Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 14 Ionawr 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r strategaeth ryngwladol yn gyffredinol. Mae hi yn hwyr iawn arni'n cael ei chyhoeddi, tua saith mis, yn ôl fy nghyfrif i, ac mae'n dilyn dogfen ymgynghori a feirniadwyd yn eang a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, ond y newyddion da yw bod llawer i'w groesawu yn hyn o beth. Nid wyf ond wedi cael cyfle i ddarllen y strategaeth yn gyflym cyn y cyfarfod llawn heddiw, ond rwy'n hapus i ddweud bod llawer o bethau wedi gwella yma. Mae'n ymddangos, am unwaith, fod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi gwrando ar feirniadaeth gan wrthbleidiau a chynrychiolwyr o'r sector, ac mae'r cyhoeddiad diwygiedig yn gymaint gwell o'r herwydd.
Roedd rhai o'r prif feirniadaethau a wnaed gennym ym mis Medi yn cynnwys y diffyg cydlynu rhwng gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru, y ffaith ei fod yn gymysgedd o orgyffredinoli a gormod o fanylder, a dryswch cyffredinol ynghylch ei ddiben. Ond mae'r ddogfen newydd yn gliriach ac mae'n cynnwys esboniadau am sut y bydd y strategaeth ryngwladol yn cefnogi nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru, ac, unwaith eto, mae hynny i'w groesawu.
Rwy'n credu hefyd ei fod yn beth da bod datblygu cynaliadwy a gweithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd bellach yn rhan flaenllaw o'r strategaeth. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru bellach wedi sylweddoli bod datgan argyfwng hinsawdd yn gorfod golygu rhywbeth. Mae angen inni wneud mwy na siarad yn huawdl am hyn, fodd bynnag, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn datblygu'r agenda ynni gwyrdd o ran ei dyletswyddau rhyngwladol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pa mor ymarferol fydd hi i fwrw ymlaen â hyn?
Nawr, ynglŷn â masnach, mae Plaid Cymru yn cytuno bod yn rhaid i gynnal ein perthynas fasnachu gyda thir mawr Ewrop fod yn brif flaenoriaeth. Rwy'n croesawu'r gofynion clir a wnaed ar Lywodraeth y DU, ac mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyn am y tro cyntaf. Mae eich galwad ar i Lywodraeth y DU geisio cytundeb Llywodraethau datganoledig cyn cytuno ar ei mandad negodi yn swnio'n amheus o debyg i'r feto y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ac i'ch Llywodraeth ei wrthod dim ond ychydig wythnosau'n ôl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn dal dig a byddwn yn cefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i orfodi Llywodraeth y DU i wrando ar Gymru cyn i drafodaethau masnach ddechrau. Cytunwn â chi hefyd y dylai swyddogion Cymru fod yn rhan o'r trafodaethau yn ystod pob cam o'r broses.
Er mwyn cryfhau eich cais, Gweinidog, a wnewch chi ystyried cyhoeddi dogfen sy'n manylu ar beth yn union y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld o ran amddiffyn buddiannau Cymru ym mandad negodi'r DU, fel y gallwn ni fel Senedd ddiwygio a phleidleisio ar y cynigion? Byddai cael y Senedd i gytuno ar safbwynt Cymreig ar negodiadau masnach yn anfon neges gref i Lywodraeth y DU fod angen iddyn nhw wrando ar ein pryderon a'n huchelgeisiau ac amlygu hyn fel mater sydd uwchlaw cylch gwleidyddol y pleidiau.
Rwy'n falch eich bod o'r diwedd wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydych yn bwriadu ymgysylltu â'r Cymry alltud o bob cwr o'r byd, gan fod hyn yn dir ffrwythlon y bu Plaid Cymru yn galw ar i'r Llywodraeth fuddsoddi ynddo ers blynyddoedd. Rydym ymhell y tu ôl i wledydd fel Iwerddon a'r Alban, felly mae sefydlu cronfa ddata y Cymry alltud yn gam cyntaf cadarnhaol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd ati mewn ffordd fwy rhagweithiol. Nawr, bydd hynny'n ein helpu'n ddiwylliannol ac yn economaidd, a bydd o fudd i Gymru, ac rwy'n falch o weld hynny yn y strategaeth, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion o ran sut y byddwch chi'n ymgysylltu â'r cymunedau alltud hyn ar ôl i chi eu nodi?
Nawr, mae mentrau i'w croesawu, eto, yn y strategaeth am y Gymraeg, gan gynnwys datblygu technolegau a chamau i hyrwyddo cerddorion Cymru ar raddfa fyd-eang. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod ymrwymiad i wneud y Gymraeg yn agwedd allweddol ar hyrwyddo Cymru dramor. Nawr, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i'ch nod o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth antur gynaliadwy, ond oni ddylem ni hefyd geisio hyrwyddo ein hunain fel enghraifft o wlad yr unfed ganrif ar hugain, sydd ag iaith frodorol sy'n blodeuo, y gall pobl sy'n ymweld â hi ymgolli ynddi? Nawr, byddwn yn awgrymu eich bod yn cyd-drefnu eich gwaith gyda Gweinidog y Gymraeg, ond mae gennych y ddwy swyddogaeth, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gallwch chi ailedrych ar hyn. Rwyf, fodd bynnag, yn croesawu'r cynlluniau i ymgysylltu'n agosach â Gwlad y Basg, Fflandrys a Llydaw, a byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod eich cynlluniau â chi yn y dyfodol.
Ond, Gweinidog, mae dau brif beth ar goll o'r strategaeth hon. Targedau a moeseg yw'r pethau hynny. Ni allaf ond nodi un targed yn y 40 tudalen gyfan—unwaith eto, darllenais hon yn gyflym cyn y cyfarfod llawn, felly cywirwch fi os wyf yn anghywir yn hynny o beth—ond heb dargedau, byddai'n anodd iawn i ni ar y meinciau hyn eich dwyn i gyfrif. Rwy'n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am y posibilrwydd o gyhoeddi dogfen gyfochrog i'r strategaeth sy'n gosod targedau, ac os mai dyna yw eich nod, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y caiff honno ei chyhoeddi, ac os na allwch chi, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa fesurau yr ydych chi'n eu hawgrymu y dylem eu defnyddio i olrhain llwyddiant y strategaeth?
Ac yn olaf, er yr holl sôn am gyfrifoldeb byd-eang, mae yna ddiffyg amlwg o ran gweledigaeth glir ar gyfer Cymru fel gwlad foesegol yn y strategaeth. Hoffwn fod wedi gweld ymrwymiad, er enghraifft, i gaffael deunyddiau dim ond o ardaloedd lle nad oes gwrthdaro treisgar i'w defnyddio yng nghadwyn gyflenwi dechnolegol Cymru. Ac mae'n ymddangos bod methiant parhaus i sicrhau nad yw Cymru yn chwarae unrhyw ran yn y fasnach arfau. Gweinidog, pam mae Llywodraeth Cymru mor gyndyn i ddilyn strategaeth economaidd a rhyngwladol foesegol yn hyn o beth? Byddwn yn gwerthfawrogi eich atebion i'r cwestiynau hyn.