Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr am y sylw yna. Fe wnaf i eich sicrhau chi y byddaf yn trafod hyn yn benodol gyda'r gymdeithas bêl-droed a chyda Chwaraeon Cymru i weld pa fodd y gallwn ni'n arbennig ddatblygu'r agweddau cymunedol, oherwydd un o'r llwyddiannau sydd yn dilyn proffil uchel i dimau rhyngwladol, mewn rygbi ac mewn chwaraeon eraill, ac mewn pêl-droed yn benodol yn yr achos yma, yw bod pêl-droed cymunedol, a diddordeb mewn pêl-droed, yn gallu cynyddu a datblygu. Dwi'n eich sicrhau chi y bydd hynny'n cael ei osod ar agenda'r drafodaeth, fel bod cyllid Llywodraeth Cymru tuag at y gymdeithas bêl-droed a'r cyngor chwaraeon hefyd yn effeithio ar ddiddordeb cymunedol, ac yn cynhyrfu rhagor o ddiddordeb cymunedol yn y maes, gan gynnwys pêl-droed menywod, sydd yn ddatblygiad yr wyf wedi'i fwynhau'n arbennig yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog.