Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Ionawr 2020.
Wel, diolch am y syniadau yna. Os oes ffordd y gallwn ni fod yn hyblyg yn y ffordd rydym ni'n datblygu pethau a'r cyngor rŷm ni'n ei roi i bobl, wrth gwrs dwi'n fodlon trafod hynny gyda'r Gweinidog dros Addysg. Ond yr egwyddor yw, fel rŷm ni wedi trafod fwy nag unwaith ar lawr y Cynulliad, i greu cwricwlwm newydd le rŷm ni'n creu'r pethau sylfaenol, ond rŷm ni'n rhoi'r cyfrifoldeb yn nwylo'r athrawon yn y classroom i wneud pethau yn y ffordd sy'n gweithio iddyn nhw ac i'r plant sydd o'u blaenau nhw.