Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Ionawr 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ymhlith y buddsoddiadau economaidd niferus yr ydym ni wedi eu gwneud yn Ogwr mae gwasanaethau ar y Sul a cherbydau newydd ar reilffordd Maesteg; cyllid twf ar gyfer busnesau ym Mrynmenyn a Phont-y-clun; cefnogi 30 o brentisiaethau yn Sony ym Mhencoed; ac adfywio neuadd y dref Maesteg gyda gwerth £3.5 miliwn o fuddsoddiad.