Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ymhen ychydig dros bythefnos, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hwn yn newid sylfaenol i'r berthynas sydd wedi bodoli rhyngom ni a'n cymdogion agosaf ers 40 o flynyddoedd—perthynas sydd wedi dod â manteision cadarnhaol i Gymru o ran bron pob agwedd ar fywyd. Ond, nid datganiad am Brexit yw hwn, nid am y ffaith ei fod yn digwydd nac am ei ffurf; datganiad yw hwn am ein lle ni yn y byd. Efallai ei bod yn wir ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ni ar yr Undeb Ewropeaidd na'r byd. Rydym ni'n benderfynol o barhau i fod yn wlad eang ei gorwelion; yn wlad sy'n barod i weithio a masnachu â'r byd; ac yn wlad gyfrifol ar lwyfan byd-eang sydd wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y dasg o fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r gymuned ryngwladol. A dyma'r union reswm, Llywydd, pam y mae'r Llywodraeth yn lansio'i strategaeth ryngwladol gyntaf heddiw.
Ers dechrau datganoli, mae Cymru wedi bod yn gwneud ei marc ar y llwyfan rhyngwladol. Rŷn ni wedi datblygu partneriaethau â gwledydd a rhanbarthau o amgylch y byd. Rŷn ni wedi rhannu ein syniadau am ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg gyda Gwlad y Basg ac Iwerddon, rŷn ni wedi plannu 10 miliwn o goed yn Uganda fel rhan o'r gwaith sy'n parhau gyda gwledydd Affrica, ac roedd Cymru yna, reit ar y cychwyn, pan sefydlwyd cynghrair byd-eang Under2. Hwn oedd y sbardun ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd o dan gytundeb Paris.
Mae cyfrifoldeb arnom ni i gydweithredu gyda gwledydd eraill o gwmpas y byd er ein budd ni i gyd. Mae hon yn egwyddor sy'n ganolog i'n hunaniaeth ni fel cenedl. Rŷn ni'n falch i gynnig cartref i'r rheini sydd wedi gadael eu gwledydd eu hunain ac ymgartrefi yma yng Nghymru. Does dim amheuaeth bod eu cyfraniad nhw yn cyfoethogi ein cenedl mewn cymaint o ffyrdd. Mae ein nwyddau a'n gwasanaethau wedi ennill gwobrau am eu safon, ac rŷn ni'n eu hallforio dros y byd i gyd. Ac o ystyried mai cenedl fach o dair miliwn o bobl ydym ni, rŷn ni wedi rhagori yn rhyngwladol yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, heb anghofio'r maes chwaraeon, wrth gwrs. Cofiwn hefyd fod ein treftadaeth, ein diwylliant a'r golygfeydd arbennig o hardd yn parhau i ddenu twristiaid o bob cwr o'r byd.
Fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol cyntaf Cymru, roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwysig i grynhoi'r hyn sydd wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf a defnyddio hynny fel sylfaen i lywio trywydd Cymru mewn gwaith rhyngwladol yn y dyfodol, yn enwedig yn y sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol gyfnewidiol sydd wedi eu creu gan Brexit. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda bron i 600 o bartneriaid a rhanddeiliaid i sefydlu'r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran arwain ar yr agenda hwn, ond dim ond drwy gydweithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n gallu sicrhau llais i Gymru ledled y byd.
Mae ein partneriaid rhyngwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn cyrff gwirfoddol ac mewn sefydliadau eraill yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n barod ac yn awyddus i gydweithio gyda ni. Maen nhw wedi croesawu'r ffaith ein bod ni wedi datblygu strategaeth gydlynus sydd yn uchelgeisiol ac fydd yn sail i'w gwaith nhw hefyd.
Mae gan y strategaeth dair uchelgais ganolog dros y pum mlynedd nesaf: codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, sicrhau twf yn ein heconomi, a sefydlu Cymru fel gwlad gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn ganolog i'r strategaeth, mae cydnabyddiaeth bod Cymru'n wlad fodern a bywiog. Rŷn ni'n wlad sy'n meithrin talent; rŷn ni'n wlad sy'n greadigol a chynaliadwy, ac sydd ar flaen y gad o ran technoleg.
Ein pobl, wrth gwrs, yw'n hased mwyaf ni, boed yma yng Nghymru, neu mewn gwledydd tramor. Pobl fydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon. Fe fyddwn ni'n meithrin y cysylltiadau rŷn ni wedi'u datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn datblygu rhai newydd, hefyd, mewn marchnadoedd newydd sy'n dod i'r golwg.