Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 14 Ionawr 2020.
Mae'r Aelod, rwy'n credu, yn camddeall natur rhai o'r heriau, norofeirws yn arbennig. Nid yw'n fater o'r lefel gyffredinol o norofeirws; y ffaith yw bod norofeirws yn tueddu i grynhoi mewn lleoedd penodol ac yna, yn y pen draw—fel y mae wedi ei wneud yn Ysbyty Glangwili eleni, er enghraifft—mae'n arwain at gau wardiau cyfan ac anallu, felly, i dderbyn cleifion. Efallai y bydd lefel isel o norofeirws yn gyffredinol, ond mae'n ymosod ar leoedd penodol ac yn achosi effeithiau penodol lle mae'n digwydd. Eleni, mae'r ffliw wedi dechrau'n gynnar; efallai nad dyma'r math mwyaf ffyrnig o ffliw yr ydym ni wedi ei wynebu yn y pum mlynedd diwethaf, ond mae'r ffaith ei fod wedi dechrau'n gynnar yn golygu y bu mewnlifiad cynharach i adrannau achosion brys o bobl gyda symptomau tebyg i ffliw.
Yn enwedig eleni, rydym ni'n wynebu'r ffaith bod nifer o bobl oedrannus eiddil iawn sy'n dod i adrannau achosion brys wedi bod angen lefel uwch o dderbyniad i adrannau achosion brys nag o'r blaen, ac mae hyn yn rhannol, Dirprwy Lywydd, yn adlewyrchiad o lwyddiant y ffordd y gwnaed pethau yng Nghymru. Mae gennym ni niferoedd uchel o bobl oedrannus sy'n dal i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda phecynnau dwys iawn o ofal gan awdurdodau lleol, a fyddai wedi bod mewn gofal preswyl mewn blynyddoedd blaenorol. Pan fyddan nhw'n dod i'r ysbyty, nid yw'n fater syml o ychwanegu un gwasanaeth ychwanegol bach i ganiatáu iddyn nhw fynd adref; maen nhw eisoes yn derbyn lefel sylweddol iawn o ofal cartref, ac mae gwneud pecyn newydd o ofal yn barod ar eu cyfer yn rhywbeth sy'n gymhleth ac yn anodd ymhlith amrywiaeth eang o wasanaethau.
Ac yn olaf, rydym ni'n dal i weld y gaeaf hwn effaith y newidiadau i drethi a phensiynau sydd wedi effeithio ar allu meddygon i lenwi rotas a chynnal sesiynau ychwanegol. Cafodd dwy fil o sesiynau eu canslo yng Nghymru yn y cyfnod cyn y Nadolig, effeithiodd hyn ar 15,000 o gleifion, ac mae hynny yn dal i fod heb ei ddatrys. Serch hynny, Dirprwy Lywydd—ac mae'n bwysig iawn dweud hyn, onid yw—dros holl gyfnod y Nadolig, pryd yr oedd 15,000 o bobl yr wythnos yn dod i adrannau achosion brys, 10,000 o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, 4,000 o dderbyniadau brys bob wythnos i'n hysbytai yng Nghymru, er gwaethaf yr holl bwysau hynny, mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ymateb bob un dydd i angen clinigol yma yng Nghymru, ac mae cleifion ym mhob rhan o Gymru yn ddiolchgar am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael.