Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 14 Ionawr 2020.
Weinidog, gaf i gytuno â'ch asesiad chi o werth yr arian sydd wedi dod gan yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd? Dydw i ddim yn cytuno bob tro efo sut mae'r arian hwnnw wedi cael ei wario, ond mae'r arian hwnnw wedi dod â budd heb os, ac mi oedd yna botensial, wrth gwrs, i barhau ag o. Dwi'n cytuno hefyd fod yna sawl egwyddor sy'n gwbl greiddiol wrth inni symud ymlaen—yn gyntaf, bod yn rhaid sicrhau nad oes yr un geiniog yn cael ei cholli, ac nid dim ond drwy'r gronfa shared prosperity rydyn ni'n sôn amdani yn y fan hyn. Rydyn ni wedi clywed crybwyll yn barod heddiw ynglŷn ag Erasmus—sôn bod hwnnw'n bot ar wahân. Bydd eisiau sicrhau bod hwnnw'n dod hefyd. Felly, un—dim ceiniog yn llai. Ac, yn ail—yr egwyddor yma fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli.
Dydyn ni ddim hyd yma wedi clywed yr hyn rydyn ni ei angen gan Lywodraeth Prydain. Oes, mae yna nifer o eiriau cynnes wedi dod ag arwyddion addawol, o bosib, gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Gymru, ond â ninnau rŵan o fewn blwyddyn at golli'r arian Ewropeaidd, dydy geiriau cynnes ddim yn ddigon da. Doedden nhw ddim yn ddigon da flwyddyn yn ôl, ond erbyn hyn rydw i'n cytuno â'r Gweinidog y dylen ni fod mewn lle llawer cryfach, ac mi gefnogwn ni'r Llywodraeth wrth i chi symud ymlaen tuag at gael y math o sicrwydd rydych chi'n gofyn amdano fo.
Does yna ddim llawer iawn yn y datganiad yma heddiw y tu hwnt i'r datganiadau, hynny yw dwi'n cytuno â nhw. Sôn ydych chi am y cyhoeddiadau sydd yn mynd i gael eu gwneud yn y misoedd i ddod ynglŷn â meddwl am ffordd wahanol o dargedu arian yn rhanbarthol. Felly, jest dau gwestiwn yn sydyn ar hynny. Pa fath o dargedau ydych chi'n bwriadu eu rhoi mewn lle i sicrhau bod yr arian yna yn dod â chanlyniadau? Hynny ydy, rydyn ni fel plaid wedi cefnogi cael targedau twf a ffyniant rhanbarthol ers blynyddoedd ac mi fyddwn ni'n dymuno gweld y math yna o dargedau yn gyrru polisi Llywodraeth.
Ac, yn ail, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod fel Llywodraeth ynglŷn â pha fath o ranbarthau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw? Er enghraifft, roeddwn i'n siarad ag aelod o dîm arwain Cyngor Gwynedd ychydig ddyddiau yn ôl a oedd yn sôn am y lles all ddod i Wynedd drwy weithio'n rhanbarthol ar draws gogledd Cymru mewn rhai cyd-destunau; mewn gweithio efo Ceredigion a Phowys pan mae'n dod at faterion yn ymwneud â de Gwynedd; ac wedyn gweithio ar draws gorllewin Cymru, ar hyd y map rydyn ni wedi dod i’w nabod fel Arfor, mewn cyd-destunau eraill. Felly, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod o ran y rhanbarthau yr ydych yn bwriadu eu creu, os mai creu rhanbarthau ydy'r bwriad?