Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rwy'n falch eich bod wedi dewis eich—nid eich 10 arwr uchaf yn hollol, ond roeddech chi bron yno, rwy'n meddwl. Ac rwy'n falch hefyd o weld y gair 'arwyr' yn cael ei ddefnyddio nid yng nghyd-destun rhyw gyflawniad unigolyddol, fel sy'n digwydd weithiau, hyd yn oed gydag arwyr chwaraeon ac arwyr eraill, ond ein bod yn dathlu'r ffaith bod yr arwyr hyn yn dod o gymuned, o gefndir, o brofiad cymdeithasol, y maent wedyn yn ei gymryd i gyflawni drostynt eu hunain. Ond nid drostynt eu hunain yn unig y maent yn cyflawni, maent yn cyflawni dros y diwylliant y daethant ohono.
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr yn bersonol yn y rhyfel cartref yng ngwledydd Sbaen, a chefais y fraint yn fy mywyd fy hun o gael adnabod a chael sgyrsiau diddorol iawn â Tom Jones, a adwaenid gan bawb—yn Gymraeg, yn sicr, ac yn Saesneg hefyd, mae'n debyg, yng Nghymru—fel Twm Sbaen. Mae ei brofiad a'i gyfraniad, nid yn unig yn ystod y gwrthdaro yn Sbaen ond i wleidyddiaeth mudiad yr undebau llafur a'r chwith a rhyngwladoliaeth yng Nghymru, yn un nodedig iawn.
Roeddwn hefyd yn falch eich bod wedi crybwyll y digwyddiadau yn yr Wcráin, ac yn amlwg mae gennych gysylltiad personol a theuluol cryf â'r fan honno, ac rwy'n credu bod gennym lawer i'w ddysgu o hyd am frwydr Wcráin drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o'r ugeinfed ganrif i'r unfed ganrif ar hugain. Mae dewis Gareth Jones yn ein hatgoffa eto o bwysigrwydd newyddiaduraeth annibynnol a gallu pobl i godi llais, gyda Malcom Muggeridge, fel y disgrifioch chi. Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna stryd yn Kyiv wedi'i henwi ar ei ôl, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny ac edrychaf ymlaen at gefnogi eich ymdrechion chi ac eraill i sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod i'r un graddau yng Nghymru.
John Hughes, eto, meteorolegydd a pheiriannydd nodedig. Faint o Gymry neu bobl a aned yng Nghymru sydd wedi sefydlu dinas? Ni allaf feddwl am un yn uniongyrchol. Mae'n siŵr bod rhyw ffigwr anghydffurfiol arwyddocaol a ddylai fod wedi dod i fy meddwl. Efallai, mewn gwirionedd, mai'r Mormoniaid a fyddai'n cyfateb iddo, yn Salt Lake City. Ond yn sicr, mae bod wedi gwneud hynny a sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn gyfraniad nodedig.
Ac yna, gan nesu at ein hamser ni, drwy hanes undeb y glowyr, down at Bertrand Russell yn awr. Rwy'n falch o ddweud yn y Siambr hon i mi gael y fraint o gyfarfod â Bertrand Russell yng nghyd-destun y mudiad heddwch, yng nghyd-destun y cyfraniad a wnaeth gyda'i delegram enwog a anfonwyd o Benrhyndeudraeth i Washington a Moscow adeg argyfwng taflegrau Cuba, a oedd yn gyfnod brawychus iawn i mi fel dyn cymharol ifanc ac i lawer o bobl eraill. Roedd yn sicr yn athronydd mawr ac yn ddyneiddiwr o fri. Nid wyf yn meddwl ei fod yn fawr o genedlaetholwr Cymreig, ond ni allaf ei feirniadu am hynny.
Yn amlwg, y ffigurau rhyngwladol eraill a grybwyllwyd gennych: mae yna ysfa gref, yn enwedig ar ran fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, i'n gweld yn dathlu Robert Owen yn iawn, a byddwn yn gwneud hynny. Ond mae hefyd yn bwysig yn y dathliadau hynny ein bod yn gallu cydnabod bod rhyngwladoliaeth fel y câi ei hyrwyddo gan y meibion a'r merched hyn o Gymru yn rhywbeth y mae angen inni ei adfer heddiw. Nid ymwneud â datganoli i Gymru yn unig y mae'r lle hwn, mae'n ymwneud â'r hyn y gall Cymru barhau i'w gyfrannu i'r byd rhyngwladol.