Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 14 Ionawr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i weld y cynnydd a wnaed yn y maes pwysig hwn. Rwy'n croesawu'r hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am y cam nesaf, sef edrych ar weithio mwy traws-ranbarthol ac edrych ar ehangu cenedlaethol. Ni wnaf, Dirprwy Lywydd, boeni'r Cynulliad gyda rhai o'r cwestiynau sydd eisoes wedi eu hateb o ran sylwadau a wnaeth Angela Burns, ond hoffwn ymchwilio ychydig ymhellach gyda'r Gweinidog i'r holl broses o ehangu a chyflwyno'r mater hwn, oherwydd bu hyn yn un o'n problemau yng Nghymru, mi gredaf, nid dim ond yn y system iechyd a gofal cymdeithasol; bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi buddsoddi cryn dipyn o arian mewn rhaglenni arloesol, lle maen nhw wedi cyflwyno rhai prosiectau da iawn a gwaith cadarnhaol iawn, ond ymddengys ein bod yn methu ar yr adeg honno pan fo angen inni droi hynny'n rhaglen genedlaethol ac yn drawsnewid cenedlaethol.
Nawr, mae'r Gweinidog yn briodol iawn yn ei ddatganiad yn cyfeirio at gynnydd ychydig yn arafach nag y disgwyliai, ac mae hynny'n ddealladwy, rwy'n credu, ac mae'n crybwyll bod problemau recriwtio a chaffael. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma ychydig mwy ynghylch beth oedd rhai o'r elfennau hynny, neu a yw'n fwy priodol os yw'n ysgrifennu atom, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn deall beth yw'r elfennau hynny er mwyn gallu craffu ar y modd y mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Oherwydd pe bai problemau recriwtio a chaffael yn ystod y camau cynnar, byddai rhywun yn disgwyl y bydd y rhai hynny'n ailymddangos neu efallai'n ailymddangos pan fydd ehangu a symud tuag at raglenni cenedlaethol. Felly, byddai diddordeb gennyf glywed ychydig mwy am beth oedd yr elfennau hynny mewn gwirionedd.
Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at yr eglurder a roddodd erioed, a bod yn deg, mai un gronfa arian benodol a geir yma, sef ei bod yn rhoi cyfle i bobl arloesi, ac y bydd yn disgwyl cyflwyno'r dysgu drwy gyllidebau craidd yn yr hirdymor. Rwy'n credu y byddem i gyd yn disgwyl hynny. Ond tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut y mae'n bwriadu gweithio gyda'r cyrff iechyd gwladol ac, yn wir, wrth gwrs, yn bwysig iawn, y partneriaethau rhanbarthol a'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Rwy'n cydnabod yn llawn nad yw'r Gweinidog mewn sefyllfa eto i ddweud wrthym ni pa wersi a ddysgwyd o'r rhaglen, gan nad yw'r gwerthusiadau wedi'u cwblhau, felly byddai'n ffôl inni ofyn am hynny. Ond byddwn yn dychmygu bod rhai materion yn dechrau dod i'r amlwg, bod rhai patrymau'n dechrau dod i'r amlwg. Rwy'n croesawu'n fawr, gyda llaw, ymrwymiad y Gweinidog, pan fydd gennych chi flwyddyn gyfan o werthusiadau, i rannu'r rhai hynny ag aelodau'r pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn ddiolchgar iawn o weld y rhai hynny, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad i'r Cynulliad bryd hynny, rhag ofn bod Aelodau nad ydynt ar y pwyllgor iechyd hefyd eisiau cyfrannu.
Felly, os cawn glywed ychydig mwy ynghylch beth oedd y rhwystrau, ychydig mwy am feddylfryd y Gweinidog o ran, pan ddysgir y gwersi, sut y caiff hynny ei ledaenu drwy'r system, oherwydd dywed datganiad y Gweinidog ei hun y gall hynny fod yn anodd. Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio bod y tîm cyllid trawsnewid ar gael i gefnogi rhanbarthau wrth iddynt ddatblygu'r cynigion ar gyfer y cylch nesaf, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. A yw'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymorth hwnnw ar gael, neu ryw fath o gefnogaeth debyg, pan ddeuwn at y ar adeg anoddach efallai lle mae'r arian ar gyfer y trawsnewid ar ben, mae'r gwersi wedi'u dysgu, ac mae angen prif-ffrydio hynny, os mynnwch chi, mae angen i hynny ddod yn rhan o arferion craidd. Oherwydd dyna, fel y dywedais, lle'r ydym ni wedi tueddu i fethu yn y gorffennol.
Mae hyn yn rhywbeth arloesol pwysig iawn. Mae'r Gweinidog yn gwybod ei fod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i'r hyn y mae'n ceisio ei wneud ag ef. Ond mae angen inni sicrhau na fydd hyn yn un arall o'r rhaglenni arloesol rhagorol hynny sydd wedyn yn mynd i'r gwellt pan fo angen i gyrff iechyd, ac yn wir gwasanaethau cymdeithasol a phawb sy'n eistedd ar y byrddau partneriaeth, newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar eu cyllidebau craidd pan fydd y gronfa arian hynod dderbyniol hwn wedi dod i ben.