1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Ionawr 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ54917
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Er bod pwysau gwirioneddol yn amlwg mewn diwydiannau hirsefydlog sydd wedi'u lleoli yng Nghasnewydd, mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi'r ddinas a'i chyffiniau fel canolfan ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol. Polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi cyflogaeth bresennol gan dyfu'r diwydiannau hynny sy'n cynnig swyddi ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am hynna. Mae gan Gasnewydd botensial mawr o ran ei chysylltiadau trafnidiaeth, y draffordd, y rheilffyrdd a'r porthladd, ac, wrth gwrs, ei safle daearyddol rhwng pwerdai economaidd Caerdydd a Bryste. Mae ganddi boblogaeth leol a gweithlu gydnerth iawn hefyd sydd wedi addasu i heriau economaidd dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n gweld diwydiannau newydd, Prif Weinidog, seiberddiogelwch, meddalwedd cyfrifiadurol, y diwydiant microsglodion, ac, yn amlwg, rydym ni eisiau dal gafael ar ein swyddi presennol ym maes dur ac mewn meysydd eraill. Mae gennym ni adfywiad yng nghanol y ddinas yn seiliedig ar y ganolfan gynadledda ryngwladol a gwestai newydd. Mae llawer yn digwydd, a gallai llawer ddigwydd, ac rwy'n cefnogi'n llwyr ymgyrch y South Wales Argus i dynnu sylw at y pethau cadarnhaol hyn wrth i ni symud ymlaen. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru weithio orau gyda Chyngor Dinas Casnewydd, y sector preifat, prifysgolion ac eraill i strwythuro, datblygu a gwireddu'r potensial hwn i Gasnewydd a Chymru?
A gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna, a chymeradwyo'n llwyr yr hyn a ddywedodd am y dyfodol cadarnhaol sydd ar gael i Gasnewydd, a'r ymdrechion aruthrol sy'n cael eu gwneud ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y ddinas i greu'r math o ddyfodol a fydd yn cynnig ffyniant i'w dinasyddion? Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi yn yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n datblygu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch sy'n barod ar gyfer gwaith. Rydym ni'n rhan o Gampws Gwyddor Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol fawr i Gasnewydd wneud yn siŵr ei bod ar flaen y gad yn yr ymdrech gyhoeddus a phreifat ledled y DU i elwa ar y buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn ymchwil gwyddor data.
Ac mae gan Gasnewydd gymaint i'w gynnig yn hyn i gyd. Rwy'n mynd i gymryd dim ond dwy enghraifft o'r cwestiwn atodol a gynigiwyd gan John Griffiths: ymrwymiad ei gweithlu lleol. Pan gefais i gyfarfod, ynghyd â Gweinidog yr economi, gyda bwrdd llawn Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles, y cwmni gweithgynhyrchu trenau, fe ddywedon nhw wrthyf eu bod wedi eu plesio'n fawr gan ansawdd ac ymrwymiad y gweithlu a recriwtiwyd i'r diwydiant newydd hwnnw yng Nghasnewydd. Roedden nhw wedi dod yn syth o'r ffatri, roedden nhw wedi treulio'r diwrnod cyfan yno, a dywedon nhw pe bydden nhw'n mynd ag un peth i ffwrdd o'u hymweliad â Chymru, byddai hwnnw'n ymwneud ag ansawdd y bobl yr oedden nhw wedi gallu eu recriwtio i weithio yn y diwydiant hwnnw.
O ran cysylltedd—y pwynt olaf, Llywydd—pan oeddwn i yn Japan ddiwedd mis Medi y llynedd ac yn cyfarfod ag amrywiaeth eang o gwmnïau Japaneaidd mawr, mae llawer ohonyn nhw'n cael eu denu at fuddsoddi yng Nghasnewydd a de-ddwyrain Cymru oherwydd, o'u safbwynt hwy, mae bod awr a hanner ar drên o Lundain yn golygu eich bod chi fwy neu lai ar garreg y drws, ac mae pellterau sy'n ymddangos yn faith i ni—iddyn nhw, roedd hynny'n rhywbeth a oedd yn sicr o blaid Casnewydd.