Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Ionawr 2020.
Dwi'n cytuno, fel y mae 70 y cant o rieni a'r Senedd Ieuenctid, y dylid cyflwyno un wers y flwyddyn o gymorth cyntaf i'n disgyblion ni. Rŵan, dwi'n deall y broblem sydd gennych chi efo'r cwricwlwm newydd a'r weledigaeth a'r cysyniad sydd yn fanno, ond mae rhai pethau mor bwysig maen nhw angen y sicrwydd a'r eglurder yna. Dwi'n falch o glywed bod y canllawiau yn mynd i gael eu cryfhau, ond efallai bod yna gyfle pellach: efallai bod modd edrych ar ddiwygio'r rhan sy'n cael ei henwi'n 'cynllunio eich cwricwlwm', a byddwn yn gofyn a fyddech chi'n fodlon trafod efo'r Gweinidog Addysg i weld a oes modd diwygio'r rhan yna er mwyn bod cymorth cyntaf yn mynd yn rhan mwy creiddiol o'r cwricwlwm.