1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Ionawr 2020.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant prosesu bwyd? OAQ54934
Diolch i Llyr Gruffydd. Dros sawl tymor o'r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol mewn prosesu bwyd fel rhan o'r sector bwyd a diod. Rydym ni wedi buddsoddi £94 miliwn yn uniongyrchol mewn rhaglenni, gan gynnwys buddsoddi cyfalaf, cymorth technegol a datblygu proffeil y sector a llwybrau at y farchnad.
Rŷn ni i gyd yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r effaith y mae colli hufenfa Tomlinson's wedi'i gael, nid yn unig ar y 330 o weithwyr oedd yn gweithio yna, wrth gwrs, ond hefyd ar ddwsinau o ffermwyr sydd wedi wynebu colledion eithriadol o safbwynt darparu llaeth ond heb gael eu talu amdano fe. Ac rŷn ni'n deall nawr o PricewaterhouseCoopers mai dim ond rhyw 3c yn y bunt y bydd y darparwyr llaeth yna yn eu cael mewn taliadau—yn wir, os oes unrhyw beth ar ôl, hyd yn oed i gyflawni hynny. Ac rŷn ni’n gweld, wrth gwrs, dro ar ôl tro mai'r ffermwyr sydd ar waelod y domen pan mae'n dod i sefyllfaoedd o'r fath. Gwelon ni'r un peth pan aeth Dairy Farmers of Britain, wrth gwrs, i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'r gweinyddwyr eu hunain â'r hawl cyntaf i daliadau, wedyn y banciau, wedyn gweithwyr y cwmni, a'r ffermwyr sydd olaf.
Nawr, mae yna awgrym, wrth gwrs, wedi bod y dylid creu cronfa arbennig lle mae’r proseswyr llaeth yn talu mewn iddo fe—rhyw fath o gynllun yswiriant, os liciwch chi—ac mae modd tynnu oddi wrtho fe wedyn mewn sefyllfaoedd lle mae angen digolledu'r cynhyrchwyr. Mae'r Agriculture and Horticulture Development Board yn gweinyddu cronfa o'r fath o safbwynt cynhyrchwyr bwyd grawn a chnydau. Felly, gaf i ofyn a ydy hwnna'n rhywbeth mae'r Llywodraeth wedi edrych arno fe neu'n barod i'w ystyried? Ac yn fwy cyffredinol, pa gamau ŷch chi yn eu cymryd i amddiffyn cynhyrchwyr rhag bod yn agored i sefyllfa o'r fath yn y dyfodol?
Diolch i Llyr Gruffydd. Wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol o'r effaith y mae Tomlinson's Dairies wedi'i gael ar y sector yng ngogledd Cymru. Dwi'n falch o ddweud taw beth rŷn ni wedi'i glywed yw bod bron pob un o'r bobl oedd yn gweithio yn Tomlinson's oedd eisiau ffeindio gwaith newydd wedi llwyddo i wneud hynny. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog dros y sector wedi bod yn glir gyda'r swyddogion i roi blaenoriaeth i'r ffermwyr pan oedden ni'n rhoi taliadau, farm payments, mas—i fod yn glir iddyn nhw i roi rhyw fath o flaenoriaeth iddyn nhw. A dwi'n credu bod bron pob un o'r bobl oedd wedi rhoi llaeth o'r blaen i Tomlinson's wedi ffeindio llefydd eraill i roi y llaeth.
Mae'r Gweinidog wedi clywed beth oedd yr Aelod wedi'i ddweud am y gronfa, yr yswiriant ac yn y blaen, a dwi'n siŵr ei bod hi'n fodlon trafod y posibiliadau yna gyda swyddogion.
Ac yn olaf, cwestiwn 7—Dawn Bowden.