygoel, ac maent yn dechrau ar ryw adeg chwerthinllyd o'r bore hefyd. Felly, llongyfarchiadau i unrhyw un sy'n cyrraedd unrhyw le'n agos at hyn. Rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom addunedau blwyddyn newydd, ond nid yw hyn yn un o fy addunedau i. [Chwerthin.]