3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:06, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn datblygu dull newydd, uchelgeisiol o estyn allan at ein rhwydwaith o alltudion a'n rhwydweithiau o gyn-fyfyrwyr. Gwyddom y bydd diwylliant, chwaraeon a'n harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol yn helpu i'n gosod ni ar wahân i genhedloedd eraill. Roedd Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan yn enghraifft wych o'r modd y gall Cymru werthu ei hun ar lwyfan y byd, gan adeiladu ar lwyddiant chwaraeon i hyrwyddo Cymru a busnesau Cymru i gynulleidfa ehangach. Daeth cromen Cymru yng nghalon Tokyo â chwaraeon, cenhadaeth fasnachu fawr, perfformiadau diwylliannol a phrofiad rhithwir 360 gradd o Gymru, ynghyd â'n sector bwyd a diod o fri, mewn ymdrech i hyrwyddo ein gwlad yn Japan.

Byddwn yn meithrin ein heconomi drwy roi mwy o egni ac arian i ddatgloi'r potensial aruthrol yng Nghymru ac mewn cwmnïau Cymreig i allforio mwy i farchnadoedd sy'n sefydledig ac i egin farchnadoedd newydd. Bydd hynny'n gymorth i gefnogi swyddi a chymunedau gartref.

Bydd cystadlu am fewnfuddsoddi yn her pan fyddwn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond rydym yn benderfynol. Byddwn yn tynnu sylw at Gymru drwy ddangos sut yr ydym yn arweinwyr y byd mewn tri sector allweddol. Mae'r sectorau yr ydym ni wedi'u dewis yn tanlinellu ein medrusrwydd ym meysydd cynaliadwyedd, technoleg a chreadigrwydd. Mae ganddynt gyfle sylweddol i dyfu ac maent yn gydnaws â'r bargeinion twf a'r cynllun gweithredu economaidd. Ac ni ddylai Brexit effeithio'n ormodol arnynt. Y sectorau hyn yw: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol, yn arbennig ffilm a theledu. Mae'n bwysig i mi bwysleisio nad yw'r rhain yn rhwystro sectorau eraill rhag buddsoddi ac maent yn cyfleu'r neges bod gan Gymru weithlu medrus a'i bod yn estyn croeso i fusnesau.

Mae ein huchelgais i weld Cymru'n ymsefydlu yn genedl gyfrifol fyd-eang yn cynnwys blaenoriaethau amgylcheddol a chymdeithasol. Byddwn yn bwrw ati i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy uchelgeisiau i ddod yn arweinydd byd o ran ailgylchu a chefnogi ynni adnewyddadwy yn ogystal â hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Mae fy ymrwymiad i ehangu'r rhaglen flaenllaw, Cymru o blaid Affrica—a elwir bellach yn 'Cymru ac Affrica'—yn cwmpasu dull a arweinir gan y gymuned sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. Hoffwn rannu ein harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol â gwledydd eraill a dysgu gan eraill yn y maes hwn.

Llywydd, mae'n bwysig ein bod yn hyrwyddo'r neges bod Cymru yn, a bydd yn parhau i fod, yn genedl Ewropeaidd. Mae'n anochel y bydd ein perthynas â'r UE a'i sefydliadau yn newid dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, ond rydym ni eisiau parhau i weithio gyda'n partneriaid Ewropeaidd lle bynnag y bo modd. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog a chryf â llawer o wledydd a rhanbarthau Ewrop, ac Ewrop yw ein marchnad allforio bwysicaf o hyd.

Mae'r strategaeth hon yn nodi pa rai o'r gwledydd a'r rhanbarthau blaenoriaethol y byddwn yn ceisio canolbwyntio arnynt er mwyn hyrwyddo Cymru. Mae gwerthoedd wrth wraidd y strategaeth hon. Datganwn yn uchel a balch mai ni oedd y genedl gyntaf a'r unig un yn y byd sydd wedi trosi nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith.

Bu llawer o drafod ar werthoedd a hawliau dynol drwy ddatblygu'r strategaeth hon, ac rwyf wedi croesawu'r her hon. Rwyf eisiau i Gymru gael ei hadnabod fel cenedl groesawgar, fel cenedl noddfa, fel cenedl deg, gan hyrwyddo gwaith teg, masnach deg a chwarae teg. Byddwn yn sicrhau bod y byd yn gwybod mai Cymru oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r GIG, ac rydym yn dal yn driw i'w werthoedd craidd.  

Y strategaeth ryngwladol yw ein canllaw mewn byd heriol a newidiol. Mae perthnasoedd yn newid yn barhaus, mae economïau'n amrywio, ac mae blaenoriaethau'n datblygu, ond byddwn yn dal yn driw i'n gwerthoedd, beth bynnag a ddaw. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau'r amodau masnachu gorau posib i Gymru a fydd yn allweddol i'n llwyddiant economaidd yn y dyfodol. Mae Cymru yn wlad fach sydd ag uchelgeisiau mawr, a bydd y strategaeth hon yn helpu i roi Cymru ar y map rhyngwladol. Diolch.