5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad o Gynnydd ar Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach

– Senedd Cymru am 4:33 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:33, 14 Ionawr 2020

Ac felly yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar adroddiad o gynnydd ar gronfa trawsnewid 'Cymru Iachach'. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr haf diwethaf, rhoddais ddiweddariad ysgrifenedig i'r Cabinet ynglŷn â 'Cymru Iachach' a'r gronfa drawsnewid. Mae'n bleser gennyf roi diweddariad arall heddiw i'r Aelodau ynglŷn â'r gronfa drawsnewid.

Lansiais gronfa £100 miliwn ym mis Medi 2018. Diben y gronfa yw helpu i uwchraddio modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol di-dor ledled Cymru. Roedd y modelau gofal newydd yn un o argymhellion amlwg yr adolygiad seneddol. Mae'r dull hwn o weithredu wedi'i grybwyll yn y canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer y gronfa a thrwy ymgysylltu â phartneriaid sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn rhanbarthol.

Ystyriwyd pob cynnig yng ngoleuni'r 10 egwyddor cynllunio a nodir yn 'Cymru Iachach'. Mae'r egwyddorion cynllunio hynny yn dwyn ynghyd sawl ystyriaeth strategol allweddol, gan gynnwys ein hymrwymiad i egwyddorion gofal iechyd darbodus, y nod pedwarplyg a gymeradwyir gan yr adolygiad seneddol a'r pum ffordd o weithio a ymgorfforwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rwyf wastad wedi bod yn glir fod gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol swyddogaeth allweddol o ran ysgogi trawsnewid. Dyna pam roedd angen i'r cynigion gael eu cefnogi gan un neu ragor o fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cyfarfod sawl gwaith gyda rhanddeiliaid ac arweinwyr allweddol ym mhob rhanbarth i ddeall y pwysau allweddol ac i weld modelau newydd sy'n datblygu. Mae'n galonogol gweld bod ein partneriaid rhanbarthol wedi derbyn yr her. Maen nhw wedi cyflwyno ystod o gynigion sy'n dangos awydd i arloesi ac ymrwymiad gwirioneddol i drawsnewid sylweddol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:35, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Hyd yn hyn, rwyf eisoes wedi dyfarnu £89 miliwn i gefnogi 14 cynnig, gydag o leiaf un ym mhob rhanbarth. Mae prosiectau trawsnewid i'w gweld ledled Cymru. Er enghraifft, mae gofal wedi'i alluogi gan dechnoleg yn y gorllewin yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol. Yng Ngwent, mae gwasanaethau'n cael eu had-drefnu er mwyn darparu arbenigedd i staff ar y rheng flaen er mwyn cynorthwyo rhai o'n plant mwyaf agored i niwed. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru yn helpu pobl i elwa ar wasanaethau lles lleol. Mae dros 1,000 o ddatganiadau diddordeb wedi dod i law ar gyfer yr hyfforddiant I CAN i gefnogi iechyd meddwl sy'n cael ei gyflwyno ar draws y gogledd. Rwy'n ddiolchgar i bob un o'n partneriaid rhanbarthol am eu brwdfrydedd a gwaith diflino eu timau rhanbarthol yn gwireddu eu huchelgeisiau.

Fel y gŵyr pob un ohonom ni, mae iechyd a gofal cymdeithasol yn system gymhleth sydd dan bwysau'n barhaus. Mae troi polisi yn newid gwirioneddol ar lawr gwlad a hynny'n gyflym yn her wirioneddol, a dyna, wedi'r cyfan, yn rhannol pam y cytunodd pedair plaid o'r Cynulliad hwn i gomisiynu'r adolygiad seneddol yn y lle cyntaf, ac rydym ni bellach yn gweithredu argymhellion yr adolygiad. Wrth gwrs, rwy'n amlinellu dull a gweledigaeth y Llywodraeth yn 'Cymru Iachach', ond mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n agos â'n partneriaid cyflenwi ac i werthuso effaith yr hyn a wnawn.

Felly, rydym ni wedi cwblhau dau gylch o adolygiadau chwarterol, gyda'r trydydd cylch ar fin dechrau. Mae 14 o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gweithle sy'n canolbwyntio ar brosiectau trawsnewid lleol wedi'u cynnal ledled Cymru, wedi'u trefnu a'u rhedeg fel partneriaeth gan Lywodraeth Cymru a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Rwyf wedi gwrando ar adborth gan bartneriaid rhanbarthol a ddywedodd wrthyf fod y cynnydd cychwynnol yn arafach na'r disgwyl, yn bennaf oherwydd materion recriwtio a chaffael. Mewn ymateb, rwyf wedi ymestyn y cyfnod cyllido i gefnogi modelau newydd o fis Rhagfyr 2020 i fis Mawrth 2021. Rwyf wastad wedi bod yn glir, fodd bynnag, mai bwriad y gronfa drawsnewid yw bod yn gatalydd ac ni fydd yn un rheolaidd. Mae angen i bartneriaid rhanbarthol ddynodi adnoddau o'u cyllidebau rheolaidd i gefnogi'r gwaith o ehangu'r trawsnewid, gan gynnwys blaenoriaethau trawsnewidiol ychwanegol.

Addewais hefyd y byddwn yn edrych yn fanwl ar ddewisiadau ar gyfer y gronfa, gan gynnwys sut i ddyrannu'r £11 miliwn sy'n weddill. O ystyried yr oedi ym mhroses y gyllideb gan Lywodraeth y DU, rydym ni, wrth gwrs, yn wynebu sefyllfa heriol iawn, ac rwyf hefyd yn cydnabod yr angen a gwirionedd y sefyllfa bod yn rhaid i'r cyllid cyfyngedig ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol gefnogi'r system gyfan.

Rwy'n ddiolchgar am waith ac ymrwymiad partneriaid wrth ddatblygu eu cynigion ar gyfer ail gylch y gronfa. Wrth ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r cylch cyntaf o gynigion, rwyf wedi gwneud penderfyniad, ac rwyf wedi ysgrifennu at fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn awgrymu faint o gyllideb fydd yn weddill yn y gronfa drawsnewid. Caiff hyn ei ddyrannu ar sail ranbarthol yn unol â fformiwla ariannu'r GIG ar gyfer byrddau iechyd ynghyd â galwad am gynigion newydd sy'n adeiladu ar brosiectau sy'n bodoli eisoes. Dylai hynny alluogi rhanbarthau i benu hyd a lled eu cynigion o ran amlen ariannu fras, er mwyn helpu i dargedu amser ac ymdrech yn rhanbarthol. Bydd cadarnhad o'r cyllid yn amodol ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno cynigion dichonadwy. Byddaf yn chwilio am geisiadau sy'n gwella ac yn ychwanegu at y cynigion a gymeradwywyd, gan roi pwyslais ar newid yn raddol o weithio fel un rhanbarth i weithio aml-ranbarth ac i gwmpas cenedlaethol.

Caiff patrymlun a chanllawiau atodol eu darparu a chaiff y ceisiadau eu hasesu gan y panel gwerthuso o fewn amserlen benodedig. Bydd y meini prawf craidd ar gyfer y gronfa yn aros fel y maen nhw yn y canllawiau cyhoeddedig, gyda'r pwyslais hwnnw ar weithio'n aml-ranbarthol ac ar raddfa genedlaethol.

Disgwyliaf i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gyflwyno cynigion erbyn canol mis Mawrth 2020, felly o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, ac yna byddaf yn rhoi cadarnhad buan o benderfyniadau i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi hynny. Mae tîm y gronfa drawsnewid ar gael, wrth gwrs, i gefnogi rhanbarthau wrth iddyn nhw ddatblygu eu ceisiadau.

Mae hon, rwy'n credu, yn ffordd hyblyg a phragmatig o fynd ati sy'n cydnabod sefyllfa bresennol ein cyllidebau, yr angen brys i gynnig eglurder i bartneriaid rhanbarthol, yr heriau o ran cyflawni cynigion a gymeradwywyd, ac sy'n dysgu o'r gweithredu hyd yma, sydd wedi amlygu'r angen am gymorth pellach i wella'r cynnydd trawsnewidiol presennol. Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau gan Aelodau heddiw.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:40, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae'n dda gweld y 14 prosiect sydd wedi cael eu cyllido, a bydd gen i ddiddordeb mawr gweld sut gaiff yr £11 miliwn arall ei ddefnyddio yn y diwedd.

Hoffwn wneud un neu ddau sylw. O ran y cylch ariannu terfynol, a wnewch chi egluro a fyddwch chi'n targedu ceisiadau o unrhyw ardal bwrdd iechyd benodol, ynteu a fyddwch chi'n edrych ar ddull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan? Ac rydych chi'n dweud y dylai'r cynigion gael eu cyflwyno erbyn canol mis Mawrth. Oes gennych chi ddyddiad cau ar gyfer pryd y byddech yn pennu dyddiad cau i chi eich hun ar gyfer cytuno ar y cynigion hyn?

Yn y datganiad a roesoch chi ar y gronfa hon y llynedd, fe ddywedoch chi y byddai cynllunio'r gweithlu a datblygu'r gweithlu yn thema gref, tybed sut -mae'r uchelgais hon yn mynd yn ei blaen a pha dystiolaeth sydd yna bod y prosiectau sy'n hyrwyddo gwell cynllunio gweithlu yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Eto, yn natganiad y llynedd, dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar nad oeddech chi wedi rhoi unrhyw syniad inni beth fyddai'r rhaniad buddsoddi rhwng gofal cymdeithasol, gofal cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Ydych chi'n edrych arno yn y termau hynny neu a yw'n fwy cyffredinol? Oherwydd yn amlwg rwyf wedi cael golwg ar y prosiectau y cytunwyd arnynt hyd yma.

Mae'r datganiad yn tynnu sylw at y ffordd y bwriedir i'r gronfa fod yn gatalydd ac na fydd yn rheolaidd. Pa broses sy'n bodoli os bydd y cynlluniau hyn, ar ôl eu cyllido, yn methu yn y pen draw. Sut y gallwch chi sicrhau cynaliadwyedd a sicrhau, os yw'n brosiect da, ei fod, mewn gwirionedd, yn cael cefnogaeth y bobl sy'n gysylltiedig ag ef, y cyrff sy'n gysylltiedig ag ef, i allu gwneud cynnydd? Tybed pa wiriadau sydd ar waith i fesur llwyddiant cynllun.

Y llynedd, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith eich bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol i werthuso modelau newydd wrth iddynt ddatblygu fel y gellir cynyddu datblygiadau arloesol mwy addawol, a meddwl oeddwn i tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn y gallai'r rhain fod. Yn dilyn y nodau hynny, fe wnaethoch chi fynegi eich awydd i weld y prosiectau hyn yn croesi ffiniau, ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â'r cymorth a fydd ar gael i ariannu cynlluniau a ystyrir yn llwyddiant mewn un rhan o Gymru i sicrhau eu bod yn gwneud y trosglwyddiad hwnnw i rannau eraill ac ymwreiddio'n llwyddiannus.

Ac, yn olaf, rydych chi'n rhoi llawer o bwyslais yn eich datganiad ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol a gwneud popeth drwyddyn nhw, ac, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol a ddangosodd ganlyniadau braidd yn dameidiog ac anghyson mewn rhai meysydd, a meddwl oeddwn i tybed a allwch chi roi rhyw sicrwydd i ni, er eich bod yn rhoi eich ymddiriedaeth, eich ymdrech, a'ch bod yn gofyn iddyn nhw gyflwyno'r syniadau hynny, y byddant yn gallu eu datblygu ac y bydd ganddyn nhw'r cryfder a'r gefnogaeth i wneud yn siŵr nad yw'r arian trawsnewid hwn yn cael ei wastraffu.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:42, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y rhestr o gwestiynau. O ran yr £11 miliwn yn yr ail gam, fel y ceisiais ddangos yn fy natganiad eisoes, byddaf yn targedu hynny yn yr ystyr y bydd un ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cael swm mwy nag eraill, ar wahân i'r ffordd y mae'r fformiwla ariannu yn gweithio, sydd eisoes yn cynnwys yr amrywiaeth o bwyntiau am angen a phoblogaeth. Felly, byddwn wedyn yn cyhoeddi'r swm o arian y bydd pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol o bosib yn gorfod ceisio amdano, ond, wrth gwrs, bydd gan y partneriaid eu hunain gyllidebau y bydd angen ychwanegu atynt neu fel arall. Ac rwy'n credu fy mod eisiau cysylltu hynny ag un neu ddau o'r pwyntiau eraill a wnaethoch chi, sef â'r dystiolaeth o gynnydd, y diweddariad ynghylch y dangosyddion cenedlaethol, a'r trawsnewid o un rhanbarth i'r llall a maint y trawsnewid hwnnw. Oherwydd diben yr ail gam yw, os oes pethau newydd y mae byrddau eisiau eu gwneud, ynghylch beth yw'r rhain, ynghyd â'r egwyddorion cynllunio, gyda phwyslais ar ddymuno gweld pobl yn cofleidio mewn mwy nag un rhanbarth yr hyn sy'n gweithio mewn rhanbarth arall, ac rwyf eisiau gweld hynny'n datblygu ar raddfa fwy. Oherwydd, pan fyddwn yn cyrraedd diwedd cyfnod y gronfa drawsnewid, bydd gennym ni ddewisiadau i'w gwneud o hyd, ni waeth pwy yw'r Gweinidog ar y pryd, ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny.

A'r pwynt ynghylch byrddau partneriaeth rhanbarthol fel elfen allweddol o hyn yw (a) eu bod eisoes yn bodoli. Mae pobl wedi arfer â gorfod gwneud mwy a mwy o ddewisiadau gyda'i gilydd i rannu gwybodaeth, rhannu dysg, a datrys problemau gyda'i gilydd hefyd, oherwydd ni ddylai'r un ohonom ni honni, hyd yn oed o fewn ein teuluoedd ein hunain, heb sôn am grwpiau a gwahanol wasanaethau cyhoeddus ein bod i gyd yn cytuno ar bopeth drwy'r amser. Felly, mae'n ffordd o ddatrys y gwahaniaethau hynny ond wedyn hefyd i fod â chynllun y mae pobl yn ymrwymo iddo ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n credu, o gofio'ch cyfeiriad at y ffydd y gallwn ei chael mewn byrddau partneriaeth, y gallwn gael ffydd wirioneddol, oherwydd gallwch weld nid yn unig eu bod wedi dod ynghyd i gytuno ar geisiadau, ond, mewn amrywiaeth o feysydd, maen nhw'n dechrau gwneud mwy o wahaniaeth. Ac, yn y gaeaf, er enghraifft, y ffaith bod pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi cytuno sut i ddefnyddio arian ar gyfer y gaeaf, yn hytrach na chael ffrae fawr ynghylch pwy gafodd pa gyfran ohono, a beth oedd blaenoriaethau'r system gyfan o fewn y maes hwnnw. Mae hynny'n rhoi mwy o ffydd inni ynglŷn â'r dewisiadau ymarferol sy'n cael eu gwneud. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o hynny, ac yna bydd cwestiwn agored i mi neu Weinidog yn y dyfodol ynghylch beth sy'n digwydd wedyn os byddwn yn datblygu hynny.

Felly, ar ôl y cam nesaf hwn, mae'r gronfa drawsnewid ar ben. A yw hynny'n ymwneud ag arian? A yw hynny'n ymwneud ag annog pobl? A yw'n ymwneud â mynnu bod pobl yn gwneud pethau? Neu a yw'n fwy na hynny? Ond byddai hynny'n darogan y dyfodol, cyn y gwerthusiadau a gawsom ni ar lwyddiant y prosiectau. A chredaf fod hynny yn dod yn ôl at eich sylw am dystiolaeth am y cynnydd yng ngham un a'ch sylw am y cwestiynau a ofynnodd Darren Millar yn y gorffennol ynghylch a fyddai rhaniad rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddefnyddiol, felly rwyf eisiau edrych arno'n fwy cyffredinol ynghylch yr effaith ar yr holl system. Dyna'r pwynt hefyd ynghylch cael partneriaid i gytuno ar yr hyn a ddylai wneud synnwyr, oherwydd, fel arall, pe bai'n cael ei rannu rhwng gwahanol rannau o'n system, byddai'n hawdd gweld y bobl hynny'n cilio i gornel gan ddweud, 'Fy arian i'w hwn, i mi benderfynu beth i'w wneud ag ef' yn hytrach na, 'Beth ddylai wneud gwahaniaeth i'r unigolyn hwnnw y bydd angen iddo lifo drwy ac o amgylch y system gyfan honno?'

Dywedais yn fy natganiad fod y trydydd o'r gwerthusiadau chwarterol i gyrraedd yn fuan. Yr hyn y bwriadaf ei wneud yw ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ôl i'r pedwerydd gwerthusiad ddod i law, felly gwerthusiad blwyddyn lawn o bob un o'r meysydd, a rhoi diweddariad bryd hynny. Rwy'n dychmygu efallai y bydd y pwyllgor yn penderfynu ei fod eisiau edrych arno'n fwy manwl neu beidio, ond yna byddai'r canlynol yn gyhoeddus a gweladwy - 'Dyma'r cynnydd ar yr adeg honno, a'r cynnydd drwy'r system.' Gallech hefyd wirio hynny wedyn o'i gymharu â'r dangosyddion cenedlaethol. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gweld hynny ynghyd â chyd-destun y gwerthusiad a'r cynnydd.

Dylem hefyd erbyn hynny fod wedi cael penderfyniadau ar bob un o'r cynigion ail gam yr wyf wedi'u cyhoeddi. Ni allaf roi amser pendant ichi o ran pryd y byddaf yn ymateb i hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae angen imi weld beth yw'r cynigion ac a oes angen cysylltu â phobl cyn gwneud penderfyniad. Ond rwy'n awyddus i wneud dewisiadau cyn gynted â phosib, fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r dyfodol.  

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:47, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i weld y cynnydd a wnaed yn y maes pwysig hwn. Rwy'n croesawu'r hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am y cam nesaf, sef edrych ar weithio mwy traws-ranbarthol ac edrych ar ehangu cenedlaethol. Ni wnaf, Dirprwy Lywydd, boeni'r Cynulliad gyda rhai o'r cwestiynau sydd eisoes wedi eu hateb o ran sylwadau a wnaeth Angela Burns, ond hoffwn ymchwilio ychydig ymhellach gyda'r Gweinidog i'r holl broses o ehangu a chyflwyno'r mater hwn, oherwydd bu hyn yn un o'n problemau yng Nghymru, mi gredaf, nid dim ond yn y system iechyd a gofal cymdeithasol; bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi buddsoddi cryn dipyn o arian mewn rhaglenni arloesol, lle maen nhw wedi cyflwyno rhai prosiectau da iawn a gwaith cadarnhaol iawn, ond ymddengys ein bod yn methu ar yr adeg honno pan fo angen inni droi hynny'n rhaglen genedlaethol ac yn drawsnewid cenedlaethol.

Nawr, mae'r Gweinidog yn briodol iawn yn ei ddatganiad yn cyfeirio at gynnydd ychydig yn arafach nag y disgwyliai, ac mae hynny'n ddealladwy, rwy'n credu, ac mae'n crybwyll bod problemau recriwtio a chaffael. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma ychydig mwy ynghylch beth oedd rhai o'r elfennau hynny, neu a yw'n fwy priodol os yw'n ysgrifennu atom, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn deall beth yw'r elfennau hynny er mwyn gallu craffu ar y modd y mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Oherwydd pe bai problemau recriwtio a chaffael yn ystod y camau cynnar, byddai rhywun yn disgwyl y bydd y rhai hynny'n ailymddangos neu efallai'n ailymddangos pan fydd ehangu a symud tuag at raglenni cenedlaethol. Felly, byddai diddordeb gennyf glywed ychydig mwy am beth oedd yr elfennau hynny mewn gwirionedd.

Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at yr eglurder a roddodd erioed, a bod yn deg, mai un gronfa arian benodol a geir yma, sef ei bod yn rhoi cyfle i bobl arloesi, ac y bydd yn disgwyl cyflwyno'r dysgu drwy gyllidebau craidd yn yr hirdymor. Rwy'n credu y byddem i gyd yn disgwyl hynny. Ond tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut y mae'n bwriadu gweithio gyda'r cyrff iechyd gwladol ac, yn wir, wrth gwrs, yn bwysig iawn, y partneriaethau rhanbarthol a'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Rwy'n cydnabod yn llawn nad yw'r Gweinidog mewn sefyllfa eto i ddweud wrthym ni pa wersi a ddysgwyd o'r rhaglen, gan nad yw'r gwerthusiadau wedi'u cwblhau, felly byddai'n ffôl inni ofyn am hynny. Ond byddwn yn dychmygu bod rhai materion yn dechrau dod i'r amlwg, bod rhai patrymau'n dechrau dod i'r amlwg. Rwy'n croesawu'n fawr, gyda llaw, ymrwymiad y Gweinidog, pan fydd gennych chi flwyddyn gyfan o werthusiadau, i rannu'r rhai hynny ag aelodau'r pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn ddiolchgar iawn o weld y rhai hynny, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad i'r Cynulliad bryd hynny, rhag ofn bod Aelodau nad ydynt ar y pwyllgor iechyd hefyd eisiau cyfrannu.

Felly, os cawn glywed ychydig mwy ynghylch beth oedd y rhwystrau, ychydig mwy am feddylfryd y Gweinidog o ran, pan ddysgir y gwersi, sut y caiff hynny ei ledaenu drwy'r system, oherwydd dywed datganiad y Gweinidog ei hun y gall hynny fod yn anodd. Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio bod y tîm cyllid trawsnewid ar gael i gefnogi rhanbarthau wrth iddynt ddatblygu'r cynigion ar gyfer y cylch nesaf, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. A yw'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymorth hwnnw ar gael, neu ryw fath o gefnogaeth debyg, pan ddeuwn at y ar adeg anoddach efallai lle mae'r arian ar gyfer y trawsnewid ar ben, mae'r gwersi wedi'u dysgu, ac mae angen prif-ffrydio hynny, os mynnwch chi, mae angen i hynny ddod yn rhan o arferion craidd. Oherwydd dyna, fel y dywedais, lle'r ydym ni wedi tueddu i fethu yn y gorffennol.

Mae hyn yn rhywbeth arloesol pwysig iawn. Mae'r Gweinidog yn gwybod ei fod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i'r hyn y mae'n ceisio ei wneud ag ef. Ond mae angen inni sicrhau na fydd hyn yn un arall o'r rhaglenni arloesol rhagorol hynny sydd wedyn yn mynd i'r gwellt pan fo angen i gyrff iechyd, ac yn wir gwasanaethau cymdeithasol a phawb sy'n eistedd ar y byrddau partneriaeth, newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar eu cyllidebau craidd pan fydd y gronfa arian hynod dderbyniol hwn wedi dod i ben.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:51, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod rhai heriau canolog yn y fan yna. O ran y cynnydd, cefais fy mhlesio'n fawr gan y ffordd yr oedd y tri neu bedwar bwrdd partneriaeth rhanbarthol cyntaf wedi llwyddo i gytuno ar eu cynigion yn yr amser a gymerodd hi. Yn benodol, gallaf ddweud yn onest fy mod yn credu bod y gogledd, o ystyried yr amryw heriau y maen nhw'n eu hwynebu, wedi cytuno ar ddull o weithredu yn gyflym iawn. Roeddwn yn disgwyl iddyn nhw fod yn arafach nag yr oedden nhw, ac rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r cysylltiadau partneriaeth gwell sy'n bodoli, o ran pob partner yn yr ystafell o amgylch bwrdd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

Yna mae'n ymwneud â'r her ynghylch datblygu hynny ar ôl cael y cynllun, ac yna recriwtio pobl, ac yn fwy na hynny, mae ynglŷn ag ôl-lenwi rhai o'r swyddi hynny hefyd wrth i bobl symud. Rydym ni wedi gweld hyn, er enghraifft, yn rhai o'n rhaglenni eraill pryd y penderfynon ni symud pobl. I gael cynllun y mae pawb yn ei dderbyn, ond wedyn i recriwtio'r bobl hynny mae yna broses i fynd drwyddi, yr holl bobl sy'n recriwtio, ac yna caiff y rhai a gafodd eu recriwtio eu symud wedyn, ac yna i wneud yn siŵr nad ydym yn tanseilio'r gwasanaethau sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Oherwydd rydym ni wedi gwneud hyn yn fwriadol i ddyblu'r gwasanaethau, oherwydd nad oeddem ni eisiau diddymu gwasanaethau a dweud wedyn, 'Rydym yn creu rhywbeth a fydd yn wych, felly ymdopwch hebddo am ychydig.' Felly, rydym ni wedi gwneud hyn yn fwriadol, ac mae'r realiti ymarferol o wneud hynny wedi effeithio ar yr hyn a ddylai fod wedi digwydd neu'r hyn a fyddai wedi bod yn bosib mewn egwyddor. Felly, yn syml, mae'n bwynt ymarferol, a doeddwn i ddim eisiau byrhau'r amser a oedd gan bob un o'r prosiectau trawsnewid hynny i ddangos y gwerth yr oedden nhw wedi'i gyflawni wrth drawsnewid y system. Dyna pam fy mod i wedi ymestyn yr amserlen ar gyfer y cynigion hynny o ran y gronfa drawsnewid, i'w gwerthuso, ac yna i wneud dewisiadau.

Nawr, bellach bydd y gronfa drawsnewid yn bodoli hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, ac wrth gwrs mae yna ddigwyddiadau eraill y bydd llawer ohonom ni yn ymwneud â nhw tua'r adeg honno, o ran dyfodol y Cynulliad a myfyrio ynghylch y Llywodraeth nesaf. Mae dewis o ran pa ddewisiadau gaiff eu gwneud ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, er y byddwn ni'n Welsh Parliament/Senedd erbyn hynny, gyda'r newid enw. Bryd hynny, mae angen inni wneud rhai dewisiadau ynglŷn â beth fydd y sefyllfa o bosib yn y dyfodol, a'r dewisiadau y gallwn eu gwneud o fewn y gyllideb. Ond wedyn bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth eisiau gwneud dewisiadau ynglŷn â beth i'w wneud i symud pethau yn eu blaen. Dyna'r pwynt canolog: nid yn unig, 'oes gennym ni restr o bethau y mae'n ymddangos eu bod yn gweithio?', ond, 'sut mae gwneud iddyn nhw weithio drwy'r system gyfan wedyn?' Dyna un o'r heriau yr wyf yn eu gosod o ran cael prosiectau a allai ehangu'n gyflym, yn ogystal â'r gonestrwydd ynghylch pethau nad ydynt wedi gweithio ac atal eu cyllid.

Felly, gall Gweinidogion wneud sawl peth i geisio annog pobl i weithio gyda'i gilydd ac i gyflwyno pethau. Fe allwch chi annog, a dweud wrth bobl eu bod wedi creu argraff fawr arnoch chi, ac mae hynny'n gweithio o bryd i'w gilydd gyda phobl wahanol. Fe allwch chi fynnu pethau a churo'r ddesg, os mynnwch chi, ac mae yna Weinidogion mewn gwahanol sefydliadau sy'n credu mai dyna'r ffordd i wneud pethau—nid dyna fy null i o weithredu. Gallwch gael pwerau cyfreithiol—gallwch naill ai newid y gyfraith neu ddefnyddio'r pwerau cyfreithiol sydd gennych chi i orfodi pobl neu ei gwneud hi'n ofynnol i bobl wneud pethau. Ac rydym ni wedi mabwysiadu rhywfaint o'r dull hwnnw, er enghraifft, gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a dreialwyd gan Gwenda Thomas drwy'r fan yma. Roedd hynny'n golygu bod angen i bobl gael cyllidebau cyfun ar waith, ond mewn gwirionedd, er gwaethaf y gofyniad cyfreithiol, roedd dod â'r rhain at ei gilydd yn anodd iawn, ac mae heriau ymarferol gwirioneddol. Yn y sefyllfa hon, rwy'n credu y bydd ganddyn nhw berthnasoedd rhesymol ac y byddan nhw mewn gwell sefyllfa hyd yn oed i orfod gwneud dewisiadau gyda'i gilydd, ac maen nhw wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â nid yn unig sut i wario arian, ond ynglŷn â sicrhau gwelliant.

Yna, mae'r ddau beth a fydd, yn fy marn i, yn helpu i'n hysgogi yn ymwneud â sut rydym ni'n dynodi arian. Felly, hyd yn oed gyda'r £100 miliwn yr ydym ni wedi'i gyhoeddi nawr, ac yr wyf wedi cadarnhau sut y caiff ei wario heddiw, sydd wedi cynhyrchu mwy na £100 miliwn o ran gwerth y gwaith ychwanegol a grëwyd ar draws rhanbarthau, rhwng partneriaid, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gweld mwy o hynny. Mae dewisiadau y bydd angen i Weinidogion eu gwneud yn y dyfodol ynghylch a ydym yn disgwyl gweld cyflwyno'r cynllun a dynodi arian penodol iddo, ac mae cymhellion dros wneud pethau, ynglŷn â dewis sut i symud rhywfaint o hyn ymlaen. Ac mae hefyd angen newid, oherwydd roedd yr adolygiad seneddol yn sôn am yr angen am newid. Ac mae gennym ni ddewisiadau, a'n dewis canolog yw caniatáu i newid ddigwydd i ni, oherwydd ein bod yn aros am argyfwng ac yna mae'n system ni'n torri. Mae'n rhaid i ni ei atgyweirio ar frys. Neu byddwn yn gwneud dewis, oherwydd bod anghenraid yn ein cymell ni i wneud hynny, oherwydd gallwn weld y pwynt hwnnw'n dod yn agosach ac yn agosach atom ni. Nawr, rwy'n credu y byddai'n gyfuniad o bob un o'r elfennau hynny, ond mae fy niddordeb mwyaf yn y parodrwydd a'r rheidrwydd sydd gan bartneriaid, yr ymrwymiad i wneud pethau'n wahanol, i oresgyn rhai o'r rhwystrau sefydliadol a diwylliannol i newid. Ac rwy'n credu y bydd y ffordd yr ydym yn defnyddio arian yn rhan allweddol o hynny hefyd, i ysgogi'r dyfodol.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:55, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r holltau hyn yn gwbl amlwg, felly mae'n well inni fwrw ymlaen â'r newid hwn, neu byddwn yn gyrru ein gwasanaeth iechyd i'r wal. Mae mwy a mwy o dystiolaeth ymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd annog pobl i fod yn iach ac aros yn iach drwy fwyta bwyd glân, ffres a gwneud ymarfer corff egnïol yn rheolaidd. Ac nid yn ein hieuenctid yn unig, ond drwy gydol ein hoes hefyd. A gwyddom mai dyna'r ffordd orau a'r ffordd rataf o gadw pobl allan o'r ysbyty.

Mae Camilla Cavendish, yn ei llyfr Extra Time, yn sôn am 10 gwers ar gyfer byd sy'n heneiddio. Rydym yn sôn am bwysigrwydd heneiddio mewn modd cywilyddus. Fodd bynnag, o ystyried yr epidemig gordewdra sy'n gyffredin i bobl o bob oedran, mae'n haws dweud na gwneud, ac mae gennym ni eisoes wahaniaethau enfawr mewn disgwyliad oes o un ward i'r llall yn fy etholaeth i yn unig. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymchwilio ymhellach i sut rydych chi'n bwriadu cyflawni'r ehangu hwn.

Gwelaf fod prosiect bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned, yn sôn am brosiectau garddio cymunedol, grwpiau cerdded, siediau dynion, a chaffis siarad, y gwyddom i gyd eu bod yn gweithio'n dda i bobl, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni am faint y prosiect hwnnw a sut byddwch yn mesur ei effeithiolrwydd?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:57, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Caiff hynny ei fesur yn unol â'r broses werthuso sydd gennym ni, ac mae'n mynd yn ôl at y cwestiynau yr wyf wedi'u hateb gan Angela Burns a Helen Mary Jones, ac yna mae'n ymwneud â, wel, a yw wedi cyrraedd sefyllfa lle y gellir ei ehangu? Oherwydd rhan o'n her ni yw y gallai pob un ohonom ni yn ein hetholaethau neu'n rhanbarthau ein hunain gyfeirio at bethau sy'n gweithio'n dda iawn yn ein barn ni mewn ardaloedd lleol, ond rydym yn gwybod nad ydynt o anghenraid yn mynd i weithio yn rhywle arall. Ac weithiau rydym yn cwrdd â phobl yn ein cymunedau sydd, yn ein barn ni, yn wirioneddol ysbrydoledig, ac maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd nad yw'n gweithio dim ond ychydig filltiroedd i lawr y ffordd. Wel, nid yw hynny'n ffordd systemig o wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae'n ymwneud â maint y prosiectau hynny; a ellir eu hehangu i raddfa lawer mwy neu a yw hynny, mewn gwirionedd, yn golygu bod angen gweithredu fel system neu yn lleol. 

Nid oes dim o'i le ar bobl yn gweithio'n lleol yn y gymuned honno. O safbwynt y system gyfan, mae'n rhaid i'r modelau gofal newydd y mae angen inni eu gweithredu fod yn fwy a bod â'r gallu i ehangu'n gyflym. Dyna pam fy mod i'n gosod y ffiniau hynny ar gyfer yr ail gam, a dyna'r rheswm hefyd, mewn ymateb i gwestiynau Helen Mary Jones, fy mod wedi cyfeirio at nifer o feysydd lle gall Gweinidogion wneud dewisiadau i helpu, i annog pobl neu ei gwneud hi'n ofynnol i bobl newid. Mae a wnelo hyn hefyd â'r ffactorau sy'n sbarduno partneriaid rhanbarthol eu hunain, sy'n cydnabod na all y system barhau fel y mae a chyflawni o ran y lefel ac ansawdd ac urddas y gofal y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl ar gyfer ein teuluoedd ein hunain, heb sôn am ein hetholwyr.

Felly, rwyf yn credu pan fyddwch chi'n gweld rhannu'r gwerthusiad ar ôl blwyddyn gyfan, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch hynny. Ond wrth gwrs, mae gan Aelodau yn eu hardaloedd lleol eu hunain berffaith hawl i fynd at eu bwrdd partneriaeth lleol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ymarferol a wnaed eisoes. Rwy'n gwybod, yn rhai o ardaloedd Caerdydd, eu bod nhw ar y blaen yn rhai o'r saith maes portffolio sydd ganddyn nhw nag mewn eraill.

Y sylw arall yr hoffwn ei wneud yw ei bod hi'n dda o beth atgoffa ein hunain ynghylch y sylw am iechyd gwael y gellir ei osgoi hefyd. Nid yw hyn ynglŷn â dim ond y galw sydd ar y gwasanaeth iechyd, ond gofal cymdeithasol hefyd. Felly, mae deiet, ymarfer corff, ysmygu ac alcohol yn bedwar maes mawr y gwyddom y gallwn wneud gwahaniaeth i ni ein hunain yng ngyswllt y rheini, ond mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn helpu ac yn annog pobl i wneud hynny, ac mewn gwirionedd mae'r gronfa drawsnewid ei hun wedi mynd ati'n fwriadol i ymdrin ag atal ac ymyrryd yn gynharach i helpu i gadw pobl yn iach yn hytrach na'r ymyrraeth acíwt pan fo pobl eisoes yn ddifrifol wael.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:59, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch.