Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw yn lle'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Rydym yn gwybod bod dadansoddiad a wnaed ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif y bydd tlodi cymharol plant yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, gan wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi o bosibl erbyn 2021-22. Fel y clywsom heddiw, nid yw ond yn iawn y dylai hyn fod yn destun pryder i bob un ohonom ni waeth beth yw ein plaid neu ein swydd. Dylai un plentyn mewn tlodi fod yn un yn ormod bob amser.
Ac er nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ei glywed, fel y clywsom dro ar ôl tro, nid yw effaith ddinistriol cyni a diwygio lles yn newyddion ffug; mae'n realiti anffodus, eglur ac erchyll i lawer gormod o bobl. Mae'r rhes o doriadau lles creulon wedi newid yn sylweddol yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ddiogelwch yn system sy'n cosbi pobl sydd ei hangen ac yn dibynnu arni pan fyddant fwyaf o’i hangen. Ac fel y clywsom heddiw, yn ystod y ddadl heddiw, mae'r diwygiadau lles hyn wedi gweld dileu budd-dal plant i'r trydydd plentyn, toriadau i fudd-daliadau anabledd a chreu cyfundefn o sancsiynau niweidiol.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Mae'n bolisi diddorol, ond fe'i cyflwynir i ryw raddau fel ateb i bob problem i liniaru anghydraddoldeb sylfaenol a systemig yn llwyr. Fel y noda Adam Price, mae’n amlwg fod angen mwy o fanylder ac mae cwestiynau dilys i'w gofyn ynglŷn â'r manylion hynny.
Clywsom ei fod wedi'i fodelu ar y cynllun y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu ei weithredu, lle bydd £10 yr wythnos yn cael ei dalu ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel, a bydd yn cael ei gyflwyno i deuluoedd cymwys erbyn diwedd 2022. Gall Llywodraeth yr Alban weithredu eu polisi am fod ganddynt y cymhwysedd deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i ddiwygio budd-daliadau nad ydynt yn ddibynnol ar yswiriant cenedlaethol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar y cymhwysedd hwn, felly pe baem yn gwneud hyn, byddai angen dull amgen arnom i’w weithredu.
Gallai'r dull hwnnw fod â goblygiadau i hawliau budd-daliadau yng Nghymru, gan y byddai'n cael ei drin fel incwm ychwanegol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ni fyddem am weld sefyllfa a fyddai mynd ag arian oddi wrth deuluoedd incwm isel. Wrth gwrs, gallem ofyn am y cymhwysedd i ddiwygio budd-daliadau, ond mae angen gwneud hyn gyda’n llygaid yn agored i unrhyw ganlyniadau anfwriadol nad oes mo'u heisiau. Fel y clywsom Aelodau'n dweud heddiw, pe na bai cyllid yn dilyn y cyfrifoldeb, byddai angen i'r adnoddau ddod o rywle arall ac o wneud hynny ni fyddem am roi'r baich hwnnw ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo.
Clywsom heddiw am yr amcangyfrif o gost y polisi. Rhoddwyd amcangyfrifon cychwynnol y byddai polisi o'r fath yn cyrraedd oddeutu 240,000 i 300,000 o blant, gan edrych ar gyfrifiadau bras cychwynnol o £525 miliwn—i fyny at £25.25 miliwn y flwyddyn. Dyna arian y byddai'n rhaid dod o hyd iddo o rywle arall.
Rwy'n credu bod John Griffiths wedi gwneud pwyntiau pwysig o ran y gwaith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud a hefyd y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar sut yr edrychwn ar y posibilrwydd o ddatganoli gweinyddu lles, ac ar yr un pryd, sut y gwnawn y defnydd gorau posibl o'r pwerau a'r adnoddau sydd ar gael inni ar hyn o bryd.
Dyna pam y mae ein cynnig diwygiedig yn nodi bod y Llywodraeth hon yn buddsoddi bron i £1 biliwn mewn ystod eang o fesurau sy'n cyfrannu at drechu tlodi. Mae hyn yn cynnwys £244 miliwn bob blwyddyn yng nghynllun gostyngiad y dreth gyngor, gydag un o bob pum aelwyd yn elwa o ostyngiad yn y dreth gyngor; mwy na £125 miliwn yn y grant cymorth tai; a chymorth blynyddoedd cynnar parhaus i blant a theuluoedd trwy'r grant plant a chymunedau, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Yn ogystal, rydym wedi dyrannu mwy na £19 miliwn yn 2020-21 ar gyfer pecyn o fesurau wedi'u targedu'n benodol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, sy'n cynnwys pobl sy'n byw mewn tlodi. Lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, dengys y dystiolaeth inni fod y polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Erbyn hyn mae 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999 ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru.
Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng, fel y clywsom, o 223,000 i 173,000, ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi’r gwaith o sicrhau economi gref, wydn a deinamig. Ochr yn ochr â'r polisïau a'r cynlluniau hyn, rydym wedi datblygu cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd er mwyn darparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwerth cyfwerth ag arian parod sy'n arwain at adael mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru; cymorth sy'n golygu bod rhai teuluoedd yng Nghymru fwy na £2,000 y flwyddyn yn well eu byd nag y byddent fel arall.
Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o'r holl raglenni a gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd hyn yn helpu i lywio’r modd y blaenoriaethwn ein cyllid i gefnogi rhaglenni wrth symud ymlaen, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn. Ond gadewch i ni fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau ac opsiynau sydd ar gael i alluogi a grymuso unigolion, aelwydydd a chymunedau ledled y wlad. Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig diwygiedig. Diolch yn fawr.