Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno'r cynnig hwn ar dlodi plant, sy'n asio'n daclus iawn—yn gwbl annisgwyl, ond yn ffodus—â pheth o thema'r ddadl ddiwethaf. Tlodi plant yw un o'r problemau mwyaf cyson sy'n ein hwynebu fel cymdeithas. Yng Nghymru mae tlodi plant cymharol wedi bod mewn band rhwng 36 y cant a 28 y cant o'r holl blant yng Nghymru ers 20 mlynedd fwy neu lai—tua thraean o'r cyfanswm. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau un flwyddyn ar ei chyfer, yn ôl y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd o 1 y cant mewn tlodi plant, i fyny i 29.3 y cant, sy'n cyfateb i 206,000 o blant ledled Cymru. Wrth gwrs, y rhagolwg ar gyfer Cymru, ac yn wir ar draws y DU, yw y bydd y duedd hon o gynnydd mewn tlodi plant yn parhau. Mae rhai rhagolygon yn rhagweld y bydd yn codi i 39 y cant ym mlynyddoedd cynnar y degawd sy'n dod.
Rwy'n meddwl ar y lefel ehangaf y gallech ddweud mae'n debyg mai'r methiant ar fater tlodi plant yw un o'r methiannau mwyaf yn ein gwleidyddiaeth. Efallai fod rhai ohonoch yn cofio'r Tony Blair ifanc, ym mis Mawrth 1999, yn mynd draw i Neuadd Toynbee, a oedd ei hun yn symbol o ymdrechion adfywio yn y rhan honno o Lundain dros genedlaethau lawer, ac yn cyhoeddi mai hon oedd y genhedlaeth gyntaf erioed i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr. Ac wrth gwrs, cawsom yr ymrwymiad polisi wedyn i ddileu tlodi plant o fewn 20 mlynedd, a chredaf ei bod bob amser yn talu inni atgoffa ein hunain ynglŷn â pheth o'r iaith oreurog honno: 'Ni ddylai bod yn dlawd fod yn ddedfryd oes. Mae angen inni dorri cylch anfantais.' Wel, nid yw'r cylch hwnnw wedi'i dorri, a chredaf fod hynny'n rhywbeth inni ei ystyried.
Y syniad sydd wrth wraidd y cynnig hwn, mewn gwirionedd, yw p'un a oes angen newid radical yn ein meddylfryd ac yn ein hymarfer, oherwydd, yn amlwg, credaf ei bod yn deg dweud nad yw'r polisïau presennol wedi gweithio, ac mae hynny wedi bod yn wir dros weinyddiaethau olynol y ddwy blaid wleidyddol yn San Steffan.
Nawr, yn amlwg, bron drwy ddiffiniad, yr hyn sy'n achosi tlodi plant yw diffyg incwm. Daw incwm yn bennaf o ddwy ffynhonnell yn ein cymdeithas—cyflogaeth a budd-daliadau Llywodraeth. Nawr, rydym yn gyfarwydd iawn wrth gwrs â'r naratif sy'n cyfeirio at effaith diffyg gwaith ar gynnal tlodi rhwng cenedlaethau, ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar y dystiolaeth, y gostyngiad a oedd yno rhwng 2000 a 2010, i roi—. Digwyddodd gostyngiad bach ond arwyddocaol yn lefelau tlodi plant, ond roedd yn deillio bron yn gyfan gwbl o'r newidiadau mewn budd-daliadau, nid unrhyw newid yn yr economi ehangach a'r farchnad lafur, ac felly, yn bennaf, o gyflwyno'r credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a newidiadau eraill i'r system fudd-daliadau. Fel arall, mae'r cynnydd a welwn yn awr yn ymwneud bron yn llwyr â chyni, a'r gostyngiad yn y gyllideb les a newidiadau cysylltiedig ers 2010. Yr achosion allweddol yno, wrth gwrs, oedd rhewi budd-daliadau, y methiant i gynyddu nawdd cymdeithasol i bobl o oedran gweithio yn unol â chostau byw. Rhagwelir y bydd budd-dal plant, er enghraifft, achubiaeth i lawer o deuluoedd sydd â phlant, wedi colli 23 y cant o'i werth erbyn eleni o'i gymharu â lle'r oedd yn 2010. Yn ogystal â hynny felly, mae gennych y cap ar fudd-daliadau, gan gyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau i aelwydydd o oedran gweithio, ac yna, yn drydydd, y terfyn dau blentyn sy'n cyfyngu credyd treth, budd-dal tai, credyd cynhwysol i ddau blentyn ym mhob teulu.
Nawr, mae'r rheini'n amlwg i gyd yn bolisïau San Steffan, ac yn amlwg, roedd llawer o'r sylw y llynedd ar newidiadau yn y polisïau hynny yn San Steffan a fyddai'n deillio o newid Llywodraeth. Wel, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd nawr, ac nid yw'n mynd i ddigwydd am bum mlynedd o leiaf, ac rwy'n mentro dyfalu ei bod hi'n debygol y bydd gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan am ddegawd fan lleiaf, o ystyried y rhifyddeg wleidyddol sy'n ein hwynebu. Felly, nid wyf yn meddwl y daw ateb o'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n hapus i ildio.