Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n ddryslyd braidd—rwy’n codi i wneud sylwadau personol yn awr, mewn gwirionedd, ac rwy’n teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle i mi, gyda chi’n cyflwyno hyn, Dawn. Yn sicr, fel Aelod sy'n teithio o ogledd Cymru, ar gost fawr i'r trethdalwr mewn gwirionedd—pedair, pedair awr a hanner ar y trên, yno ac yn ôl—pan fyddaf yma, yn amlwg, rwyf am lenwi'r amser yn y ffordd orau sy’n bosibl.
Mae dau beth yn eich datganiad heddiw yn peri pryder i mi. Yn gyntaf, cawsom refferendwm yn 2011, y refferendwm pleidlais amgen—ai dwy fil ac—? [Torri ar draws.] Na, na, ond roedd yn refferendwm er hynny: fe siaradodd y bobl, penderfynodd y bobl ar y system bleidleisio roeddent ei heisiau, ac i mi fel Aelod dros Aberconwy, gydag iechyd ac addysg a'r pryderon sydd ganddynt yno, nid yw'n cael lle blaenllaw ar eu graddfa Richter o’r hyn y dylem fod yn ei wneud yma.
Ond fe sonioch chi am fwy o graffu. Nawr, siom arall sydd gennyf, pan fyddwn wedi teithio i lawr yma, yw bod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn arfer bod yn awr, yna cafodd ei byrhau'n fuan iawn i 45 munud. Yn bersonol, rwy’n teimlo y gallem fod yn gwneud mwy yn yr amser rydym yma—y rhifau a roddir inni. Yn eithaf aml, gofynnir i mi yn fy etholaeth, lle mae pobl wedi troi at Senedd.tv, 'Pam y mae'r meinciau bob amser yn wag neu mai ychydig iawn o bobl sydd ar y meinciau hynny?' Rwy'n mynd i bwyllgorau lle mae pobl ar un pwyllgor yn unig, ac nid ydynt yn mynychu’r pwyllgor yn rheolaidd. Rwy'n credu o ddifrif, a hoffwn ofyn—fy nghwestiwn pennaf yw: beth neu bwy yn y sefydliad hwn a fyddai'n edrych efallai ar sut y gallem wneud mwy o ddefnydd o'r amser rydym ni fel Aelodau Cynulliad yma, a pheidio â dal i edrych bob amser ar sut y gallwn gynyddu'r gost i'r trethdalwr?
Aelodau, Cymru sydd â'r nifer uchaf o wleidyddion yn Ewrop, yn ôl yr hyn a ddeallaf o astudiaeth a wneuthum. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, cyn inni ddechrau dweud, 'Mwy, mwy, mwy—mwy o gost i'r trethdalwr', dylem edrych—[Torri ar draws.] Rwy'n gofyn—