Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Ionawr 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, hoffwn ddechrau trwy godi gyda chi achos Peter Connelly, a fu farw yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru fel amgylchiadau anodd ac annerbyniol. Bu oedi o wyth awr cyn derbyn Mr Connelly i Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn dilyn ei farwolaeth, cyhoeddodd uwch-grwner gogledd Cymru adroddiad rheoliad 28 ar atal marwolaethau diangen. Dyma'r trydydd adroddiad ar ddeg o'r fath er 2014 a dynnodd sylw at arosiadau hirfaith y tu allan i ysbytai yn y gogledd. Daeth y crwner i'r casgliad, oni bai fod arferion gweithio yn newid yn y GIG yng ngogledd Cymru, ei bod yn anochel y byddai marwolaethau yn digwydd yn y dyfodol y gellid fod wedi eu hatal fel arall efallai. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ddiwedd y llynedd. Eisoes eleni nododd adroddiad arall—sef y pedwerydd ar ddeg mewn chwe blynedd—i farwolaeth Samantha Brousas fethiannau wrth drosglwyddo gofal yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Er gwaethaf yr amheuaeth o sepsis a'r ffaith ei bod yn ddifrifol wael, cafodd ei chadw y tu allan i'r ysbyty mewn ambiwlans am dros ddwy awr. O ganlyniad i'r pryderon a godwyd gan y crwner ynghylch Betsi Cadwaladr ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru, a wnaiff y Prif Weinidog gynnal ymchwiliad brys i sicrhau nad yw bywydau yn cael eu peryglu ymhellach?