1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Ionawr 2020.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith buddsoddiad economaidd yn Ogwr ers 2016? OAQ54920
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ymhlith y buddsoddiadau economaidd niferus yr ydym ni wedi eu gwneud yn Ogwr mae gwasanaethau ar y Sul a cherbydau newydd ar reilffordd Maesteg; cyllid twf ar gyfer busnesau ym Mrynmenyn a Phont-y-clun; cefnogi 30 o brentisiaethau yn Sony ym Mhencoed; ac adfywio neuadd y dref Maesteg gyda gwerth £3.5 miliwn o fuddsoddiad.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond rwy'n mynd i ofyn iddo a allai fynd ymhellach fyth, gan edrych ymlaen. Rwy'n meddwl tybed a fyddai ef a'i Weinidogion yn y Cabinet yn agored i rai syniadau y mae'r awdurdod lleol yn gweithio arnyn nhw. Felly, er enghraifft, gallai datblygu canolfan drafnidiaeth i Ben-y-bont ar Ogwr ynghyd ag ail-reoleiddio'r bysiau gael y bysiau i fynd i'r mannau gwaith ar yr adeg y mae eu hangen arnom ar hyd y llwybrau y mae eu hangen arnom; buddsoddi mewn cymunedau a chanol trefi mewn lleoedd fel Pontycymer a Nantymoel; ailddatblygu defnydd cymysg o safleoedd gwag, fel safle strategol Heol Ewenni, yn ogystal â Sarn a safle gwag Christie-Tyler; canolfannau menter yn y tri chwm yn darparu swyddi yn nes at adref; datblygu ymhellach pethau fel cynllun geothermol dŵr cloddfa Caerau hefyd; a hefyd, datblygu parc gwledig Bryngarw ymhellach nag y mae wedi ei ddatblygu ar hyn o bryd, fel y porth hwnnw ar gyfer twristiaeth antur, nid yn unig i mewn i Ddyffryn Ogwr, ond i mewn i gymoedd Rhondda ac Afan hefyd. A wnaiff ef bwysleisio hynny, gan gydweithio â'i Weinidogion ar draws y Llywodraeth, ac a hoffai ddod i ymweld â ni, ar unrhyw adeg sy'n gyfleus iddo ef, er mwyn i ni allu dangos iddo'r potensial i sicrhau swyddi a ffyniant i bawb ym mhob un o'n cymunedau?
Wel, Llywydd, gyda'r repertoire o syniadau yr ydym ni newydd eu clywed, nid yw'n syndod bod diweithdra yn etholaeth Ogwr ar ei lefel isaf erioed, lle mae busnesau gweithredol yn yr etholaeth ar eu lefel uchaf erioed, a lle mae'r twf i enillion yn etholaeth Ogwr dros y degawd diwethaf yn uwch na'r twf, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig gyfan? Mae'n wych clywed y fath gyfoeth o syniadau, y byddwn ni fel Llywodraeth eisiau eu trafod gyda phob un o fy nghyd-Weinidogion, ac, wrth gwrs, byddwn wrth fy modd o gael dod i'r etholaeth a bod gyda'r Aelod yn gweld drosof fy hun y posibiliadau ymarferol ar gyfer gwelliant pellach eto yn economi Ogwr.
Wel, wrth gwrs, mae Ogwr yn fy rhanbarth i, felly efallai y gallaf innau fanteisio ar y gwahoddiad hwnnw hefyd, Huw—diolch i chi. Fel yr ydym ni wedi ei glywed o'r blaen yn y Siambr, wrth gwrs, bydd etholwyr yn Ogwr, yn ogystal â rhannau eraill o'm rhanbarth i, wedi gweithio yn Ford a'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sydd wedi cefnogi Ford. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi arian cyfatebol i gyfraniad £50,000 prifddinas-ranbarth Caerdydd i gronfa sbarduno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei fuddsoddi mewn adnoddau cychwynnol i helpu i ddatblygu rhai cynigion i liniaru effaith y colledion swyddi hynny, ac efallai mai'r rhai ohonyn nhw fydd y rhai y mae Huw Irranca-Davies newydd eu crybwyll. A ydych chi wedi cael unrhyw arwydd eto ynghylch pa un a yw'r Cyngor wedi cael yr £100,000 llawn a faint o hwnnw sydd wedi cael ei fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth hynny o ynni glân a'r gwelliannau y mae taer angen amdanyn nhw yng nghanol trefi, mewn rhannau eraill o'm rhanbarth i, mewn gwirionedd? A yw'n amlwg bod y rheini'n lliniaru effaith colledion swyddi Ford neu a ydyn nhw'n ymwneud yn fwy cyffredinol â gwella'r economi leol?
Diolchaf i Suzy Davies am hynna, Dirprwy Lywydd. Mae'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i'w gyfateb gan y fargen ddinesig. Nid oes gennyf, mae arnaf ofn, ar unwaith yn fy mhen, y prosiectau sy'n cael eu llunio o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw, ond rwyf yn gwybod bod rhestr o brosiectau y mae swyddogion Llywodraeth Cymru a'r rhai ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn benodol er mwyn gallu defnyddio'r buddsoddiad hwnnw.
Mae hynny'n rhan, Dirprwy Lywydd, o amrywiaeth lawer ehangach o gamau y mae'r timau sy'n gweithio ar ddyfodol pobl a lleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymroi iddynt: cyflwyno Ineos i Ben-y-bont ar Ogwr, gyda'r potensial o swyddi yno yn y dyfodol, y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mai dyna'r cynnig mwyaf deniadol y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n benderfynol o barhau i weithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig cyfleoedd economaidd newydd i bobl sydd wedi colli eu swyddi yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr, a bod Ogwr ac etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a'r rhanbarth cyfan y mae'r Aelod yn ei gynrychioli, yn parhau i fwynhau dyfodol economaidd llwyddiannus.