– Senedd Cymru am 4:00 pm ar 14 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am y wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad rhanbarthol i Gymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Llywydd. Rwyf yn gwneud y datganiad hwn er mwyn rhoi’r diweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a wna Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid i ddatblygu trefniadau olynol ar gyfer disodli’r cyllid a ddarperir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar ôl Brexit. Mae amseru’r datganiad hwn yn hynod berthnasol. Rŷn ni nawr yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd y mis. Yn ogystal â hynny, mae llai na 12 mis ar ôl erbyn hyn cyn inni gyrraedd y pwynt pan fyddwn ni’n disgwyl i raglenni a fydd yn olynu rhai'r Undeb Ewropeaidd fod yn eu lle. Bydd y cyllid a ddarperir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn dechrau lleihau yn raddol bryd hynny gan roi buddsoddiad yn ein busnesau, yn ein pobl a’n cymunedau yn y fantol.
Dros gyfnod o 20 mlynedd, mae Cymru wedi elwa’n sylweddol ar gyllid gan gronfeydd strwythurol a buddsoddi’r Undeb Ewropeaidd—cyllid werth £370 million yn flynyddol. Lle mae polisïau niweidiol cynni cyllidol wedi cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau, mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i ddod â swyddi newydd a gwell ac wedi caniatáu i bobl feithrin sgiliau i ymgymryd â nhw. Cafodd busnesau gymorth, gan gynnwys yn ystod argyfwng economaidd, rhoddwyd hwb i’n seilwaith, a chawsom ni help i gau’r bwlch o ran anweithgarwch economaidd a chapasiti ymchwil yn ardaloedd Cymru ei hun ac o gymharu gyda gweddil y Deyrnas Unedig. Mae’n hanfodol bod gan Gymru ffynhonnell barhaus o fuddsoddiad er mwyn osgoi cymryd camau yn ôl. Rhaid sicrhau cyllid ar gyfer helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n parhau yn y Deyrnas Unedig a chefnogi ardaloedd sy’n agored i niwed yn economaidd—yr ardaloedd hynny rŷn ni’n gwybod a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit.
Wedi inni ailadrodd dro ar ôl tro ein hegwyddorion o 'dderbyn dim ceiniog yn llai, na heb golli unrhyw bŵer', mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd ei chronfa ffyniant cyffredin yn cynnig cyllid a fydd yn cyfateb o leiaf gyda maint y cronfeydd a dderbynia pob gwlad yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Yn hanfodol, fod bynnag, rŷn ni’n dal i aros am wybodaeth ar sut yn union y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu i Gymru ac am gadarnhad y bydd datganoli y pleidleisiwyd yn ei gylch ddwywaith gan bobl Cymru yn cael ei barchu.
Os yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwbl ddidwyll ynghylch cynnal yr undeb a’i gryfhau, bydd parchu’r setliad datganoli yn un o'r profion cyntaf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wynebu.
Hysbysodd y Prif Weinidog y Senedd yr wythnos diwethaf fod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, yn eu trafodaeth nhw, wedi mynegi y bydd y Llywodraeth newydd yn gweithio gyda ni mewn ffordd gytûn a bydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol o symud ymlaen o ran materion polisi allweddol. Fe fydd hynny'n gweithio orau pan fydd pob Llywodraeth yn cymryd gofal wrth ystyried y gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd wedi ei neilltuo a'r hyn sydd wedi ei ddatganoli.
Mae datblygiad economaidd rhanbarthol a gwneud penderfyniadau ynglŷn â chronfeydd cysylltiedig yr UE yng Nghymru wedi cael eu datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Rydym ni'n ceisio cael trafodaethau brys â nhw i sicrhau bod y penderfyniadau presennol ynglŷn â llunio polisïau a chyllido yn aros yng Nghymru. Nid barn Llywodraeth Cymru'n unig mo hon; mae ein safbwyntiau ni o ran yr arian i lenwi'r bwlch a nodwyd yn 2017 yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon, gan grŵp seneddol amlbleidiol, gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Prifysgolion Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a melinau trafod yn cynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.
Ers i'r Llywodraeth flaenorol gynnig cronfa ffyniant a rennir dros ddwy flynedd a hanner yn ôl, mae ei gweithgarwch wedi bod yn brin iawn o wireddu'r addewidion i ymgysylltu ac ymgynghori arni. Rydym yn awyddus nawr i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Llywodraeth newydd y DU ar ddatrysiad sy'n golygu cyfranogiad gwirioneddol a chytundeb diffuant ar draws y pedair Llywodraeth, nid un datrysiad yr un peth i bawb a orfodir gan Lywodraeth y DU. Mae ein polisïau ni a'n model rhanbarthol ni yng Nghymru yn unigryw. Dyna pam rydym wedi bod yn cydweithio ar frys gyda'n partneriaid i baratoi model rhanbarthol hyblyg a fydd yn barod i'w gyflenwi yn 2021.
Mae grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, sy'n cynnwys aelodau o'r byd busnes, llywodraeth leol, sefydliadau academaidd a'r trydydd sector, wedi rhoi cyngor i Weinidogion ar faterion sy'n ymwneud â chwmpas polisi, canlyniadau, modelau cyflawni a chynlluniau ymgysylltu ehangach. Mae is-grwpiau technegol, sy'n cynrychioli amrywiaeth o bobl ag arbenigedd, wedi cyfarfod yn rheolaidd hefyd i helpu i lywio syniadau. Cyfarfu'r grŵp llywio bum gwaith y llynedd ac fe fyddan nhw'n cyfarfod eto fis nesaf i ystyried dogfen ymgynghori cyn ei chyflwyno i'r Cabinet i gael cytundeb arni a'i lansio ym mis Mawrth.
Rydym hefyd yn defnyddio arferion gorau rhyngwladol yn ein gwaith. Mae partneriaeth ddwy flynedd â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar y gweill i roi prawf ar ein meddylfryd ni ac i ddarparu her a chyngor manwl lle mae gwelliannau i'w gwneud, i rannu'r hyn sy'n gweithio mewn rhanbarthau eraill a rhoi'r adnoddau inni ar gyfer asesu capasiti a gallu ar bob lefel o Lywodraeth. Yn ystod eu hymweliadau ym mis Mehefin a mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth yr OECD gyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru i gasglu adborth. Roedd hynny'n cynnwys seminar ym mis Tachwedd a dynnodd ynghyd randdeiliaid a chymheiriaid rhyngwladol mewn llywodraethu aml-lefel a buddsoddi cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at argymhellion adroddiad yr OECD erbyn diwedd y flwyddyn.
Rwy'n ddiolchgar i'r OECD, i'r grŵp llywio ac i'r rhanddeiliaid i gyd am eu hymroddiad a'u gwaith nhw hyd yn hyn. Mae'r ymgysylltu eang a'r consensws cyffredinol ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld pethau'n gweithio yn y dyfodol wedi arwain at nifer o ymrwymiadau allweddol y cytunwyd arnynt gan Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys: buddsoddi rhanbarthol i gynnal twf a chynwysoldeb ledled Cymru, gyda phedwar maes blaenoriaeth buddsoddi cyffredinol, yn cwmpasu cymunedau mwy iach a chynaliadwy, yr economi di-garbon, cynhyrchiant busnes a lleihau anghydraddoldebau incwm pobl; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod wrth wraidd ein cynlluniau; dirprwyo mwy i ranbarthau ac ardaloedd lleol, gan gynnwys yr egwyddor o ddyrannu rhywfaint o arian yn rhanbarthol; dull gweithredu sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau; cyfleoedd gwell i integreiddio cyllid a phrosiectau gyda meysydd buddsoddi a pholisi yn fwy eang; dull cryf a thrawsbynciol o ymdrin â chydraddoldeb a chynaliadwyedd; un gronfa a ddarperir ar sail ariannu amlflwydd; a phroses symlach.
Mae'r ymrwymiadau hyn, ynghyd â'r cynigion a ddatblygir gennym ar weithio rhanbarthol drwy ein Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r cynllun gweithredu economaidd, wedi gosod sail gadarn i'n gwaith manwl ni gyda rhanddeiliaid i baratoi ein cynigion ymgynghori. Mae llawer o waith i'w wneud eto i ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer cyflenwi yn 2021, ac rwy'n awyddus bod cyfle i'r Aelodau roi adborth ar ein cynigion fel y gallwn adeiladu ar sail y cyfraniadau manwl ac ystyrlon a gawsom eisoes gan y Pwyllgor Gwasanaethau Allanol a Materion Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Cyllid hefyd.
Nid ydym yn tanamcangyfrif yr her enfawr o ran newidiadau mewn diwylliant a llywodraethu a ffyrdd newydd o weithio a ddaw yn sgil Brexit. Rwy'n hyderus yn y cymorth a'r arbenigedd eang gan bartneriaid, a fydd yn ein helpu ni i ystyried beth a sut y byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys model buddsoddi rhanbarthol newydd a all weithio ar gyfer Cymru gyfan.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Ni fyddaf i'n hir, fe fyddwch chi'n falch o wybod, Llywydd, wrth ymateb i'r datganiad hwn, oherwydd, wrth gwrs, nid oes llawer iawn ynddo sy'n newydd. Yn wir, fe allech chi fod wedi cael eich twyllo i gredu ein bod ni'n parhau i fod yn y cyfnod cyn yr etholiad a chyn y fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad a welodd eich niferoedd ASau Llafur yn gostwng yn sylweddol yma yng Nghymru. Yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw ein bod ni, cyn yr etholiad arbennig hwnnw, wedi cael ymrwymiad clir iawn gan y Blaid Geidwadol a chan Boris Johnson a ddywedodd—ac fe'ch cyfeiriaf chi at dudalen 41 ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU—fe ddywed,
'Bydd Cymru yn cael o leiaf yr un lefel o gymorth ariannol â'r hyn y mae'n ei chael gan yr UE ar hyn o bryd'.
Mae yno mewn du a gwyn; dyma ymrwymiad clir y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo ac y bydd yn ei gyflawni. Yn wir, mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Simon Hart, yr wyf i'n ei groesawu'n fawr i'r swydd, wedi dweud yn ddiamwys na fydd Cymru yn cael yr un geiniog yn llai gan Lywodraeth y DU na'r hyn y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE. Ac wrth gwrs, rydych chi eisoes, rwy'n gwybod, fel Llywodraeth, wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, ac mae agenda o barch i raddau helaeth iawn. Roeddwn i'n edrych ar adroddiadau yn y cyfryngau ddoe ddiwethaf lle'r oedd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn ei gwneud hi'n gwbl glir nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fwriad i dresmasu ar diriogaeth Llywodraeth Cymru a mynd dros unrhyw ffiniau a setliad datganoli. Mae'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau'r manteision a all ddeillio o Brexit wrth inni ymadael â'r UE.
Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod mai'r gwirionedd, y gwirionedd digalon, y gwir trist amdani yw nad yw cronfeydd strwythurol yr UE wedi gweithio yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw'r bwlch rhwng ein cynnyrch mewnwladol crynswth yma yng Nghymru yn ôl CMC cyfartalog ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd wedi lleihau, a dyna holl ddiben y cronfeydd strwythurol. Rydym wedi gweld y cronfeydd strwythurol hynny'n dod dro ar ôl tro ac ydym, wrth gwrs, rydym wedi gweld rhai gwelliannau yn ein seilwaith trafnidiaeth ac rydym wedi gweld rhywfaint o fuddsoddiad, yn enwedig buddsoddiad cyfalaf, mewn gwahanol rannau o Gymru, ond nid ydynt wedi gwireddu'r gweddnewidiad a fwriadwyd. Felly, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol, a'r gwirionedd yw bod y gronfa ffyniant a rennir yn rhoi cyfle inni wneud rhywbeth yn wahanol, ac yn gyfle inni anelu'r cymorth hwnnw'n well i'r rhannau hynny o Gymru sy'n colli allan yn gyfangwbl ar hyn o bryd ar unrhyw obaith o gael cronfeydd strwythurol yr UE gan nad ydyn nhw yn y Gorllewin neu'r Cymoedd.
Felly, a wnewch chi gytuno â mi—cwestiwn neu ddau, nawr, os caf i—ei bod yr un mor bwysig i Lywodraeth Cymru gefnogi'r agenda glir hon o barch y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod? Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cyfeirio at wneud mwy o benderfyniadau ar lefelau lleol yn y datganiad—rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut a pham nad ydych chi'n bwrw ymlaen â hynny beth bynnag? Nid yw'r ffaith nad ydych chi'n gwybod digon am y gronfa ffyniant a rennir i weithredu fel Llywodraeth Cymru yn eich rhwystro chi rhag datganoli mwy o benderfyniadau i lawr i lefel fwy lleol. Efallai y gallech ddweud wrthym beth sy'n eich rhwystro chi rhag bwrw ymlaen â hynny beth bynnag. A phan fydd gennych chi sedd wrth y bwrdd wrth lunio a mowldio'r ffordd y mae'r gronfa ffyniant yn gweithio, yn enwedig o ran sut y dosberthir yr arian ledled Cymru, a allwch chi roi sicrwydd i ni, wrth gyflwyno'r achos dros fuddsoddi mewn rhai mannau, na fyddwch chi'n diystyru'r rhannau hynny o Gymru sydd, yn anffodus, yn fy marn i, yn teimlo fel petaen nhw wedi cael eu trin yn annheg gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol o ran y ffordd yr ydych chi wedi rhannu arian parod, yn enwedig y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin? Diolch.
Diolch i Darren Millar am ei gyfres o gwestiynau. Yn ei sylwadau wrth gloi, fe soniodd am sedd wrth y bwrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n crisialu'r peth i mi mewn llawer ffordd. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni ei weld o ran yr agenda bolisi hon yng Nghymru yw'r ffaith fod Llywodraethau'r DU yn cytuno ar y trefniadau mewn ffordd gyfartal, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn eu gorfodi nhw ar rannau eraill o'r DU. Rwy'n credu iddo daro'r hoelen ar ei phen pan ddefnyddiodd y ddelwedd arbennig honno, ac fe fydd yn cydnabod, rwy'n credu, imi gyfeirio yn fy natganiad i fod Llywodraeth y DU wedi sôn am y cwantwm cyllid sydd i ddod yn lle'r hyn a gafwyd o'r blaen, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw'r swm hwnnw yn eu golwg nhw. Ac yn hollbwysig, hyd yn oed os derbynnir yr egwyddor honno, yr hyn nad ydym ni wedi ei gael yw unrhyw fanylion ynghylch sut y perchir y terfyn datganoli wrth ddefnyddio a gosod y fframweithiau hynny yng Nghymru. Unwaith eto, ni allwn ganiatáu i hyn gael ei orfodi ar Gymru, ac rwy'n gobeithio y byddai ef yn cytuno â hynny.
Gallaf ei sicrhau, yn ddiamwys, y byddwn ni'n ceisio cydweithredu bob amser â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r maes polisi hwn. Rydym wedi ceisio gwneud hynny ond, a dweud y gwir yn blaen, ni chafwyd dim yn gyfnewid. Gobeithio, gyda'r Llywodraeth newydd, y bydd hyn yn digwydd. Y ffordd orau o sicrhau hynny fydd trwy barchu terfyn datganoli, y pleidleisiodd pobl yng Nghymru o'i blaid ar ddau achlysur. Rwy'n credu bod hynny wedyn yn gosod sylfaen ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw, ac fe fyddwn ni'n ceisio bod yn gydweithredol mewn cysylltiad â hynny.
Fe soniodd, fel y mae mor hoff o'i wneud, am ei ddadansoddiad ef o'r rhesymau pam nad yw'r cronfeydd wedi bod yn effeithiol yng Nghymru yn ôl ei ddisgrifiad ef, ac eto i gyd, gan anwybyddu'r degau o filoedd o swyddi newydd a grëwyd, y degau o filoedd o fusnesau a gefnogwyd, y degau o filoedd o bobl a gafodd gymorth i gael gwaith, y lefelau cynyddol o gyflogaeth, y gostyngiad mewn diweithdra, lefelau gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau uwch. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr a yw wedi gorffen ei gwestiwn—roeddwn i'n meddwl ei fod wedi gwneud hynny. [Torri ar draws.] Yr her a wynebwn ni yng Nghymru yw bod—
Mae'r Gweinidog yn ateb eich cwestiwn chi, Darren Millar. A wnewch chi adael llonydd iddo barhau, os gwelwch yn dda?
Yr her a wynebwn ni yng Nghymru yw hyn. Ni waeth pa mor effeithiol y defnyddir y cronfeydd hynny, pan mae gennym bolisi economaidd ledled y DU sy'n seiliedig ar gyni a chynhaliaeth barhaus yr economi ranbarthol fwyaf anghyfartal yn unrhyw ran o Ewrop, ni all y cronfeydd hynny wneud iawn am fethiant y polisi ariannol a macro-economaidd ledled y DU, sy'n cosbi cymaint o'n cymunedau ni. Ond maen nhw wedi bod yn effeithiol, ac mae gennym ni hanes da, ac mae'n cymharu'n ffafriol iawn â methiant y partneriaethau menter lleol a'r gronfa twf lleol yn Lloegr, y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan wedi gwneud dadansoddiad manwl ohonyn nhw.
Rwy'n gwneud ymrwymiad iddo ef ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod yr arian newydd yn parchu'r agenda ranbartholi sy'n llifo trwy ein polisi ni yn ei gyfanrwydd yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gwneud ymrwymiad iddo ef y bydd pob rhan o Gymru ar ei hennill oherwydd y cronfeydd hyn. Ceir potensial yn y cronfeydd newydd—yr ydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i'w cynllunio a'u nodi—i ystyried hyn yn fwy hyblyg nag a fu'n bosibl yn y gorffennol efallai. Felly, rwy'n gobeithio y bydd ef yn ymgysylltu'n adeiladol â'r ymgynghoriad pan ddaw ger ein bron.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth agor fy sylwadau fy mod i'n gresynu'n fawr at wamalrwydd y llefarydd Ceidwadol. Mae ef naill ai'n naïf iawn o ran derbyn yr addewidion disylwedd a wnaeth Llywodraeth y DU hyd yn hyn, neu ei fod ef wir yn hidio mwy am ganmol ei feistriaid yn Llundain nag am iechyd economi Cymru. Ac o ran yr awydd gan Lywodraeth Cymru i gael sedd wrth y bwrdd, rwy'n credu ei fod ef wedi datgelu llawer iawn am ei farn wirioneddol ef ynglŷn â hyn. Mae eisiau'r bwrdd arnom ni—rydym ni'n dymuno cael penderfynu yng Nghymru sut y caiff arian ei wario, a dyna'n union yw holl ystyr datganoli.
Ac rydych chi'n dweud bod cyllid Ewropeaidd wedi bod yn fethiant ac nad yw wedi cau'r bwlch CMC. Wyddoch chi beth, rwy'n cytuno â chi i'r graddau nad yw wedi cael ei wario cystal ag y dylai, ond o leiaf mae cyllid Ewropeaidd wedi cael ei anelu at gau'r bwlch hwnnw o ran cyfoeth. Nid felly gyllid y DU. Rydych chi byth a hefyd, Darren Millar, yn canmol yr arian ychwanegol sy'n dod i Gymru. Holl ystyr hynny yw cadw Cymru mewn tlodi. Dyna yw ystyr arian ychwanegol sy'n dod i Gymru.
Weinidog, gaf i gytuno â'ch asesiad chi o werth yr arian sydd wedi dod gan yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd? Dydw i ddim yn cytuno bob tro efo sut mae'r arian hwnnw wedi cael ei wario, ond mae'r arian hwnnw wedi dod â budd heb os, ac mi oedd yna botensial, wrth gwrs, i barhau ag o. Dwi'n cytuno hefyd fod yna sawl egwyddor sy'n gwbl greiddiol wrth inni symud ymlaen—yn gyntaf, bod yn rhaid sicrhau nad oes yr un geiniog yn cael ei cholli, ac nid dim ond drwy'r gronfa shared prosperity rydyn ni'n sôn amdani yn y fan hyn. Rydyn ni wedi clywed crybwyll yn barod heddiw ynglŷn ag Erasmus—sôn bod hwnnw'n bot ar wahân. Bydd eisiau sicrhau bod hwnnw'n dod hefyd. Felly, un—dim ceiniog yn llai. Ac, yn ail—yr egwyddor yma fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli.
Dydyn ni ddim hyd yma wedi clywed yr hyn rydyn ni ei angen gan Lywodraeth Prydain. Oes, mae yna nifer o eiriau cynnes wedi dod ag arwyddion addawol, o bosib, gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Gymru, ond â ninnau rŵan o fewn blwyddyn at golli'r arian Ewropeaidd, dydy geiriau cynnes ddim yn ddigon da. Doedden nhw ddim yn ddigon da flwyddyn yn ôl, ond erbyn hyn rydw i'n cytuno â'r Gweinidog y dylen ni fod mewn lle llawer cryfach, ac mi gefnogwn ni'r Llywodraeth wrth i chi symud ymlaen tuag at gael y math o sicrwydd rydych chi'n gofyn amdano fo.
Does yna ddim llawer iawn yn y datganiad yma heddiw y tu hwnt i'r datganiadau, hynny yw dwi'n cytuno â nhw. Sôn ydych chi am y cyhoeddiadau sydd yn mynd i gael eu gwneud yn y misoedd i ddod ynglŷn â meddwl am ffordd wahanol o dargedu arian yn rhanbarthol. Felly, jest dau gwestiwn yn sydyn ar hynny. Pa fath o dargedau ydych chi'n bwriadu eu rhoi mewn lle i sicrhau bod yr arian yna yn dod â chanlyniadau? Hynny ydy, rydyn ni fel plaid wedi cefnogi cael targedau twf a ffyniant rhanbarthol ers blynyddoedd ac mi fyddwn ni'n dymuno gweld y math yna o dargedau yn gyrru polisi Llywodraeth.
Ac, yn ail, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod fel Llywodraeth ynglŷn â pha fath o ranbarthau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw? Er enghraifft, roeddwn i'n siarad ag aelod o dîm arwain Cyngor Gwynedd ychydig ddyddiau yn ôl a oedd yn sôn am y lles all ddod i Wynedd drwy weithio'n rhanbarthol ar draws gogledd Cymru mewn rhai cyd-destunau; mewn gweithio efo Ceredigion a Phowys pan mae'n dod at faterion yn ymwneud â de Gwynedd; ac wedyn gweithio ar draws gorllewin Cymru, ar hyd y map rydyn ni wedi dod i’w nabod fel Arfor, mewn cyd-destunau eraill. Felly, pa mor hyblyg ydych chi'n barod i fod o ran y rhanbarthau yr ydych yn bwriadu eu creu, os mai creu rhanbarthau ydy'r bwriad?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau hynny. Hoffwn i fod mewn sefyllfa i allu rhannu gydag ef fwy o fanylion am yr hyn sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn golwg yng nghyd-destun y gronfa. Rydyn ni wedi gofyn am gael mewnbwn i mewn i unrhyw gyfeiriad at Gymru yn yr ymgynghoriad arfaethedig. Dydyn ni ddim wedi cael y cysur hwnnw wrthyn nhw ar hyn o bryd. Fel gwnes i sôn yn gynharach wrth Darren Millar, mae angen lot mwy o fanylion, felly, ynglŷn â sicrhau'r ffin ddatganoli honno.
O ran sut i fesur llwyddiant o fewn y system ariannu yma rydyn ni wedi bod yn trafod gyda'n rhanddeiliaid a'r gwaith mae pwyllgor Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei wneud, mae ganddyn nhw is-bwyllgor o'r grŵp hwnnw sydd wedi bod yn edrych ar y cwestiwn yma o sut i gloriannu llwyddiant a pherfformiad o fewn y system newydd, yn dwyn ar arfer gorau i wneud hynny.
Mae'r cwestiwn rhanbarthol, hynny wnaeth Rhun ap Iorwerth sôn amdano fe, mae hynny yn bwysig iawn. Mae gweledigaeth o ran egwyddor gyda ni fod rhai pethau sydd yn well i'w gwneud ar lefel genedlaethol Gymreig ac wedyn rhai elfennau ar lefel ranbarthol ar draws rhanbarthau Cymru i gyd, ac wedyn elfen arall sydd ar lefel leol iawn, ac mae hynny'n adlewyrchu, i ryw raddau, y cynlluniau presennol. Ond rŷn ni'n gweld bod cyfle o fewn hynny i allu bod yn hyblyg a sicrhau bod penderfyniadau addas yn cael eu gwneud ar lefel is na'r lefel genedlaethol Gymreig pan fo hynny yn addas, yn cynnwys darparu rhywfaint o ariannu ar lefel ranbarthol yn hytrach na jest ar lefel genedlaethol.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rydym yn croesawu'r holl fentrau hyn a amlinellwyd yn natganiad y Gweinidog, gan gynnwys sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol i Gymru, a'ch ymgysylltiad helaeth chi â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Serch hynny, mae'n codi'r cwestiwn o beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflawni gyda'r biliynau o bunnoedd a gafwyd yng nghyllid rhanbarthol yr UE dros yr 20 mlynedd diwethaf. Efallai y gwnewch chi egluro wrthym ni a phobl Cymoedd y De pam maen nhw'n cael eu hystyried o hyd ymhlith y tlotaf yn Ewrop.
Yn sicr, Gweinidog, nid yw eich amheuaeth barhaus chi ynghylch y cyllid newydd a ddaw gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i feithrin perthynas dda â San Steffan. Efallai y gwnewch chi egluro inni pam yr ydych chi'n teimlo mai hon yw'r ffordd orau ymlaen. Ac fel y dywedodd Darren Millar, rydych wedi cael llawer o sicrwydd mewn datganiadau gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru yn cael ceiniog yn llai. Yn wir, fe allai gael llawer iawn mwy pan fydd y gronfa ffyniant a rennir yn cael ei gweinyddu. Ac efallai y dylwn i nodi nad Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon yw'r unig rai sy'n aros am y dyraniad hwn. Mae llawer o ranbarthau Lloegr yn yr un sefyllfa.
Rydych chi'n dweud y byddwn ni'n colli gwerth £375 miliwn y flwyddyn o arian strwythurol yr UE. Ond nid ydych yn cyfeirio at y ffaith ein bod wedi gorfod cydymffurfio â rheolau caeth yr UE wrth ei gymhwyso, tra bod y £14 biliwn a ddyrannwyd gan Senedd y DU drwy fformiwla Barnett, er yn ddiffygiol, yn dod heb gyfyngiadau o'r fath ac mae Llywodraeth Cymru yn rhydd i'w weinyddu fel y gwêl yn dda. A gaf i ddweud hefyd, Gweinidog, na all neb anwybyddu'r eironi yn eich galwad chi i barchu'r refferendwm ar ddatganoli, o ystyried eich ymdrechion bwriadol chi a'ch plaid dros y tair blynedd diwethaf i rwystro'r penderfyniad gan bobl Cymru i ymadael â'r UE yn y refferendwm hwnnw.
Mae llawer o'r datganiad hwn yn cynnwys cyfeiriadau at fentrau a chamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith i greu Cymru ffyniannus a chynhwysol. Gweinidog, mae'n rhaid gofyn, beth bynnag am Brexit, pryd fydd y rhethreg yn dod i ben a'r cyflenwi'n dechrau?
Wel, gobeithio nad wyf yn swnio'n amheus, fel y mynegais wrth Darren Millar gynnau. Rydym yn barod fel Llywodraeth i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yn hyn o beth, ac rwyf wedi amlinellu'r hyn y mae hynny'n ei olygu o'n safbwynt ni. Mae rhan o hyn yn ymwneud â'r agwedd hanfodol o barchu'r swyddogaethau sydd gan wahanol Lywodraethau'r DU, y gwahanol bwerau a chyfrifoldebau sydd gan wahanol Lywodraethau'r DU, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn cadarnhau hynny yn y manylion. Fel y dywedaf, rydym wedi gweld arwyddion cadarnhaol ond rwy'n credu nawr ei bod yn amser symud y tu hwnt i'r arwyddion cadarnhaol cyffredinol hynny tuag at drafodaeth fanwl o'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ac at ymrwymiad i'r egwyddor sylfaenol honno.
Rwy'n credu ei fod yn fy ngwahodd i, unwaith eto, i restru'r ffyrdd y mae'r cronfeydd hyn wedi bod o fudd i bobl Cymru. Mae gennym dwf sylweddol o ran cyflogaeth a gostyngiadau o ran diweithdra, cynnydd o ran lefelau sgiliau, a gostyngiadau o ran anweithgarwch economaidd yn y rhanbarthau hynny sydd wedi gallu elwa ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi creu miloedd o swyddi newydd yn sgil hynny, wedi cefnogi miloedd o fusnesau, ac wedi helpu degau o filoedd o bobl i gael gwaith. Efallai nad yw'n gwybod pwy yw'r bobl hynny, ond mae digon o bobl yn fy etholaeth i yn dod i'm cymorthfeydd ac yn dweud wrthyf eu bod nhw wedi elwa ar brentisiaethau a rhaglenni sgiliau eraill, a'r cyfan wedi cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Byddaf i'n gwrthsefyll y demtasiwn i ail-ymladd y refferendwm. Ymddengys ei fod ef yn awyddus i wneud hynny. Y cyfan a ddywedaf i yw ein bod ni o'r farn fod yna ffyrdd creadigol ac adeiladol o sicrhau bod cyllid rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol yn parhau i sicrhau'r manteision sydd wedi cronni yng Nghymru o hynny yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae gennym ni ddull creadigol a llawn dychymyg o lunio'r cynlluniau hynny. Rwy'n credu mai'r hyn yr hoffem ni ei weld nawr yw'r cadarnhad y bydd y cynlluniau sydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yn ein galluogi ni, i bob pwrpas, i wireddu'r cynigion hynny. Rwyf i o'r farn fod hynny er lles pobl Cymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun buddsoddi rhanbarthol i Gymru? Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni ein hatgoffa ein hunain mai diweddariad yw hwn—nid ydym wedi cyrraedd y fan eto. A gaf i fynegi fy siom hefyd yng nghyfraniadau'r llefarydd Ceidwadol a llefarydd Plaid Brexit, sydd wedi ceisio bychanu'r manteision a gawsom o gyllid Ewropeaidd. Os hoffen nhw ddod i gymunedau fy etholaeth i a gweld pa fanteision sydd wedi dod yn ei sgil, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, oherwydd mae hyn wedi bod yn rhywfaint o'r cymorth y bu ei angen ar y cymunedau hynny ar adegau anodd a wynebwyd oherwydd yr agenda o gyni sydd wedi bodoli ers 2010.
Gweinidog, ynglŷn â'r datganiad, roeddech chi'n sôn am un agwedd—sylfaen gyllid amlflwydd. Mae'n amlwg mai rhaglen Ewropeaidd oedd honno ac fe ddylai gael ei hariannu am sawl blwyddyn, ond nid yw'n ymddangos bod cyllid amlflwydd yn ei le ar hyn o bryd i lenwi'r bwlch. Y cwbl a wyddom am y gronfa ffyniant a rennir yw ei henw. Nid ydym yn gwybod un dim arall. Efallai fod gan Darren Millar fwy o fanylion am hynny nag sydd gennym ni, oherwydd ni wyddom ni ddim amdani. Nid ydym yn gwybod sut y caiff ei gweinyddu hyd yn oed, pa fath o gyfraniadau a pha fath o gyfyngiadau fydd yn cael eu rhoi arni, ac a fydd yna unrhyw fframweithiau y bydd raid inni lynu wrthynt? Ni wyddom ddim hyd yn hyn. Ond a ydych chi wedi gweld unrhyw argoel y bydd yn gyllid amlflwydd, ac na fydd yn cael ei warantu am flwyddyn yn unig, ond y bydd y ffigurau hyn yn cael eu rhoi'n barhaus am flynyddoedd fel bod modd rhoi rhaglen amlflwydd at ei gilydd? Mae hyn yn bwysig ar gyfer helpu'r cymunedau hynny sydd wedi bod yn defnyddio'r gronfa hon at y diben hwnnw ac sydd wedi cael sicrwydd y byddan nhw'n cael yr arian hwnnw, nid am flwyddyn yn unig, ond am sawl blwyddyn, fel y gallant roi rhywbeth at ei gilydd yn ofalus.
Fe sonioch hefyd am y grŵp llywio ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i Gymru, a'ch bod chi'n disgwyl i ddogfen ymgynghori gael ei chyhoeddi. A wnewch chi gadarnhau mai dogfen ymgynghori yw honno ac nad yw'n ddogfen derfynol a roddir i'r Llywodraeth, ond y bydd yna broses a fydd yn parhau y tu hwnt i hynny? Oherwydd fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith na fydd yr OECD yn cyflwyno ei adroddiad tan ddiwedd y flwyddyn. Rwy'n tybio o'r darnau mân hynny o wybodaeth na fydd y Llywodraeth yn llunio ei chynllun terfynol—ei chynllun buddsoddi rhanbarthol terfynol—tan ddiwedd y flwyddyn neu ddechrau 2021. Pryd, felly, y bydd hynny'n digwydd i sicrhau y bydd gan ein cymunedau ni syniad o'r hyn fydd cyfeiriad cynllun buddsoddi rhanbarthol Llywodraeth Cymru i'r dyfodol?
Diolch i David Rees am y cwestiynau yna. Mae'n gywir i ddweud ar ddechrau ei gwestiynau, er y defnyddiwyd y cronfeydd hyn yn effeithiol, mae cyd-destun ehangach cyni yn un y mae pob un ohonom ni yn gweithredu ynddo. Ni allwn ni ddisgwyl i unrhyw faint o ymyrraeth o'r fath wneud iawn am yr effaith, yr effaith andwyol y bydd hynny'n ei chael ar y cymunedau y mae llawer ohonom ni yn eu cynrychioli.
Dyma'r union fath o fanylder ynglŷn ag ariannu amlflwydd a pha mor aml y bydd ar gael yn ganolog yr ydym yn dal i fod yn ansicr yn ei gylch. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn mynd at wraidd y peth. Mae'r rhaglenni sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn amlwg, ar gael ar sail cynllun amlflwydd. Felly, mae gallu parhau i ddarparu cymorth ar y sail honno yn hanfodol.
Dywedaf hefyd y bydd rhaglenni y byddai rhywun yn disgwyl iddynt fod yn gymwys o dan y rhaglenni presennol a rhaglenni'r dyfodol, ac, yn nodweddiadol, mae gorgyffwrdd ym mlynyddoedd y rhaglenni hynny fel y gellir symud yn ddidrafferth o un rhaglen i'r llall. Felly, mae hynny'n bryder arall—ein bod yn gwneud yn siŵr bod trefniadau newydd a chyllid newydd ar waith mewn da bryd i hynny fod yn bosib o ran rhai o'r rhaglenni hyn hefyd.
O ran yr ymgynghoriad ym mis Mawrth, bydd hwnnw'n ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yn disgrifio canlyniad trafodaethau'r grŵp llywio a bydd yn disgrifio'r egwyddorion a'r fframweithiau eang ac ati, ond bydd hwnnw ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n iawn i sôn am y ffaith na fydd adroddiad terfynol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Mae hon yn rhaglen y mae'r Sefydliad wedi bod yn gweithio arni gyda ni ers dwy flynedd, ac mae ambell beth wedi esgor o'r gwaith hwnnw yn y cyfamser, gan gynnwys ymweliadau â Chymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chyfarfod rhanddeiliaid, fel y dywedais, ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hynny wedi rhoi ymdeimlad o'r cyfeiriad yr ydym yn symud iddo yn deillio o'u myfyrdodau yngylch arferion gorau hefyd.
Mae nifer o gwestiynau yn gysylltiedig â hyn. Mae un yn ymwneud â'r fframweithiau, y blaenoriaethau, y llywodraethu ac yna'r dulliau cyflawni. Bydd rhywfaint o hynny ar gael gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd dim ond ar ddiwedd y flwyddyn, ond, yng nghyswllt y fframweithiau, y llywodraethu, yr egwyddorion ac ati, byddwn eisiau ymgynghori yn eu cylch cyn hynny.
Mae'n bwysig ein bod ni mewn sefyllfa i gael trefniadau ariannu newydd yn eu lle cyn gynted â phosib y flwyddyn nesaf er mwyn i ni wneud y mwyaf o'r pontio llyfn rhwng un gyfres o raglenni a ariennir gan yr UE a'r rhaglenni a ariennir ledled y DU wedi hynny.
Diolch i'r Gweinidog.